成人快手

Dail Prin?

  • Cyhoeddwyd
waldo

Mae hi'n 60 mlynedd ers i'r bardd Waldo Williams gyhoeddi ei gyfrol enwog Dail Pren. Ond pa mor berthnasol yw casgliadau o'r fath heddiw?

Gofynnodd Cymru Fyw i'r bardd ifanc Iestyn Tyne drafod pa mor berthnasol yw casgliadau fel Dail Pren heddiw, a beth fydd natur a llwyfan barddoni yn y dyfodol:

Tydw i ddim yn un o'r rhai sydd wedi eu cyfareddu yn llwyr gan awen Waldo Williams, nac yn honni ei ddeall yn llwyr chwaith (oes unrhyw un?). Y profiad o astudio 'Preseli' ar y maes llafur Lefel A oedd fy nghyflwyniad cyntaf i'w waith, a thueddaf i ffafrio ei gerddi byrrach, syml a grymus fel y gerdd honno neu Yr Hen Allt, ac Yr Eiliad.

Ym 1956, drigain mlynedd yn 么l yn union y cyhoeddwyd Dail Pren yn wreiddiol, a chynhwysa holl ganu gorau'r bardd hyd y pwynt hwnnw. Mae dyngarwch a brawdoliaeth Waldo yn gorwedd o dan bob cerdd (ar wah芒n, efallai, i ambell gerdd mwy ysgafn), sy'n rhoi unoliaeth cryf i'r gyfrol.

'Cerddi mawr' ymhob oes

Un o'r cwestiynau a ofynnwyd i mi wrth fwrw ati i ysgrifennu'r pwt yma oedd a oes dyfodol i gasgliadau fel hwn?

Wel, oes. Yn sicr, mi fydd yna bobl yn dal i ddarllen cerddi Dail Pren, yn dal i gael cysur wrth eu darllen, ac fe erys Waldo yn un o'r cewri. Er hyn i gyd, credaf ei bod yn anhebygol y gwelwn ni lawer o gyfrolau 'mawr' newydd fel hon. Dwi'n sicr y bydd cerddi 'mawr' ym mhob oes, ond mae natur y galw wedi newid.

Gyda Gerallt bu farw 'llais' barddol mwyaf amlwg y cyfnod diwethaf. Mae'n annodd meddwl, er mawredd beirdd y degawdau diwethaf, am unrhyw un arall sydd mor gyson yn them芒u'r canu.

Yn fy marn i, da o beth yw hynny; prin yw'r rhai sy'n medru canu telyn ac arni un tant yn unig heb ddiflasu pawb! Cerddi cenedlaetholgar a marwnadau fu forte Gerallt ar hyd ei oes, ac nid yw'n gwyro llawer oddi arnyn nhw, ond mae swyddogaeth bardd yr unfed ganrif ar hugain yn wahanol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Enillodd Iestyn coron Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint 2016

Bardd yr ymateb sydyn yw bardd ein canrif ni - y bardd sy'n astud i'r byd, yn uwchlwytho englyn i'w gyfrif trydar funudau wedi ymosodiad terfysgol y pen arall i'r byd.

Byddai rhai yn dadlau'n gryf nad canu diffuant yw'r math yma o beth; y dylai'r bardd ganu o brofiad ac o brofiad yn unig, ond mae cerddi o'r math yma yn dod yn fwyfwy poblogaidd ar y rhwydweithiau cymdeithasol, diolch i rai fel Llion Jones, y bardd y tu 么l i Trydar mewn Trawiadau. Mae cymuned Twitter wrth eu boddau 芒'r darnau bach bite size blasus yma sydd mor amrywiol - yn ymateb i newyddion, yn trafod, yn cwestiynu, yn athronyddu, neu'n straeon bach abswrd o fywyd bob dydd.

Ffyrdd gwahanol o gyfleu barddoniaeth

'Dwi wedi bod mewn sawl lansiad i gyfrolau o farddoniaeth yn ddiweddar, a pheth trist yw gweld yn aml mai beirdd eraill yw mwyafrif y bobl sydd yno. O ystyried prif swyddogaethau barddoniaeth, dydi hi'n dda i ddim cael llond ystafell o feirdd yn dweud pethau mawrion wrth ei gilydd! Mae lle i'r gyfrol heddiw, ond mae'n rhaid i'r bardd modern archwilio dulliau eraill o gyfathrebu 芒'i gynulleidfa - y w锚, y teledu, cylchgronnau neu gelf stryd, er enghraifft.

Mae'n ffaith nad yw cymaint o bobl bellach yn eistedd i lawr i ddarllen llyfr felly mae'n bwysig gwneud yn siwr fod barddoniaeth yn ymddangos o flaen eu llygaid mewn ffyrdd gwahanol. Rhyddhaodd Karen Owen gyfrol o gerddi - Lein a B卯t yng Nghalon Bardd - ar CD i gyfeiliant cerddoriaeth yn ddiweddar, er enghraifft.

Mae hyn yn digwydd, ac mae'n rhaid iddo ddal i ddigwydd neu mewn can mlynedd fydd yna ddim beirdd. Mae magu beirdd a llenorion newydd yn dibynnu ar s卯n farddol sy'n barod i agor ei breichiau a derbyn beth bynnag maen nhw eisiau ei ddweud a sut maen nhw eisiau ei ddweud o (sylwer - 'derbyn,' ac nid o reidrwydd 'cytuno'!).

Y mwyaf o amrywiaeth sydd yn null y beirdd o gyfleu eu neges i'r gynulleidfa, y gorau - a'r mwyaf o ddarllenwyr newydd fydd yn cael eu rhwydo at yr iaith Gymraeg. Mae lle i gyfrolau gan feirdd heddiw, ond y mae pob cynfas gwag sy'n ei gynnig ei hun yn lwyfan newydd i farddoniaeth Gymraeg.