Byrddau iechyd 'yn debygol o orwario'
- Cyhoeddwyd
Mae dau fwrdd iechyd yng Nghymru yn debygol o wario mwy na'u cyllid, yn 么l y gweinidog iechyd.
Mae Mark Drakeford wedi rhagweld y bydd byrddau iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Hywel Dda yn gorwario eleni.
Yn sesiwn pwyllgor iechyd y Cynulliad dywedodd: "Ni fydda' i'n rhoi arian ychwanegol iddyn nhw [eleni] ac mae'n ymddangos taw'r ddau fwrdd hyn fydd yn ei chael hi'n anodd i aros o fewn eu cyllid."
Mewn datganiad dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod yn disgwyl gorwario bron 拢20m neu 1.5% o'u cyllid.
Y llynedd roedd y ddau fwrdd iechyd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi gorwario 拢50m - er i'r llywodraeth roi 拢240m yn ychwanegol i'r Gwasanaeth Iechyd.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Rydym yn rhagweld diffyg o 拢19.7m ar gyfer blwyddyn ariannol 2015-16...
"Yn amlwg, mae hyn yn siomedig, ond mae'n arwydd o'r heriau sylweddol sy'n wynebu'r bwrdd iechyd, gan gynnwys yr amgylchiadau unigryw a arweiniodd at y bwrdd iechyd yn cael ei roi mewn mesurau arbennig.
"Bydd penodi prif weithredwr parhaol, ynghyd 芒 datblygu strategaeth tymor canolig ar gyfer gwasanaethau clinigol diogel a chynaliadwy yn allweddol fel bod modd i ni fantoli'r gyllideb yn y blynyddoedd i ddod."
Dywedodd Darran Millar, gweinidog iechyd cysgodol y Ceidwadwyr: "Er gwaethaf yr addewidion na fydd 'na fwy o arian i'r byrddau iechyd y tro hwn, mae'n destun pryder y bydd o leiaf dau fwrdd iechyd yn ei chael hi'n anodd mantoli'u cyllid eleni.
"Mae'r sefyllfa yn symptom o fethiant Llafur i amddiffyn y cyllid iechyd yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae'n pwysleisio'r diffyg cynnydd ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr."
'Goblygiadau'
Yn y pwyllgor cafodd Mr Drakeford ei holi am y gyllideb iechyd gafodd ei chyhoeddi'r mis diwethaf.
Dywedodd ei fod yn obeithiol iawn y byddai gwelliannau ym myrddau iechyd Aneurin Bevan, Cwm Taf a Phowys, ond ei fod yn "llai hyderus" am fyrddau iechyd Caerdydd a'r Fro ac Abertawe Bro Morgannwg.
Mae'r pwyllgor wedi trafod sut mae cynghorau lleol a byrddau iechyd yn cydweithio i gynnal gwasanaethau iechyd a chymdeithasol.
Fe gododd Elin Jones o Blaid Cymru bryderon fod y cynghorau yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn wynebu toriadau o fwy na 3% i'w cyllideb.
Dywedodd y gallai hynny gynyddu'r pwysau ar fwrdd iechyd sydd eisoes mewn trafferthion.
Wrth ymateb, dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething, fod penderfyniadau cyllidol yn arwain at oblygiadau.