Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyhoeddi bwriad i godi carchar newydd ym Mhort Talbot
Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi cynlluniau i adeiladu carchar newydd ym Mhort Talbot fel rhan o ymdrechion i foderneiddio a mynd i'r afael 芒 diffyg lleoedd.
Mae 成人快手 Cymru'n deall y bydd lle i 1,600 o droseddwyr yn y carchar categori C, er nad yw'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cadarnhau hynny.
Y bwriad yw adeiladu'r carchar newydd ar dir yn agos i hen ffatri Panasonic yn ardal Baglan, ger yr M4, yn 么l Llywodraeth Cymru.
Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Liz Truss, fod 拢1.3bn wedi ei glustnodi i adeiladu neu ailddatblygu pedwar carchar ar draws y DU.
Dywedodd yr AC Llafur lleol, David Rees, bod angen hwb economaidd ar yr ardal, ond y byddai'n sicrhau bod mesurau i ddiogelu cymunedau.
Ond mae AC Plaid Cymru, Adam Price, wedi beirniadu'r cynlluniau, gan ddweud nad "troi Cymru yn garchar mawr i system gyfiawnder Lloegr yw'r dyfodol economaidd rydyn ni'n ei haeddu".
Nod Llywodraeth Prydain yw creu 10,000 o leoedd carchar newydd erbyn 2020. Maen nhw'n dweud y bydd y cynlluniau'n creu hyd at 2,000 o swyddi ym maes adeiladu a gweithgynhyrchu dros y pedwar safle.
Dywedodd AC Llafur dros Aberafan, David Rees, ei fod yn croesawu'r swyddi newydd posib, ond bod angen ystyried effaith y datblygiad ar y gymuned.
"Mae gan fusnesau lleol gyfle i dyfu yn sgil hyn. Efallai pan ddaw ymwelwyr, bydd cyfle i gaffis a thacsis elwa. Mae'n gyfle na allwn ni ei golli ac mae'r swyddi hyn yn bwysig i ni.
"Mae angen sicrhau mai dyma'r safle addas, a bod darpariaeth ar gyfer diogelwch y cymunedau ger y safle a'u bod yn gyfforddus 'efo be' sy'n cael ei adeiladu."
Ychwanegodd fod y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dweud wrtho y bydd 'na ymgynghoriad fel bod pobl yn gallu rhoi eu barn.
'Gwell na hyn'
Ond dywedodd AC Plaid Cymru, Adam Price, bod angen gwell strategaeth economaidd ar Gymru.
"Nid troi Cymru yn garchar mawr i system gyfiawnder Lloegr yw'r dyfodol economaidd rydyn ni'n ei haeddu nac ei angen," meddai ar Twitter. "Rydyn ni'n well na hyn."
Daw'r cyhoeddiad ychydig wythnosau wedi i Garchar y Berwyn - sydd 芒 lle i dros 2,000 o garcharorion - agor ger Wrecsam.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, bod y Berwyn wedi cael effaith "gadarnhaol" ar y gogledd, ac y byddai'r safle ym Mhort Talbot yn cynnig cyfleoedd tebyg.
"Bydd carchar newydd yn ne Cymru yn dod 芒'i gyfleoedd economaidd ei hun - gan gynnwys swyddi newydd a chytundebau i gyflenwyr lleol, a bydd yn cyflymu nod y llywodraeth o newid hen garchardai aneconomaidd am gyfleusterau modern, mwy cost-effeithiol", meddai.
Wrth egluro'r cynlluniau, dywedodd Ms Truss: "Fydd hen garchardai, gyda choridorau tywyll ac amodau cyfyng, ddim yn helpu troseddwyr i droi eu cefnau ar droseddu, a dydyn nhw ddim yn darparu swyddogion carchar proffesiynol ac ymroddgar gyda'r offer a'r amgylchedd iawn iddyn nhw wneud eu swyddi'n effeithiol."
Fe gadarnhaodd Ms Truss hefyd y bydd 'na gyhoeddiad am gau carchardai yn hwyrach yn 2017. Dywedodd y bydd gwaith gwerthuso'r stad carchadai yn dechrau nawr.
Awgrymodd AS Canol Caerdydd, Jo Stevens, y gallai Carchar Caerdydd gau.
"Rwy' ar ddeall gan y gweinidog carchardai nad oes penderfyniad wedi ei wneud am ei ddyfodol, ac nad yw'r carchar newydd i fod i gymryd lle carchar Caerdydd na charchar Abertawe", meddai.
"Mae'n amlwg i mi fod penodi cwmni Savills i werthuso'r safle yn mynd i arwain at werthu safle Carchar Caerdydd. Byddaf yn mynnu sicrwydd gan y llywodraeth y bydd y staff, y carcharorion a mynediad i deuluoedd i ymweld yn flaenoriaethau wrth benderfynu ar ddyfodol Carchar Caerdydd."
Mae'r penderfyniad terfynol ar Garchar Port Talbot yn dibynnu ar gael caniat芒d cynllunio, yn ogystal 芒 phwyso a mesur gwerth am arian a fforddiadwyedd y cynlluniau.
Dywedodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot nad ydyn nhw wedi derbyn cais cynllunio gan y Weinyddiaeth Amddiffyn eto.