成人快手

"Rydw i'n Dalwrnaholic"

  • Cyhoeddwyd
Y Meuryn a'r Ffoaduriaid: Y Prifardd Ceri Wyn Jones gyda phencampwyr presennol Talwrn y Beirdd, Y Ffoaduriaid
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Meuryn a'r Ffoaduriaid: Y Prifardd Ceri Wyn Jones gyda phencampwyr presennol Talwrn y Beirdd

Mae hi'n un o gyfresi mwyaf poblogaidd Radio Cymru ers degawdau. Efallai bod yna Feuryn newydd ond mae'r cystadlu rhwng meistri'r cerddi rhydd a'r cerddi caeth yr un mor chwilfrydig ar Talwrn y Beirdd.

Mae Pigion y Talwrn (Cyhoeddiadau Barddas) sy'n cynnwys haid o gerddi mwyaf cofiadwy y cyfresi cyntaf dan oruchwyliaeth y Prifardd Ceri Wyn Jones, bellach yn y siopau.

Y Ffoaduriaid, t卯m o feirdd ifanc, enillodd goron y Talwrn eleni. Mae'n cynnwys Ll欧r Gwyn Lewis, Casia Wiliam a chwpl priod, Gwennan Evans a Gruffudd Owen.

Roedd Hel Llus Yn y Glaw, cyfrol farddoniaeth gyntaf Gruffudd, sy'n wreiddiol o Bwllheli, ar restr fer Llyfr y Flwyddyn eleni hefyd. Mi ofynnodd Cymru Fyw iddo beth yw ap锚l y Talwrn i'r genhedlaeth newydd o feirdd:

Fy enw i ydi Gruffudd Owen, dw i'n ddeg ar hugain oed a dw i'n Dalwrnaholic.

Dwi'n gwrando ar bob pennod yn fyw ar y nos Sul ac yn ail-wrando arni wedyn ar yr iPlayer. Mi fyddaf yn ffonio Mam (talwrnaholic arall) er mwyn rhoi post-mortem ar bob gornest ac yn trafod pwy gafodd gam, pwy gafodd llai o hwyl arni nag arfer a phwy sydd yn llais newydd cyffrous. Wyddoch chi'r ffordd mae hogiau go iawn yn teimlo am b锚l-droed? Wel, dyna sut dwi'n teimlo am Y Talwrn.

Dwi wedi bod yn ffan o'r gyfres ers pan oeddwn yn arddegun bach rhyfedd, ond fe waethygodd y clwy' pan ymunais gyda th卯m Y Ffoaduriaid n么l yn 2010. Ar y pryd ni oedd y t卯m ifancaf yn y gyfres, ac os ydw i'n gwbl onest, un o'r salaf hefyd! Rydw i'n gwingo wrth ail-ddarllen rhai o'm hymdrechion cynnar tila, ond roedd Gerallt ac yn ddiweddarach Ceri Wyn wastad yn barod iawn eu hanogaeth, eu canmoliaeth a'u cyngor.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gruffudd, y "Talwrnaholic"

Trafod tactegau

Ar 么l derbyn ein tasgau rydan ni fel t卯m yn cyfarfod i rannu ein hymdrechion ac i drafod tactegau. Mae pob cwpled, limrig a llinell o delyneg yn cael ei dafoli a'i ddadansoddi'n racs gennym, a dim ond pan ydan ni'n gwbl fodlon ar bob ymgais yr ydan ni'n danfon y cynnyrch tua'r Meuryn.

Ar noson y recordio mae'r t卯m cyfan yn stwffio i un car, yn tanio'r sat naf ac yn gyrru i bentre' rhywle ym mherfeddion Sir Gaerfyrddin neu Geredigion lle mae'r neuaddau'n oer ond y croeso'n gynnes.

Er bod y tasgau eisoes wedi eu cwblhau rydw i'n tueddu i ddanfon fy nghyd-Ffoaduriaid o'u coeau wrth ddyfynnu fy 'stats' am y t卯m arall. 'Stats' megis 'Pwy ydi top scorer y t卯m? Sawl deg marc gawson nhw'r gyfres dwytha? Ydyn nhw'n debygol o'n curo ni mewn llinell ar y pryd?'

Ar 么l recordio, er ei bod hi yn aml wedi deg y nos a ninnau filltiroedd o'n gwl芒u, mae'n ddefod hanfodol bod rhaid mynd i'r afael 芒 gwledd o frechdanau a chacennau sydd wedi eu darparu ar ein cyfer gan y cymdeithasau caredig sydd yn gwahodd y gyfres i'w cymunedau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Un peth yw cyfansoddi campwaith ond mae angen ei pherfformio hi hefyd!

Brechdanau ham

Ar 么l panad a sgwrs letchwith gyda'r Meuryn mae'n amser stwffio'n pocedi yn llawn brechdanau ham a'i throi hi am adra. Wrth yrru drwy'r tywyllwch yn 么l am Gaerdydd rydan ni i gyd yn esgus gwaredu bod Y Talwrn yn waith caled, ond mewn gwirionedd rydan ni wrth ein boddau cael gwneud.

Ar ambell awr ddu, mi fydda i yn cwestiynu os mai fel hyn y dylai beirdd go iawn sgwennu? Onid rhywbeth gonest wedi ei lusgo o grombil y bardd dylai cerdd fod yn hytrach na rhywbeth wedi ei sgwennu at ordor er mwyn diddanu cynulleidfa? Ond wedyn mi rydw i'n atgoffa fy hun gymaint rydw i a nghyd-Ffoaduriaid wedi tyfu drwy fod yn feirdd Talwrn.

Mae pob Talyrnwr gwerth ei halen wedi teimlo'r boen o adrodd cerdd a chlywed eiliad betrus o dawelwch cyn cymeradwyaeth glaear y gynulleidfa. Honno ydi'r eiliad mae rhywun yn gwybod nad ydi'r gerdd wedi ei tharo'n l芒n, a hynny sydd yn gyrru rhywun i drio'n galetach y tro nesaf. Mae cynulleidfa yn gorfodi rhywun i fireinio'u crefft.

Chwip-din

Eleni, fe lwyddom ni'r Ffoaduriaid i gyrraedd ffeinal y gyfres. Doedden ni ddim wedi disgwyl curo, gan fod ein gwrthwynebwyr, t卯m Aberhafren yn d卯m hurt o beryglus, ac wedi rhoi sawl chwip-din gofiadwy i ni yn y gorffennol. Ond eleni, rhywsut, rhywfodd, ni ddaeth i'r brig.

Bydd cyfres arall o'r Talwrn yn cychwyn yn y flwyddyn newydd, ac rydw i eisoes yn gwingo edrych ymlaen at dderbyn tasgau'r rownd gyntaf.

Mae hi'n wir fod tipyn llai o dimau yn cymryd rhan nag y bu, ac fel bron pob gweithgaredd Gymraeg mae'r cynulleidfaoedd yn dueddol o fod yn h欧n a'r niferoedd braidd yn denau. Gall Y Talwrn hefyd adlewyrchu problem ehangach barddoniaeth Gymraeg gyfoes, sef fod gormod o'r un math o feirdd yn canu ar yr un math o destunau. Byddai'n wych clywed lleisiau a safbwyntiau newydd ar y gyfres. Wedi dweud hynny, roedd gwrando ar raglenni uchafbwyntiau'r gyfres yn gynharach eleni yn profi bod gennym lawer mwy o le i lawenhau nac i wangalonni.

Wedi'r ffeinal eleni, fe drodd Owain Rhys o d卯m Aberhafren atom a dweud gyda gw锚n: "We were the future, once."

Fy ngobaith pennaf i ydi y cawn ninnau'r Ffoaduriaid ddweud yr un peth ryw ddydd ar 么l colli i d卯m o daclau ifanc talentog. Hir oes i'r Talwrn.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gwennan, Casia, Gruffudd a Ll欧r wedi gwirioni ar ennill Y Talwrn

Pigion y Talwrn (Cyhoeddiadau Barddas)

Hel Llus yn y Glaw (Cyhoeddiadau Barddas)

Disgrifiad,

Y Wisg Gymreig - c芒n gofiadwy Gruffudd Owen i steil y criw Cerdd Dant