|  |
 Tlws John a Ceridwen Hughes
Arweinydd un o aelwydydd enwocaf Cymru sydd wedi ennill gwobr yr Urdd am gyfraniad nodedig i bobl ifainc Cymru eleni.
Derbyniodd Heulwen Davies o Ddolannog, Maldwyn, Dlws John a Ceridwen Hugges yn ystod seremoni ar lwyfan yr eisteddfod nos Lun.
Bu Heulwen, 43, yn arweinydd corawl Aelwyd Penllys ers dros 15 mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw daeth ei chorau i'r brig yn Eisteddfod yr Urdd sawl tro.
Mae hynny'n cynnwys c么r cymysg mawr a bach, c么r meibion a pharti merched.
Ymddangosodd C么r Penllys ar lwyfan yr Urdd yn ddi-dor er 1989 ac mae'r aelodau'n "dawel hyderus" y byddan nhw ar y llwyfan eto eleni.
O Lanerfyl y daw Heulwen yn wreiddiol ac yn un o deulu cerddorol y Jamesiaid. Ei chwaer yw'r delynores, Alwena Roberts. Ei chwaer arall, Olwen Chapman, ydi prifathrawes Ysgol Gynradd Llanerfyl lle bu'r tair yn ddisgyblion.
O Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion aeth i astudio cerddoriaeth yn y brifysgol yng Nghaerdydd.
Dychwelodd i fro ei mebyd ac mae'n awr yn bennaeth adran gerdd ei hen ysgol yn Llanfair Caereinion lle mae'n olynnu Sh芒n Cothi a Linda Gittins.
Mae'n briod 芒 ffermwr lleol ac yn fam i bedwar o fechgyn, Carwyn, Rhys, Gerallt a Rhodri sydd hefyd wedi eu trwytho yn y diwylliant cerddorol Cymraeg.
Mae dau ohonyn nhw yn aelodau o Ynys Penllys ac o g么r eu mam.
Mae Gwobr John a Ceridwen Hughes yn wobr flynyddol yn Eisteddfod yr Urdd ac yn cael ei dyfarnu "i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i ieuenctid Cymru" ac fe'i noddir gan Gerallt a Dewi Hughes yn enw eu rhieni.
|
|
|