|  |
 Heddlu a'r Urdd yn erbyn Iobs
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn chwilio am help yr Urdd yn ei ymgyrch yn erbyn "iobiaid".
Yr oedd y Prif Gwnstabl Richard Brunstrom ar y maes ddydd Gwener i hybu ymgyrch Dyna Ddigon sydd gan yr heddlu yn erbyn ymddygiad gwrth-gymdeithasol.
Erbyn hyn mae 17 o ardaloedd ar hyd a lled gogledd Cymru wedi eu dynodi yn Ardaloedd Dyna Ddigon a galwodd Mr Brunstrom am gymorth aelodau o'r Urdd gan bwysleisio fod y gair gobaith yn Urdd Gobaith Cymru yn un pwysig ar gyfer y dyfodol yn y cyswllt hwn.
"Mae'r rhan fwyaf o iobiaid yn bobl ifanc ond peidiwch a chamgymryd fod y rhan fwyaf o bobl ifainc yn iobiaid," meddai.
"Mae'n bwysig dros ben yn fy marn i fod yr heddlu yn cael eu gweld fel cydweithwyr gyda mudiadau fel yr Urdd er mwyn datblygu dinasyddion da ymhlith pobl ifainc y dyfodol.
"Rwy'n gwybod y bydd ein partneriaeth efo'r Urdd yn gam pwysig ac yn llwyddiannus," meddai.
Wrth groesawu'r fenter dywedodd Sian Eirian, cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, "Mae lles plant a phobl ifanc yn ein cymunedau yn hollbwysig i'r Urdd ac mae'r mudiad eisoes yn cydweithio gyda Hedllu Gogledd Cymru yn arbenbnig yng nghyswllt llwyddiant yr Eisteddfod."
|
|
|