成人快手

RCT: 300 yn protestio yn erbyn newidiadau addysg

  • Cyhoeddwyd
Rhondda Cynon Taf
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cyngor yn dweud ei bod nhw angen arbed 拢56 miliwn dros y blynyddoedd nesaf

Mae ryw 300 o bobl wedi bod yn protestio yn erbyn cynnig posib gan Gyngor Rhondda Cynon Taf i wneud toriadau i addysg feithrin.

Un opsiwn sydd yn cael ei ystyried gan y cyngor yw codi'r oedran pan mae plant yn derbyn addysg lawn o dair i bedair oed.

Ond mae 'na wrthwynebiad yn lleol ac mi gynhaliwyd rali ym Mhontypridd fore Sadwrn.

Mae'r protestwyr yno yn dadlau y byddai'r newidiadau yn gwaethygu effaith tlodi ar eu haddysg.

Mae'r undeb athrawon UCAC hefyd yn gwrthwynebu'r syniad gan ddweud y byddai yn niweidio addysg Gymraeg y sir.

Maen nhw'n dweud y gallai hyd at 360 o swyddi dysgu gael eu colli.

Arbedion

Nid dyma yw'r brotest gyntaf i gael ei chynnal. Ym mis Hydref mi oedd tua 100 o rieni yn dangos eu gwrthwynebiad tu allan i bencadlys Rhondda Cynon Taf.

Ond mae'r cyngor yn dweud eu bod yn gorfod gwneud torriadau am ei bod nhw angen arbed 拢56 miliwn dros y pedair blynedd nesaf.

Fe gychwynnwyd cyfnod ymgynghori a ddechreuodd ym mis Tachwedd i gynigion y cyngor.

Dywed y cyngor bod hwn yn gyfle i bobl ddweud eu barn ac mi fydd yn dod i ben ddydd Llun 2 o Ragfyr.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 成人快手 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol