成人快手

Mwy o ganlyniadau Cyfrifiad 2011

  • Cyhoeddwyd
Logo Cyfrifiad 2011Ffynhonnell y llun, other

Bydd mwy o ganlyniadau manwl yn cael eu cyhoeddi ddydd Mercher o Gyfrifiad 2011.

Ym mis Rhagfyr fe ddaeth gwybodaeth i'r amlwg am ystadegau'n ymwneud 芒 phynciau fel nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, crefyddau'r boblogaeth, hunaniaeth ac ethnigrwydd, cymwysterau, a faint o'r boblogaeth sy'n gofalu am eraill.

Digon tebyg fydd pynciau'r wybodaeth fydd yn cael ei chyhoeddi ddydd Mercher, ond y tro hwn ar lefel llawer mwy lleol.

Yn hytrach na chael gwybod faint sy'n siarad Cymraeg yng Ngheredigion a Chaerdydd, er enghraifft, fe fyddwn yn cael gwybod faint sy'n siarad Cymraeg yn Aberaeron a Phontcanna.

Fe fydd y wybodaeth ar gael ar lefel wardiau'r awdurdodau lleol ynghyd ag ar lefel etholaethau seneddol neu gynghorau plwy'.

Dangosodd Cyfrifiad 2011 fod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng 20,000 er 2001.

Roedd yna ostyngiadau sylweddol yn yr ardaloedd Cymraeg traddodiadol wrth i'r cwymp mwya' fod yn Sir Gaerfyrddin.

Mae darogan y bydd ffigyrau dydd Mercher yn dangos fod gostyngiad wedi bod yn nifer y wardiau yng Nghymru sydd a dros 70% o siaradwyr Cymraeg.

Dywed Toni Schiavone llefarydd Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith ar raglen y Post Cynta ei fod o'n poeni fod nifer cymunedau o'r fath wedi gostwng i hyd at 12 o'i gymharu 芒 70 ugain mlynedd yn 么l.

"Mae angen pob ymdrech arnom i sicrhau ein bod yn parhau i gynnal ein cymunedau Cymraeg eu hiaith.

"Ar yr un pryd mae angen bod yn gefnogol i gymunedau sy'n ddatblygu, lle mae'r Gymraeg yn iaith leafrifol ond mae yna gobaith at y dyfodol. "

Ychwanegodd ei fod am i swyddogion cynllunio y cynghorau sir roi mwy o sylw i effaith codi tai newydd ar yr iaith.

Dim ond yng Ngwynedd ac Ynys M么n y mae dros hanner y boblogaeth yn siarad yr iaith bellach.

Yn Sir Gaerfyrddin 43.9% sy'n gallu siarad Cymraeg yn 2011 (50.3% yn 2001).

Hefyd gan y 成人快手