成人快手

Lansio cwrs newydd i ddysgwyr Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Ffon symudolFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae cwmni sy'n gyfrifol am ap am ddim ar-lein i ddysgu ieithoedd wedi lansio .

Mae bron i 13,000 o bobl wedi cofrestru eu diddordeb mewn dysgu Cymraeg ar gwrs cwmni Duolingo'n barod, ac mae gan y cwmni 105 miliwn o ddefnyddwyr ar draws y byd.

Rhan o'r rheswm dros boblogrwydd ap ieithoedd y cwmni yw mai g锚m ydi hi, a bod pwyslais ar hwyl.

Fe brofodd y Wyddeleg yn hynod o boblogaidd ar yr ap ac mae dros filiwn o unigolion wedi dangos diddordeb i ddysgu'r iaith honno mewn ychydig dros flwyddyn.

'Lot o alw'

Pan gafodd cynlluniau i ddatblygu'r ap ar gyfer y Gymraeg ei gyhoeddi fis Hydref y llynedd, ddywedodd Gina Gotthilf, pennaeth marchnata a chyfathrebu Duolingo wrth 成人快手 Cymru Fyw bod "lot o alw" gan bobl i'r Gymraeg gael ei chynnwys gan y cwmni.

"Roedden nhw'n lleisiol iawn, trefnus, ac fe wnaethon nhw gyflwyno dadleuon da iawn dros ei datblygu hi," meddai. "Felly mi benderfynom ni wrando.

"Rydym yn gobeithio ysbrydoli pobol - ifanc a h欧n - i ddysgu ieithoedd gyda Duolingo ac rydym wedi denu niferoedd enfawr i ddysgu ieithoedd newydd - llawer sydd erioed wedi dangos diddordeb mewn dysgu ieithoedd o'r blaen."

'Potensial' i'r iaith

Un sydd wedi defnyddio Duolingo i ddysgu Ffrangeg yw cyflwynydd Radio Cymru, Tudur Owen. Roedd y comed茂wr yn ffyddiog y byddai'r yr ap yn cael effaith arwyddocaol pan gafodd y cynllun ei gyhoeddi i ddatblygu'r ap yn Gymraeg y llynedd.

Dywedodd ar y pryd: "Mae hwn yn mynd i wneud mwy o les i ddysgu Cymraeg na unrhyw beth sydd wedi bod. Mae o'n mynd i fod yn anferth."