Cwmni yn croesawu cyhoeddiad Aberddawan
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni Miller Argent - sy'n gobeithio agor safle glo brig yng Nghwm Rhymni - wedi croesawu cyhoeddiad gan gwmni fyddai'n barod i brynu'r glo sy'n cael ei gynhyrchu yno.
Mae Miller Argent eisoes yn darparu tanwydd i orsaf b诺er Aberddawan o safle Ffos y Fran ger Merthyr Tudful.
Fis Hydref y llynedd, fe wnaeth y cwmni gais cynllunio i ddechrau cloddio yn Nant Llesg, er mwyn ateb y galw gan gleientiaid yn cynnwys Aberddawan a gwaith dur Tata ym Mhort Talbot.
Nawr, mae gorsaf Aberddawan wedi cyhoeddi cynllun i sicrhau dyfodol hirdymor y safle.
200 o swyddi
Mae Miller Argent yn dweud y bydd y cynllun i agor glofa yn Nant Llesg yng Nghwm Rhymni yn creu hyd at 200 o swyddi dros gyfnod posibl o 15 mlynedd o weithio.
Ymysg pryderon gwrthwynebwyr, mae effaith llwch, s诺n a dirgryniad ar gymunedau cyfagos Rhymni, Pontlotyn a Fochriw.
Mae ymgyrchwyr hefyd wedi cwestiynu a fydd cyfreithiau llygredd newydd yr Undeb Ewropeaidd yn 2016 yn gorfodi safle Aberddawan i gau - gan amharu ar gynllun busnes y lofa newydd.
Fe ddywedodd Terry Evans, cadeirydd gr诺p sy'n gwrthwynebu agor y lofa yn Nant Llesg:
"Mae glo yn danwydd hen ffasiwn, budr a llygredig. Mae gwledydd yn rhoi'r gorau i'w ddefnyddio yn ara' bach. Gyda Nant Llesg, mae'n rhaid i ansicrwydd Aberddawan fod yn ffactor.
"'Falle na fyddan nhw yma ymhen tair blynedd."
拢12 miliwn
Er hyn, mae cyhoeddiad gan berchnogion Aberddawan, eu bod nhw'n bwriadu lleihau llygredd a sicrhau dyfodol hirdymor yr orsaf wedi cael ei groesawu gan Miller Argent.
Fe fydd RWE Generation yn gwario 拢12 miliwn yn Aberddawan, a'r buddsoddiad yn cynnwys cychwyn gosod boeler newydd fydd yn golygu bod llai o nitrogen ocsid yn cael ei ryddhau o'r safle.
Wrth gyhoeddi'r buddsoddiad, fe ddywedodd Roger Miesen o'r cwmni:
"Mae hwn yn gam positif iawn i sicrhau dyfodol yr orsaf wedi 2016."
Ychwanegodd Mr Miesen ei fod yn "arwydd positif ar gyfer swyddi yng Nghymru, ac i'r gymuned lofaol yn y wlad."
Eye on Wales, 成人快手 Radio Wales, 13.30, Sul Gorffennaf 6