成人快手

Llwyfannu drama Shakespeare mewn sied awyrennau

  • Cyhoeddwyd
Johnny Glynn (chwith) a'r cyfarwyddwr Mike PearsonFfynhonnell y llun, NAtional Theatre Wales
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 'r cynhyrchiad yn Hangar 858

Bydd perfformiad amlgyfrwng o'r ddrama Coriolan/us yn cael ei lwyfannu mewn sied awyrennau ym Mro Morgannwg fel rhan o 糯yl Shakespeare y Byd.

Hangar 858 ar safle'r awyrlu yn San Tathan fydd lleoliad y perfformiad a bydd y gynulleidfa fydd yn symud o amgylch yr adeilad yn rhan o'r ddrama.

Dywed y cyd-gyfarwyddwyr Mike Pearson ac Mike Brookes eu bod wedi eu hysbrydoli gan ddylanwad newyddion 24 awr, gwefannau cymdeithasol a thechnoleg newydd sydd bellach yn rhan annatod o fywyd y mwyafrif.

Bydd y cynhyrchiad gan National Theatre Wales yn defnyddio cyfuniad o gyfryngau - byw, ar y sgrin, yn y glust er mwyn dylanwadu ar y gynulleidfa.

Yn ogystal, bydd actorion sy''n cynrychioli carfannau gwleidyddol yn eu lob茂o ac yn eu deisebu.

Adlewyrchu

Y cynhyrchiad hwn o Coriolanus Shakespeare fydd llwyfaniad cyntaf National Theatre Wales o ddrama gan Shakespeare.

Byddant hefyd yn gwneud defnydd o addasiad Bertholt Brecht o'r 1950au, Coriolan, gan amlygu effaith gwrthdaro ar boblogaeth ddinesig mewn sefyllfaoedd gwleidyddol cyfoes.

"Mae stori Coriolanus yn fy hudo oherwydd mae'n creu anesmwythyd, yn ymddangos bob tro i adlewyrchu'r cyfnod yr ydym yn byw ynddo, ond eto heb gynnig atebion hawdd," meddai Mike Pearson, oedd yn gyfarwyddwr artistig Brith Gof rhwng 1981 a 1997 ac yn Athro mewn Astudiaethau Perfformio ym Mhrifysgol Aberystwyth.

"Yn wahanol i brif gymeriadau trasig eraill Shakespeare, anaml iawn y mae Coriolanus ar ei ben ei hun - dim ond dwy fonolog sydd ganddo, ac ychydig iawn o gyfle i fynd i ffwrdd i fyfyrio."

Mae Coriolan/us yn gyd-gynhyrchiad ar gyfer G诺yl Shakespeare y Byd, a gynhyrchir gan y Cwmni Shakespeare Brenhinol ar gyfer G诺yl Llundain 2012.

Mae'r cast yn cynnwys Brendan Charleson, Jonny Glynn, Nia Gwynne, Richard Harrington, Chris Jared, Richard Lynch, Rhian Morgan, John Rowley, Matthew Thomas, Gerald Tyler a Bethan Witcomb.

Mae G诺yl Llundain 2012 yn ddathliad 12 wythnos fydd yn rhedeg tan Fedi 9.