成人快手

Cefin Burgess

Llywydd y dydd

Cefin Burgess - croesawu llwyfan i'r celfyddydau

Talodd arlunydd blaenllaw deyrnged i Eisteddfod yr Urdd am roi llwyfan i bobl ifainc ddangos eu doniau creadigol.

Yr oedd Cefyn Burgess yn siarad ar y maes fore Llun yn rhinwedd ei swydd yn Llywydd y Dydd.

Dywedodd mai dyma'r unig lwyfan erbyn hyn i bobl ifainc ddangos eu doniau gan nad yw yr Eisteddfod Genedlaethol, meddai Mr Burgess, yn cynnig y cyfle hwn.

Dywedodd fod Eisteddfod yr Urdd "mewn sefyllfa unigryw" i roi llwyfan i blant a chanmolodd y mudiad am hynny gan bwysleisio pa mor bwysig yw hi i roi llwyfan i'r rhai hynny nad ydynt yn canu neu adrodd.

Ond fe fynegodd siom, nid am y tro cyntaf, fod nifer y cystadleuwyr ar ei isaf ymhlith plant oed ysgolion uwchradd.

"Y mae hyn yn rhywbeth i edrych arno," meddai.

Dyma Cefyn Burgess

Derbyniodd Cefin Burgess ei addysg yn Ysgol Dyffryn Ogwen, cyn sym

ud i astudio yng Ngholeg Polytechnig Birmingham a Choleg Polytechnig Manceinion. Aeth yn ei flaen i wneud ymchwil yng Ngholeg Celf Brenhinol Llundain.

Datblygodd Cefin ei ddoniau gwehyddu yn ystod preswyliad tymor hir yn Amgueddfa Sidan Paradise Mill ym Macclesfield lle cafodd gyfle euraid i berffeithio'i sgiliau gwehyddu Jacquard.

Cafodd ei gynlluniau eu hatgynhyrchu ar gyfer nwyddau gan nifer o gleientiaid rhyngwladol gan gynnwys Urdd y Dylunwyr, Cymdeithas Medici, International Linen Promotion yn ogystal 芒'r Amgueddfa Brydeinig.

Bellach, mae ei waith wedi ymddangos mewn arddangosfeydd trwy Gymru gyfan gan gynnwys Oriel Bangor, Oriel Pendeish yng Nghaernarfon, Oriel Mostyn yn Llandudno ac yn Y Tabernacl ym Machynlleth.

Hefyd, gwnaeth waith comisiwn ym Mhlas Newydd Glynllifon, Gwesty Royal Celtic Caernarfon, Amgueddfa Cymru a Phlas Penglais yn Aberystwyth.

Y tu allan i Gymru, mae ei waith wedi cael sylw mewn sawl lle ar hyd y blynyddoedd. Er enghraifft yn y Bluecoat Chambers yn Lerpwl, Royal Exchange Manceinion, Chelsea Craft Fair Llundain ond i enwi rhai. Mae ei waith hefyd wedi ymddangos mewn aml i le o amgylch y byd, gan gynnwys Ffrainc ac Unol Daleithiau America.

Mae Cefin erbyn hyn yn gweithio nes adref ar sawl prosiect gwahanol ond yr hyn sy'n hoelio'i sylw yw'r Arddangosfa Gelf fydd yn ymddangos yng nghanolfan Rhuthun yn yr hydref.

Mae'r Eisteddfod yn bell o fod yn ddieithr i Cefin. Yn yr ysgol cymerodd ran yn rheolaidd yn y cystadlaethau Celf, Dylunio a Thechnoleg blynyddol gan ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Fedal Aur am Grefft yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn 1992.

Mae wedi beirniadu cystadlaethau Celf, Dylunio a Thechnoleg yr Urdd ers sawl blwyddyn bellach.

Meddai: ''Credaf fod yr Urdd yn gwneud gwaith gwerth chweil trwy hybu Celf mewn ysgolion a thrwy hynny newid agwedd gyffredinol at gelf weledol o fewn y system addysg.

"Mae heb os yn holl bwysig rhoi'r un chwarae teg i blant celfyddydol eu naws nad ydynt yn gallu perfformio ar lwyfan ac mae'r Urdd yn llwyddo i wneud hynny yn wych.''

Ac yntau'n byw dafliad carreg o'r Eisteddfod, yn Neganwy, dywedodd ei fod yn falch o allu croesawu'r Eisteddfod yn 么l i'r cyffiniau gan y gwnaiff hi les mawr i arfordir y gogledd.

Mae'n mawr obeithio bydd Eisteddfod Conwy yn rhoi hwb i'r rhieni hynny sydd yn anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg y sir.

''Rwy'n ei hystyried yn fraint bod yr Urdd yn rhoi llwyfan a llais i rywun o'r byd celfyddydol gael bod yn Llywydd y Dydd. Rwyf wedi gweithio yn glos gydag Adran Gelf y mudiad dros y blynyddoedd, ac mi fydd hi'n braf iawn cael cynrychioli hynny ar fy stepen drws eleni,'' meddai.


成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.