成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod yr Urdd - 2004

成人快手 成人快手page
Urdd 2004
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cefndir
Tyger y ci dewr

Nofio drwy'r tonnauYr awdur Dafydd Meirion yn cofio stori am gi dewr a achubodd ei feistr rhag boddi yn y m么r ger Ynys M么n.





Mae hanes Tyger y ci dewr i'w weld mewn llyfr o deithiau cerdded, "Anturio ar Ynys M么n gan Dafydd Meirion a gyhoeddir gan Wasg Carreg Gwalch. 拢4.50

Y stori
Bron i ddau gan mlynedd yn 么l, roedd llong fechan yn hwylio ar hyd arfordir Ynys M么n ar ei ffordd i Lerpwl.

Ar ei bwrdd roedd capten, dau longwr, bachgen i helpu yn y gegin a chi retriever o'r enw Tyger.

Roedd hi'n niwl trwchus ac roedd y capten yn cael trafferth i weld i ble'r oedd o'n mynd.

Yn sydyn, dyma glec. Roedd y llong wedi taro creigiau Maen Piscar, ynys fechan tua thri-chwarter milltir i'r gorllewin o Ynys M么n. Doedd dim modd gwneud dim byd, felly dyma'r capten yn penderfynu aros i'r niwl ddiflannu.

Daeth y llanw i mewn a chodi'r llong oddi ar y graig, ond doedd y capten ddim wedi sylweddoli fod y graig wedi gwneud twll yng ngwaelod y llong. Pan gafodd ei chodi oddi ar y graig, daeth y dwr i mewn ac mi ddechreuodd y llong suddo. Ond gan ei bod yn dal yn niwl trwchus, doedd neb yn gwybod ym mha gyfeiriad yr oedd y lan.

fghRoedd Tyger, hefyd, wedi sylweddoli eu bod mewn peryg. Roedd o'n gallu dweud ble'r oedd y lan ac mi neidiodd i'r m么r a dechrau nofio. Penderfynodd y capten, hefyd, mai dyma fyddai orau i'r pedwar ohonyn nhw. Rhoddodd orchymyn i bawb neidio dros ochr y llong a dilyn Tyger.

Roedd y capten yn nofiwr cryf ond doedd y lleill ddim. Cydiodd y bachgen yng ngholer Tyger ac mi gafodd ei dynnu'n raddol tuag at y creigiau ar y lan. Gwelodd y capten fod un o'r llongwyr mewn trafferth ac wedi i Tyger ollwng y bachgen o fewn cyrraedd i'r lan, gwaeddodd ar y ci i fynd i'w helpu.

Trodd Tyger yn ei 么l a chydiodd yng ngholer y dyn 芒'i geg a'i lusgo yn 么l am y lan. Aeth yn 么l unwaith eto i helpu ei feistr a'r llongwr arall i ddiogelwch y creigiau.

Roedd y pump yn gorwedd yn flinedig a gwlyb ar y traeth creigiog. Fesul un ac un, mi gododd y pedwar - ond nid Tyger. Roedd o wedi blino gormod.
Cododd ei ben a llyfodd law y capten cyn marw ar y traeth oer.

Heb ddewrder Tyger bydden nhw i gyd wedi boddi ac er mwyn diolch iddo mi dalodd y capten i garreg gael ei gosod gydag enw Tyger a'r dyddiad y bu farw arni a'i gosod ar y clogwyn uwchben y traeth ble glaniodd y criw'n ddiogel.

Ac mae'r garreg yn dal yno ac arni'r ysgrifen - Tyger, September 17th, 1819.

Y Daith:
O Draeth Borthwen ger Rhoscolyn ar hyd yr arfordir heibio Ffynnon Gwenfaen ac at garreg Tyger cyn troi'n 么l ar hyd lwybr arall yn 么l i Borthwen.
5 milltir - 2 awr
Map yn y llyfr.
Ewch i bentref Rhoscolyn a chwiliwch am yr eglwys. Rhyw ganllath i'r gorllewin, mi welwch arwydd yn eich cyfeirio i'r traeth.
Mae'n bosib cael bws i Roscolyn ond yna bydd raid ichi gerdded tuag at yr eglwys a chychwyn eich taith oddi yno.

Ewch i lawr i'r traeth ble mae yna doiledau a lle i barcio car. Mae hi'n llawn iawn yma yn yr haf, ond efallai y cewch chi le i barcio wrth yr eglwys, a dechrau'r daith oddi yno.

O Draeth Borthwen, cerddwch i'r dde ac at y wal goncrit a'r llwybr. Ewch ar hyd y llwybr yma sy'n dod 芒 chi'n 么l i'r traeth ac yna'n mynd 芒 chi heibio hen adeilad y bad achub. Cerddwch i fyny at y t gwyn ble gwelwch saethau melyn yn eich cyfeirio i'r dde tuag at d o'r enw Yr Allt.

Yna, ymlaen ar hyd y traeth, heibio gwylfan gwylwyr y glannau ar y chwith i chi a gwylfan arall a sedd arni ar y dde. O fewn dipyn o beth mi ddewch at Ffynnon Gwenfaen. Santes oedd Gwenfaen ac, medden nhw, pe byddech chi'n taflu dwy garreg wen i ddwr y ffynnon, byddech chi'n cael eich gwella.

Ymlaen 芒 chi, drwy gi芒t mochyn, ac ar hyd y llwybr sy'n rhedeg ar hyd ochr wal uchel. Mi ddewch chi rwan at Borth Saint. Croeswch y bont fechan ac ymlaen ar hyd y llwybr.

Gyda hyn, mi welwch d mawr gwyn o'ch blaen. Does dim angen mynd mor bell 芒 hyn. Wedi i chi fynd heibio bae bychan, mi welwch bum carreg i'r chwith i chi. Y gyntaf o'r rhain yw carreg goffa Tyger y ci dewr.

Pan fo'r llanw allan, mi welwch Faen Pisgar allan yn y m么r ble tarodd y llong a suddo.

Wedi seibiant, trowch yn 么l am Borth Saint. I'r chwith mi welwch gamfa, ewch drosti ac ar hyd y cae at gamfa arall a dilynwch yr hen l么n drol nes dewch at ffermdy gwyn. Dilynwch y saethau melyn o gwmpas y t nes dewch at gi芒t mochyn ac arwydd llwybr cyhoeddus.

Drwy'r gi芒t ac i'r chwith ac ar hyd y l么n nes dewch at Eglwys Gwenfaen (ble, efallai, mae rhai ohonoch wedi dechrau'r daith).
Ewch i weld yr eglwys.

Yna, chwiliwch am yr arwydd i'r traeth ar y dde. I lawr y ffordd heibio'r dafarn ac ar hyd y ffordd droellog yn 么l i'r maes parcio.

fghBeth am geisio ateb y cwestiynau hyn ar eich taith?
1. Beth sydd ddim yn cael ei ganiatau yn y maes parcio?

2. Beth yw'r dyddiad ar hen adeilad y bad achub?

3. Faint o seddi sydd yng nghorneli Ffynnon Gwenfaen?

4. Beth yw'r llythrennau ar y llawr ger y gi芒t mochyn wedi mynd heibio Ffynnon Gwenfaen?

5. Llun pa ddau o ddisgyblion Iesu Grist sydd ar ffenestri lliw cyntedd Eglwys Gwenfaen?

6. Pa aderyn sy'n gysylltiedig 芒'r dafarn sydd ar y ffordd i lawr i'r traeth?




Cefndir
Fel maen nhw'n dweud yn Sir F么n

Cofio dyddiau cynnar yr Urdd

Ffeithiau difyr am F么n

Gw欧r Mawr M么n

Bryn Terfel yn canu clodydd yr Urdd

Enwau lleoedd difyr

Prif seremoniau yr Eisteddfod

Pethau ar y maes

Tyger y ci dewr

lluniau'r wythnos
Sioeau Cerdd

O gwmpas yr ynys - 2

O gwmpas yr ynys - 1

Lluniau dydd Llun

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes
Gwlad y Medra wedi medru!

Yr ifanc yn siomi - gwallus ac heb angerdd

Cysylltiadau eraill
Yr Urdd ar Lleol i Mi
Mwy...
gwegamera ar y maes


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy