Ateb y Galw: Mark Lewis Jones
- Cyhoeddwyd
Mark Lewis Jones sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Ffion Dafis yr wythnos diwethaf.
Beth ydy dy atgof cyntaf?
Dwi'n cofio bod ar swing yn Ysgol Rhos, yn mynd yn uchel iawn... dwi'n si诺r doedd o ddim yn uchel go iawn, ond roedd o'n teimlo felly pan ro'n i'n dair oed.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Dwi'n cofio gweld Nadia Com膬neci yng Ngemau Olympaidd Montreal pan o'n i'n 12 - gafodd hi'r '10 perffaith'.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Pan o'n i'n ffilmio Solomon a Gaenor ac yn aros mewn gwesty yng Nghaerdydd, es i'r toiled yn noeth yn y nos ac fe nath y drws gau tu 么l i mi gyda fi yn y coridor. Roedd rhaid mi fynd lawr i'r dderbynfa, gyda fy nwylo yn cuddio'r privates, a chael y porter i'n ngadael i n么l fewn i fy stafell.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Yn gwylio The Green Hollow noson o'r blaen ar y 成人快手, o'n i'n meddwl bod o'n brilliant a'r actio ynddo yn hollol wych.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dwi'n tacluso ar 么l pawb, ac yn mynd ar nerfau pawb - rhywfath o OCD.
P'run yw dy hoff le yng Nghymru a pham?
Mae yna fferm o'r enw Plas Brain uwchben Rhos, ac yno fe alli di weld yr ardal i gyd, a dyna yw fy hoff le i - dyna yw gartref i mi.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Genedigaeth fy mhedwar o blant, a 9 Hydref 2015 pan 'nes i briodi Gwenno.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Cyfeillgar, taclus, ac mae fy ngwraig i'n dweud, caredig.
Beth yw dy hoff lyfr?
Crime and Punishment gan Fyodor Dostoyevsky - dwi 'di'i ddarllen dair gwaith.
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Par o b诺ts RM Williams. Dwi 'di gwisgo nhw ers 1990 (ddim yr un p芒r!) ac mae nhw'n para tair blynedd i mi. Dwi 'di gwisgo'r un steil yr holl amser ac mae nhw mor gyfforddus a bendigedig.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
Son of Saul. Ffilm am yr Holocost - anodd i'w wylio, ond mae'n dda iawn.
Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?
Tom Hanks. Dwi'n meddwl fod o'n wych ac yn gallu chwarae unrhyw ran.
Dy hoff albwm?
Astral Weeks gan Van Morrison. 'Nes i weld o yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd tua 1984, a hon yw'n hoff albwm i ganddo fo.
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a be' fyddai'r dewis?
Ham, 诺y a chips.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai o/hi?
Dwi'n methu penderfynu, felly mae rhaid i mi roi dau. Sam Warburton, er mwyn cael arwain Cymru allan ar y cae yng Nghaerdydd. Neu fyswn i'n hoffi bod yn bianydd anhygoel fel Vladimir Ashkenazy.
Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Julian Lewis Jones