成人快手

Chwilio am ateb

  • Cyhoeddwyd
alergeddau
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Effaith yr alergeddau ar wyneb Louise Jones

Er bod nifer ohonom ni yn croesawu'r tywydd braf diweddar, mae'n gallu bod yn gyfnod pryderus i filoedd o bobl sy'n diodde yn flynyddol o glwy'r gwair.

Ond tra bod nifer yn gwneud eu gorau i ddelio gyda symptomau fel llygaid yn dyfrio, trwyn yn cosi a phen tost, mae gan rai pobl nifer o alergeddau eraill sy'n gwneud eu bywyd yn anodd.

Ers pedair blynedd, mae gan Louise Jones o Abertawe nifer o alergeddau difrifol ac mae hi'n dal i frwydro i geisio cael diagnosis clir a darganfod beth yn union sy'n eu hachosi. Bu hi'n s么n wrth Cymru Fyw am ei brwydr hir i gael atebion gan y meddygon:

Ers pan ro'n i'n ferch ysgol rwy' wedi cael problemau mawr 'da clefyd y gwair, ond erbyn hyn mae gen i alergeddau eraill hefyd sy'n amharu ar fy mywyd bob dydd.

Mae rheoli rhywbeth fel clefyd y gwair yn rhywbeth y medrwch chi ei wneud eich hunain gan amlaf, ac mae'n rywbeth tymhorol. Ond gydag alergeddau eraill dyw hynny ddim yn wir, ac mae cael cymorth gan arbenigwyr bron yn amhosib'.

Mae gen i alergedd i lawer o fwydydd gwahanol, sy'n gallu bod yn anodd. Mae fy nghorff yn adweithio hefyd i blaster a rhai metelau, felly mae'n rhaid i mi fod yn ofalus wrth ddewis gemwaith i'w wisgo. Dwi'n cadw dyddiadur o'r cyflwr ac yn tynnu lot o luniau.

Dim 'antibotics'

Dwi wedi clywed am bobl yn cyfyngu eu hunain i saith neu wyth math o fwyd, ond dwi'n ffeindio weithiau fy mod i yn adweithio, er enghraifft i domatos, ond dwi'n ffeindio y gallai eu bwyta eto mewn cwpl o wythnosau ddim amharu arna i.

Dechreuodd fy alergeddau bedair blynedd yn 么l, pan nes i ddechrau cael ymateb difrifol, anaffylactig i feddygyniaeth. Oherwydd hynny mae hi'n beryglus i mi gymryd antibotics. Duw a fy helpo os ga'i rywbeth fel meningitis, achos cha'i ddim cymryd y feddyginiaeth i wella. Felly dwi'n ofalus i osgoi salwch o'r fath, neu mi fyddai fe'n fy lladd i.

Mae'r cyflwr sydd gen i yn rhan o mastocytosis, ond yn ddiweddar mae wedi cael ei roi mewn dosbarth newydd. Y broblem sydd gen i yw nad oes na'r un meddyg yng Nghymru yn gallu rhoi diagnosis cywir o fy nghyflwr. Felly mae rhywun sydd efo alergeddau difrifol fel fi yn gorfod teithio i Lundain i geisio cael triniaeth effeithiol.

"Dim ar ben fy hun"

Does dim arbenigwyr yn Abertawe a dywedodd un o'r meddygon sy'n gweithio yn un o feddygfeydd mwyaf Cymru wrtha i mai dim ond un claf roedd e wedi ei weld gyda fy nghyflwr i. Fel fi, cafodd y claf ei gyfeirio at arbenigwr yn Llundain.

Dwi'n gwbod nad ydw i ar fy mhen fy hun yn hyn gan fy mod i mewn cysylltiad gyda dioddefwyr eraill ar y cyfryngau cymdeithasol. Rwy'n aelod o grwpiau Facebook sydd wedi eu creu gan bobl sydd ag alergeddau difrifol yng Nghymru, ac sy'n ceisio cael cymorth ariannol i gael triniaeth.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Louise wedi bod yn dioddef o glefyd y gwair ers pan oedd hi yn yr ysgol gynradd

Cafodd fy nghais cyntaf am gymorth ariannol ei wrthod er y gallai'r cymorth hwnnw fod wedi golygu fy mod yn byw neu farw. Yn ffodus fe wnaeth fy meddyg gais arall am gymorth a'r tro hwn ro'n i yn llwyddiannus.

Fe es i un ysbyty yn Llundain, ond wedyn roedd rhaid imi weld arbenigwr mewn ysbyty arall yn y ddinas felly ro'n i'n gorfod dechrau'r broses eto. O'r dechrau i'r diwedd mi fydd wedi cymryd tair blynedd a hanner i fi gael apwyntiad gyda'r arbenigwr iawn.

Hir yw pob aros

Mae clinic alegredd yng Nghaerdydd. Mae meddygon yno yn gallu profi am rai bwydydd maen nhw yn credu sy'n cael effaith wael arnoch chi. Ond yn Llundain mae'r clinic yno yn gallu darganfod yn union beth sy'n achosi'r adwaith.

Mae proses Individual Patient Funding yn galluogi eich meddyg i wneud cais ariannol i chi fedru cael triniaeth gan awdurdod iechyd arall. Os nad yw'r driniaeth ar gael yng Nghymru mae eich cais yn cael ei roi o flaen panel. Mae penderfyniad y panel yn aml yn dibynnu ar pa mor hwyr yw hi yn y flwyddyn ariannol.

Rwy'n flin pan rwy'n gweld cleifion yn Lloegr yn cwyno am orfod aros wyth wythnos am driniaeth. Fe fydden i wrth fy modd os mai dim ond wyth wythnos fydde'n rhaid i mi aros. Dwi 'di aros tair blynedd a hanner!

Dau wasanaeth iechyd?

Ro'n i dan yr argraff bod y gwasanaeth iechyd yna i roi gofal teg i gleifion yn Lloegr... a Chymru. Dyw hynny yn amlwg ddim yn wir.

Gallwch chi gymharu y sefyllfa rhwng Cymru a Lloegr. Does ddim yn rhaid i gleifion yn Lloegr wneud cais ariannol i drin alergeddau fel sydd gen i. Roedd dau arbenigwr yn Llundain yn rhan o'r broses yr oedd yn rhaid i mi fynd trwyddi cyn cael dechrau gwneud cais am arian i gael triniaeth

Er mwyn i mi gael y diagnosis iawn rwy'n ceisio peidio gwneud newidiadau mawr i fy ffordd o fyw ar hyn o bryd. Rwy eisiau i'r arbenigwyr fedru cael canlyniadau clir i brofion fel y gallan nhw, gobeithio, ddarganfod beth sy'n gwneud i mi adweithio i gymaint o bethau.

Gan bod yna cyn lleied o wybodaeth am y salwch sydd gen, mae'n bosib ei fod e'n deillio o glefyd y gwair oherwydd ei fod yn effeithio ar fy system imiwnedd. Pwy a 诺yr? Efallai bod hynny'n rywbeth arall i ni ei ystyried.