Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Carchar y Berwyn: Asesu'r effaith ar economi'r gogledd
- Awdur, Dafydd Morgan
- Swydd, Newyddion 成人快手 Cymru
Wedi bron i ddwy flynedd o waith adeiladu, mae Carchar y Berwyn - carchar mwyaf Prydain, a'r unig garchar yng Ngogledd Cymru - yn agor.
Gyda'r carchar yn gyflogwr newydd, wrth gwrs, mae swyddi newydd sbon wedi'u creu.
Ond pa effaith fydd agor y carchar yn ei gael ar economi'r gogledd-ddwyrain?
'Mwyafrif llethol o blaid'
Un oedd yn awyddus i ddenu'r carchar i'r gogledd oedd Aled Roberts, oedd yn arweinydd Cyngor Wrecsam adeg yr ymgyrchu i gartrefu'r carchar yno.
Yn ei 么l ef, mae'r ardal wedi elwa yn ystod y cyfnod adeiladu ynghyd ac wrth i'r carchar agor.
"Dwi'n meddwl bod mwyafrif llethol y boblogaeth leol o blaid y carchar o achos y swyddi oedd yn cael eu creu, a rheiny'n swyddi dibynadwy, gyda chyflog uwch na'r cyfartaledd lleol", meddai.
"Mae 'na 53 o brentisiaid wedi cael eu cyflogi ar y safle - y rhan fwyaf ohonyn nhw o Wrecsam a Sir y Fflint - a hefyd mae 'na dros 1,800 o brofiadau gwaith wedi cael eu creu.
"Mae'n bwysig ein bod yn dangos bod swyddi ar gael yn lleol, achos mae swyddi yn yr ardal yma yn draddodiadol wedi cael cyflogau isel, ac o achos hynny mae ein plant mwyaf medrus yn symud oddi yma."
Yn 么l y Weinyddiaeth Gyfiawnder bydd 1,000 o swyddi yn gysylltiedig yn uniongyrchol 芒'r carchar.
Felly mae digon o s么n am swyddi o fewn y carchar, ond fydd y carchar yn cael effaith ar yr economi ehangach?
Mae Gethin Thomas, sy'n gyrru tacsi yn ardal Wrecsam, yn credu y gallai ei fusnes elwa wedi i'r carchar agor.
"Mae'r carchar ar stad diwydiannol, tipyn o ffordd o'r orsaf drenau ym mhen arall y dref - siwrne o ryw chwarter awr," meddai.
"Dydi'r drafnidiaeth gyhoeddus leol ddim yn barod i ddarparu'r gwasanaeth, felly fedra' i weld mantais i gwmn茂au tacsi i gludo ymwelwyr 'n么l a 'mlaen."
Un gr诺p sydd wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn agor y carchar yw Community Action on Prison Expansion.
Maen nhw'n dweud mai "myth" yw'r twf economaidd sy'n dod o agor carchardai, ac mai anaml y mae busnesau lleol yn elwa.
'Cyfres o gynlluniau'
Ond yn 么l Iwan Trefor Jones o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, mae'r rhanbarth eisoes wedi elwa yn ystod y cyfnod adeiladu drwy hyfforddiant, gyda'r gweithlu hynny o bosib yn cyfrannu at brosiectau arall yn y gogledd.
"Fe fydd 'na gyfres o gynlluniau yn cael eu datblygu yn y gogledd dros y blynyddoedd i ddod, a'r rheiny yn gynlluniau ar raddfa sylweddol," meddai.
"Mae'n bosib cyfeirio at ddatblygiad Wylfa Newydd, mae cyfleoedd i drydaneiddio'r rheilffordd, mae 'na gyfres o barciau busnes yn codi, ac mae'r rhain yn amlwg yn mynd i fod yn fuddsoddiad cyfalaf sylweddol ar draws gogledd Cymru."
Dyw'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ddim wedi datgelu faint o fusnesau lleol sydd wedi ennill cytundebau i gyflenwi'r carchar.
Ond gyda swyddi o safon, cyflogau da o fewn y carchar, a gweithlu adeiladu sy'n barod i weithio ar brosiectau arall yn y gogledd, mae potensial economaidd gref i'r carchar yn y tymor hir.