³ÉÈË¿ìÊÖ

Hoff lyfrau plant

  • Cyhoeddwyd

Bydd llyfrau plant yn cael sylw Stiwdio ar ³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Cymru ar 26 Hydref. Mi fydd Nia Roberts a'i gwesteion yn cymryd cipolwg yn ôl ar rai o ffefrynnau'r gorffennol yn ogystal ag edrych ar sefyllfa'r byd cyhoeddi llyfrau plant heddiw.

Buodd Cymru Fyw yn holi beth yw hoff lyfr plant rhai o wynebau cyfarwydd Cymru?

Gerallt Pennant, cyflwynydd

"Mae'n siŵr mai 'Corn, Pistol a Chwip' gan T Llew Jones oedd y ffefryn. Mae 'na rhywbeth yn yr enw, ac mae'n dod ag atgofion yn ôl yn syth bin o'r goets fawr ar daith o Lundain.

"Mae o'n son am ba mor hir oedd hi'n cymryd i deithio o Lundain, ac y rhyddhad o gael cyrraedd cefn gwlad Cymru. Yn y diwadd, gan bo' fi'n licio trêns, dwi'n cofio bod 'na sôn am 'geffyl haearn' a sut y bydda hi byth yn disodli'r goets fawr. Mae'n siŵr fod T Llew yn chwerthin tra'n sgwennu hwnna!"

Hannah Daniel, actores

Disgrifiad o’r llun,

Llyfrau T Llew Jones sy'n cael eu crybwyll amlaf gan ein cyfranwyr

"Tân ar y Comin. Dwi'n cofio'i ddarllen e ac eisiau byw mewn carafán a byw fel sipsi. Ro'n i eisiau rhamant y peth, rhamant bywyd sipsiwn, er fod y stori'n un mor drist. Roedd e'n llawn cymeriadau bywiog ac roedd T Llew Jones yn sgwennu mor dda i blant.

"Roedd e'n creu ac yn disgrifio byd hudol ac yn mynd â ti mewn i fywyd y sipsiwn."

Rhodri Llywelyn, cyflwynydd Camp Lawn a Newyddion 9

"Dychmygwch ddod o hyd i docyn aur mewn papur siocled a hwnnw'n golygu cyflenwad oes o ddanteithion. Does dim rhyfedd i 'Charlie And The Chocolate Factory' afael ynnof yn syth. Ro'n i'n dwlu ar y cymeriadau lliwgar a ffatri ffantasïol Mr Wonka. Dwi'n dal i obeithio bod y byd hudolus yma gyda'i rhaeadrau siocled ac Oompa-Loompas yn bodoli'n rhywle.

"Fe dreuliodd Roald Dahl ei blentyndod lawr yr hewl o'r tÅ· lle ces i fy magu, a oedd yn rhoi rheswm arall i ddarllen ei lyfrau. Roedd 'James and the Giant Peach' yn antur a hanner, y 'BFG' yn brif gymeriad gyda'r mwya' hoffus, a 'Witches' yn gwneud i mi gau'r llenni yn dynnach na'r arfer gyda'r nos.

"Ond hanes Charlie Bucket oedd fy ffefryn. Ac o ran y tocyn aur, wel dwi'n dal i chwilio..."

Nici Beech, bardd a chynhyrchydd teledu

"Dwi ddim yn cofio darllen llyfrau Cymraeg pan ro'n i'n blentyn bach, ces i fy magu ar aelwyd di-Gymraeg ac wedi dysgu Cymraeg pan es i ysgol Llangernyw yn chwech oed.

"Dwi'n cofio darllen bob nos adra; pob un llyfr 'Secret Seven' a 'Famous Five', a nofelau ditecif Agatha Christie yn ifanc, ond dim ond yn yr ysgol ro'n i'n darllen llyfrau Cymraeg am wn i.

"Yr un dwi'n gofio ei fwynhau gyntaf ydi'r nofel 'Gêm o Guddio' gan Gweneth Lilly. Roedd hynny yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn Ysgol y Creuddyn a dwi'n cofio mwynhau'r elfen goruwchnaturiol yn y stori - merch ifanc yn gweld ysbryd merch ifanc arall."

Alex Humphreys, cyflwynydd Ffeil

Disgrifiad o’r llun,

Roedd 'Sali Mali' ymysg rhai o hoff lyfrau Alex pan yn blentyn

"Pan yn ifanc iawn, o'n i'n hoffi llyfrau Sali Mali, Rala Rwdins ac yn enwedig Y Llipryn Llwyd - roedd gen i'r tâp o ganeuon i fynd hefo'r llyfrau yma ac roedd canu rheina efo Dad yn y gegin yn atgof da!

"Pan o'n i bach yn hynach, o'n i'n licio 'Y Merlyn Du' ac 'Y Gelyn ar y Trên' gan T. Llew Jones - dwi'n hoffi bach o ddirgel!

"Ar yr ochr Saesneg, fy hoff lyfr oedd Narnia, 'The Lion, the Witch and the Wardrobe'. O'n i'n dwlu ar y syniad o fynd i fyd gwahanol oedd yn llawn eira, a bod yn ffrindiau efo llew! Dwi dal yn hanner gobeithio rhyw ddydd i ddod ar draws agoriad i fyd gwahanol yng nghefn fy nghwpwrdd dillad…"

Catrin Herbert, cantores a chyflwynwraig Cyw

"Pan ro'n i'n blentyn bach, doedd dim byd gwell ar ddiwedd diwrnod hir o chwarae, na mynd lan llofft, newid i 'mhyjamas a chael diod o laeth twym cyn mynd i'n 'stafell i gael "stori nos da" gyda fy mrodyr. Roedd gen i sawl ffefryn - llyfrau Rala Rwdins, llyfrau Smot y Ci, ond fy hoff lyfr oedd 'Methu Cysgu Wyt Ti, Arth Bach?' gan Martin Waddell.

"Stori hyfryd yw hon am Arth Bach sy'n methu'n lân â chysgu am ei fod ofn y tywyllwch (fel ro'n i fy hun!) Mae'n cadw codi o'i wely a tharfu ar Arth Mawr sy'n ceisio'i orau i orffen ei lyfr.

"Mae'r darluniau traddodiadol sy'n cyd-fynd â'r stori yn golygu fod yna naws gysurus iawn i'r llyfr, perffaith i blantos bach blinedig! Ro'n i wrth fy modd â'r llyfr yma, ond tybed sawl gwaith wnaeth Mam a Dad gyrraedd y diwedd cyn i mi syrthio i gysgu..."

Stiwdio, Radio Cymru, Dydd Mercher 26 Hydref, 12:30

Beth yw eich hoff lyfr plant chi? Cysylltwch gyda Cymru Fyw drwy Twitter @³ÉÈË¿ìÊÖCymruFyw neu ein .

Gallwch hefyd gysylltu trwy e-bost: cymrufyw@bbc.co.uk

(Addasiad yw hon o erthygl gafodd ei chyhoeddi yn wreiddiol ar Cymru Fyw yn mis Tachwedd 2015)