|  |
 Yr Urdd - partner pwysig
Galwodd prifathro un o golegau Prifysgol Cymru am i awdurdodau lleol ar hyd a lled Cymru fanteisio ar gymorth yr Urdd pan yn llunio cynlluniau cymunedol.
Y Dr Medwin Hughes, prifathro Coleg y Drindod, Caerfyrddin, a brodor o Langefni, oedd llywydd dydd Iau yn yr Eisteddfod.
Ac wedi talu teyrnged i gyfraniad yr Urdd yn creu a meithrin Cymry dwyieithog dywedodd: "Os yw'r Urdd i fedru dylanwadu ar gymunedau boed y rheini yn gymunedau gwledig neu yn gymunedau lle nad yw'r Gymraeg yn iaith gyntaf mae'n gwbl allweddol fod Urdd Gobaith Cymru yn cael y cyfle i weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol."
Ychwanegodd ei body n bwysig fod yr Urdd yn un o "brif bartneriaid" awdurdodau lleol wrth iddyn nhw ddatblygu eu cynlluniau strategol ym maes cynllunio cymunedol i'w cyflwyno i'r Cynulliad.
"Fe fyddwn yn erfyn ar awdurdodau lleol i sicrhau fod Urdd Gobaith Cymru yn cael cyfle i wneud hynny," meddai.
Disgrifiodd yr Urdd, llaw yn llaw a'r Mudiad Ysgolion Meithrin a'r mentrau iaith, fel y "prif asiantaethau" ar gyfer gweithredu cynllun iaith strategol y Cynulliad.
"Ac os oes angen blaenoriaeth arian dyna'r bartneriaeth mae angen rhoi ffocws arni ar gyfer y dyfodol," meddai.
"Mae'n dibynnu hefyd ar gynllun marchnata ac mae angen cynllun marchnata cenedlaethol ar gyfer yr iaith Gymraegt ac mae'r Bwrdd Iaith yn barod yn gwneud hynny," ychwanegodd.
|
|
|