拢400,000 i addysg Gymraeg ail iaith
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun newydd gwerth 拢400,000 dros bedair blynedd wedi ei gyhoeddi er mwyn codi safonau a chyrhaeddiad ym maes addysg Gymraeg ail iaith.
Y bwriad yw cynnig hyfforddiant penodol i athrawon, ynghyd 芒 rhoi mwy o gyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio'r iaith y tu allan i wersi Cymraeg a sicrhau bod arferion da yn cael eu lledaenu.
Dywedodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews AC: "Nid yw safonau o ran addysg Cymraeg ail iaith mor uchel ag y dylent fod a bydd y cynllun hwn yn fan cychwyn i ni fynd i'r afael 芒 hynny".
Mae'r Gymraeg yn bwnc statudol ac yn orfodol i bob disgybl hyd at 16 mlwydd oed. Er hynny mae safonau a chyrhaeddiad mewn Cymraeg ail iaith yn is nag mewn pynciau eraill yn yr ysgol gynradd ac nid oes digon o ddisgyblion yn dod yn eu blaenau'n dda mewn ysgolion uwchradd.
Estyn
Y prif reswm a roddir gan Estyn am hyn mewn ysgolion cynradd yw nad yw athrawon yn ddigon hyderus ac nid oes ganddynt yr wybodaeth i gyflwyno'r Gymraeg ar lefel briodol.
Mewn ysgolion uwchradd nid oes digon o gyfleoedd ar gael i ddisgyblion wella a defnyddio'r Gymraeg y tu allan i wersi Cymraeg.
Mae rhyw draean o ddysgwyr sydd heb unrhyw gymhwyster cydnabyddedig yn y Gymraeg ac mae mwy o ymgeiswyr ar gyfer TGAU Cymraeg ail iaith yn dilyn y cwrs byr lle mae cyrhaeddiad yn isel.
Mae'r cynllun gweithredu yn nodi pum amcan i fynd i'r afael 芒 hyn:
Rhannu arferion da a datblygu canllawiau i gyflwyno Cymraeg ail iaith ar lefel ysgolion cynradd, gan gynnwys sefydlu rhwydwaith arferion da a chronfa ddata o ddeunyddiau addysgu.
Annog mwy o addysgu cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.
Gwella sgiliau ieithyddol a methodolegol athrawon a datblygu ymhellach raglen hyfforddi athrawon gynhwysfawr mewn Cymraeg ail iaith.
Sicrhau bod gan ysgolion uwchradd yr adnoddau cywir a'r capasiti i adeiladu ar y Gymraeg a ddysgwyd mewn ysgolion cynradd. Bydd hyn yn cynnwys datblygu deunyddiau addysgu newydd er mwyn mynd i'r afael 芒 thanberfformio, yn arbennig ymhlith bechgyn, a sefydlu cwrs trochi i wella cyrhaeddiad dysgwyr sy'n astudio Cymraeg ail iaith 么l-16.
Adolygu asesiadau a chymwysterau Cymraeg ail iaith er mwyn gweld pa gyfleoedd sy'n bodoli i sicrhau bod y cymwysterau presennol yn addas at y diben.
Ychwanegodd Mr Andrews: "Mae llawer o frwdfrydedd ac ewyllys da tuag at y Gymraeg ac rydym am gefnogi'r rheini sydd am ddysgu'r iaith a'r rheini sy'n addysgu'r iaith.
"Rydw i am sicrhau bod ysgolion yn rhannu arferion gorau ynghylch addysgu Cymraeg fel ail iaith a bod athrawon, yn arbennig mewn ysgolion cynradd, yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gyflawni.
"Bwriad y cynllun hefyd yw rhoi mwy o gyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio ac ymarfer yr iaith y tu allan i wersi Cymraeg. Mae hyn yn hanfodol er mwyn magu eu hyder i ddefnyddio'r iaith yn eu bywyd bob dydd.
"Mae'r cynllun yn cefnogi'r amcanion yn ein Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg a gweledigaeth y llywodraeth hon yw gweld y Gymraeg yn ffynnu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2012