³ÉÈË¿ìÊÖ

Atgofion o'r Vetch

  • Cyhoeddwyd
Gareth Blainey yn hel atgofion ar safle'r VetchFfynhonnell y llun, Gareth Blainey
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Blainey yn hel atgofion ar safle'r Vetch

Roedd 'na filoedd yn heidio i'r Vetch bob yn ail Sadwrn am ddegawdau. Ym mis Mai 2005 daeth y traddodiad hwnnw i ben pan chwaraeodd Abertawe eu gêm olaf yno cyn symud i Stadiwm Liberty, eu cartref newydd sbon ddwy filltir i ffwrdd yn ardal y Morfa.

Un o'r rhai oedd yno'r noson honno oedd Gareth Blainey, sylwebydd pêl-droed ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru. Mae o wedi bod yn ôl i safle'r Vetch ar ran Cymru Fyw i hel atgofion am ddiwedd pennod arwyddocaol yn hanes yr Elyrch.

Noson i'w chofio

Wal wen sydd â darlun o alarch ddu arni a giât gyda'r arwyddion 'East Stand' a 'Wing Stand' uwch ei phen ydy rhai o'r ychydig rannau o'r Vetch sy'n dal i'w gweld heddiw.

Ddegawd yn ôl tyrrodd cefnogwyr clwb pêl-droed Abertawe yno ar gyfer y gêm olaf ar y maes y bu'r Elyrch yn chwarae arno ers i'r clwb gael ei ffurfio yn 1912.

Rownd derfynol Y Cwpan Cenedlaethol yn erbyn Wrecsam oedd y gêm nos Fercher 11 Mai 2005 ac roeddwn i yno i ddweud ffarwel yn sefyll ar deras Banc y Gogledd ynghanol miloedd o gefnogwyr y tîm cartref oedd mewn hwyliau gwych.

Bedwar diwrnod ynghynt roedd Abertawe wedi sicrhau dyrchafiad o'r Ail Adran gyda buddugoliaeth o 1-0 yn Bury ar ôl gôl gynnar gan Adrian Forbes, a'r Sadwrn cyn hynny - 30 Ebrill - roedd tîm Kenny Jackett wedi ennill eu gêm Gynghrair olaf ar Y Vetch.

1-0 oedd canlyniad y gêm honno hefyd yn erbyn Amwythig ac roeddwn i'n sylwebu ar ³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Cymru wrth i Forbes sgorio yn erbyn golwr Manchester City a Lloegr erbyn hyn, Joe Hart gerbron torf o fwy nag 11,000.

Roedd 9,000 yno i wylio'r Elyrch yn wynebu Wrecsam. Roedden nhw newydd syrthio o'r Adran Gyntaf a gwnaethon nhw fygwth difetha'r parti ffarwel.

Disgrifiad o’r llun,

Cilcyn gwyrdd ynghanol y ddinas: Safle'r Vetch fel y mae heddiw

Mynd â'r Vetch gyda nhw!

Rhoddodd Juan Ugarte yr ymwelwyr ar y blaen gyda hanner awr ar ôl ond daeth Abertawe yn ôl i ennill 2-1 gyda goliau gan Shaun Pejic i'w rwyd ei hun ac Andy Robinson.

Wna i fyth anghofio'r golygfeydd ar ôl y chwiban olaf wrth i filoedd o bobl ruthro o Fanc y Gogledd: rhai i'r cae i rwygo talpiau o laswellt oddi ar y maes chwarae ac eraill ar draws y cae i'r eisteddle i dynnu seddi oddi yno.

Roedden nhw'n benderfynol o beidio â gadael yn waglaw a llwyddodd ffrind i'm mab gael gafael ar sedd.

Ffynhonnell y llun, Gareth Blainey
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond atgofion o gemau'r gorffennol sydd ar ôl ar safle'r Vetch erbyn heddiw

'Ysgol rydlyd'

Un o'r golygfeydd mwyaf trawiadol welais i wrth yrru'r car tuag adref y noson honno oedd dau lanc yn cael trafferth mawr yn ceisio cario un o'r hysbysfyrddau oedd wedi bod ar ymyl y maes: roedd o'n hir ac roedd hi'n amlwg ei fod o'n drwm hefyd oherwydd y problemau roedden nhw'n ei gael i'w symud.

Wrth sôn am brofiadau rhyfedd, roedd hi'n deimlad od imi adael Y Vetch gan wybod na fuaswn i fyth eto yn dringo'r ysgol rydlyd i'r platfform uwchben Banc y Gogledd i sylwebu nac yn teimlo'r platfform yn ysgwyd oherwydd yr holl sŵn a'r symudiadau wrth i gefnogwyr oddi tano ddathlu gôl neu fuddugoliaeth.

I'r stadiwm newydd sbon dienw ar y pryd yn ardal y Morfa y buaswn i'n teithio ymhen ychydig fisoedd.

Ac ar 11 Mai 2005 tasech chi wedi awgrymu y buasai Abertawe yn wynebu Arsenal union ddeng mlynedd yn ddiweddarach ym mhedwerydd tymor Yr Elyrch yn Yr Uwch Gynghrair yn olynol, buaswn i wedi dweud wrthych chi i roi'r gorau i siarad yn wirion…