|  |
 Teyrnged Tenor
Gwnaeth cystadlu ar lwyfan yr Urdd hi'n haws i'r tenor Gwyn Huws Jones berfformio ar lwyfannau mawr y byd.
Yr oedd y tenor o F么n ar faes yr Eisteddfod yn cynnal dosbarthiadau meistr i gantorion ifanc. Ef hefyd oedd prif unawdydd cyngerdd cyntaf yr Eisteddfod, nos Sul.
Ddydd Llun, ef oedd llywydd y dydd ac mewn cyfarfod gyda'r Wasg talodd deyrnged i'r Urdd am y profiadau a gafodd yn aelod o'r mudiad pan yn blentyn.
Soniodd sut y bu cystadlu ar lwyfan yr eisteddfod yn help iddo ddygymod a chynulleidfa o dair a phedair mil ar y llwyfan rhyngwladol yn nes ymlaen yn ei fywyd.
"Doedd y profiad o sefyll ar lwyfan o flaen tair a phedair mil o bobl ddim yn gymaint o boen oherwydd yr oeddwn wedi cael y cyfle i wneud hynny yn barod, diolch i'r Urdd," meddai.
Ychwanegodd mai'r profiad a roddodd fwyaf o fwynhad iddo oedd cystadlu nid yn unigolyn ond gyda'i ffrindiau.
"Cystadlu mewn partion a chorau a dawnsio gwerin - er nad oes yna fawr o siap dawnsio gwerin arnaf i," meddai.
"Ond yr hwyl mwya, yn sicr, " oedd mynd efo fy ffrindiau i gystadlu ac aros gyda theuluoedd mewn rhannau eraill o Gymru a profi y gytmdeithas wahanol yr oeddan nhw yn byw ynddi," meddai.
Dywedodd fod cyfraniad yr Urdd mor bwysig ei body n bwysig peidio 芒'i gymryd yn ganiataol.
Mae'r Urdd, meddai, yn fodd i danlinellu'r ymdeimlad fod y Cymry yn bobl wahanol.
|
|
|