成人快手

Belaod coed prin iawn wedi'u geni yng Ngwm Rheidol

  • Cyhoeddwyd
pine martenFfynhonnell y llun, James Moore

Mae gwarchodwyr natur yn dweud fod o leiaf pum bele'r coed (pine marten) prin iawn wedi'u geni yng Nghwm Rheidol.

Yr hydref diwethaf, cafodd deg bele'r coed benywaidd eu cyflwyno yn 么l i'r gwyllt gan yr Ymddiriedolaeth Natur yn y Canolbarth.

Nawr mae'r naturiaethwyr yn dweud fod o leiaf tair ohonyn nhw wedi cael rhai bach.

Mae'r anifeiliad ymhlith y creaduriaid cigysol mwyaf prin ym Mhrydain, a dim ond y cath goed sy'n fwy prin.

Ffynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth bywyd gwyllt Vincent
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae naturiaethwyr yn credu bod o leiaf pump bele bach wedi'u geni

Roedd y bele'r coed wedi diflannu o'r rhan fwyaf o gefn gwlad Prydain erbyn dechrau'r 20fed ganrif, gydag ond ychydig i'w gweld yng Nghymru, y Gororau a gogledd Lloegr.

Disgynnodd nifer yr anifeiliad wrth i'w cynefin ddiflannu a chynnydd mewn ystadau saethu Fictorianaidd.

Y llynedd cafodd yr anifeiliaid eu cyflwyno yn 么l i Gymru o'r Alban, lle mae nhw'n fwy cyffredin, fel rhan o gynllun chwe blynedd i gynyddu poblogaeth belaod gwyllt yng Nghymru a Lloegr.

Fel rhan o'r prosiect cafodd 20 anifail o'r Alban eu rhyddhau ar dir sy'n berchen i Gyfoeth Naturiol Cymru, ac mae ymchwiliad pellach wedi dod i'r casgliad bod o leiaf pump o rai bach wedi'u geni.

'Mor hapus'

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y naturiaethwr Iolo Williams yn cefnogi'r prosiect

Mae'r naturiaethwr a'r darlledwr Iolo Williams yn un o noddwyr y prosect, ac mae wrth ei fodd gyda'r newyddion.

"Dwi mor hapus i glywed y newyddion hyn, dwi'n breuddwydio am y diwrnod pan fyddai'n gallu cerdded coedtir canolbarth Cymru a gweld bele'r coed yn byw yn wyllt," meddai.

Mae prosiect Ymddiriedolaeth Natur Gwyllt Vincent yn bwriadu cyflwyno 20 bele arall i Gymru yn yr Hydref.