成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Diffodd fflamau'r Sipsiwn

Hen arfer mewn peryg o ddiflannu
Dydd Sadwrn, Medi 5, 2000

Mudlosga ysgerbwd y garafan yng ngolau'r wawr. Neithiwr yr oedd yn wenfflam.

Ond nid damwain na throsedd mo hyn ond un o hen arferion McDonaghs, Wards, Barretts a thylwyth tinceriaid Iwerddon o losgi trigfan yr ymadawedig.

Mae llosgi'r meirw yn arfer bydeang. Dyna sut y mae Hindwiaid yr India yn ffarwelio a'u cyd-ddyn.

Rhan o ddefod angau'r Roma yw llosgi eiddo'r meirw, yn ddillad ac yn wely.

Yn ogystal â lliniaru poen y galarwyr, mae'r tân yn puro, yn diheintio ac yn rhwystro afiechyd rhag ymledu.

Ond mae arfer y tinceriaid yn peri anhawster yn Iwerddon yn hyn o fyd wrth iddyn nhw'n araf gael eu cymhathu â'r gymdeithas sefydlog.

Bellach, mae sawl teulu yn byw mewn tai ac wedi troi cefn ar ffordd eu cyndeidiau o fyw.

Mae eraill yn crwydro'r haf ond yn bwrw'r gaeaf mewn halting sites, sef safleoedd arbennig y mae'r awdurdodau lleol yn eu darparu ar eu cyfer.

Ar gyrion y trefi mae'r halting sites, rhes o garafannau a chartrefi ar olwynion yn bentref unnos, a phethau fel dwr, tai bach a man golchi wrth law.

Amhosib aros mewn lle aflan

Bu farw hen wraig mewn halting site yn Limerick ddechrau'r mis. Rhaid cysegru a diheintio'r lle â'r fflamau chwyrn cyn y bydd gweddill y tylwyth yn fodlon byw yno eto.

Amhosibl llosgi eiddo'r Cyngor wrth gwrs. Amhosib cyflawni'r ddefod a dyma'r bobl McDonaghs, Wards neu Barretts yn codi eu pac gan ei bod yn amhosibl iddyn nhw barhau i fyw mewn lle aflan.

Rhyw ddeng mlynedd sydd ers i'r halting sites gael eu codi. Erbyn hyn mae rhai ohonyn nhw yn wag. Sut mae datrys problem mor bigog?

Mae rhai pobl yn credu ei bod yn bryd i'r tinceriaid ddiffodd y tân a byw yn ôl arferion yr oes.

Eraill yn mynnu y dylai fod hawl gyda phob lleiafrif i ymarfer eu crefydd a'u diwylliant.

Fel y garafan ben bore, y mae dicter yn dal i fudlosgi ym mynwes rhai o'r Gwyddelod di-aelwyd hyn.

"Yn Lloegr rydym ni'n cael ein hystyried yn Wyddelod," meddai bachgen 12 oed mewn cyfweliad, "ond yn Iwerddon cawn ein hystyried yn felltith."




ewrop

Iwerddon
Cyhuddiad o dwyll ac ystryw yn Iwerddon

Cyhuddiad o dwyll ac ystryw yn Iwerddon

Diffodd fflamau'r Sipsiwn

Blagur gwyrddion ar y lleiniau newydd

Gêm y Gwyddyl

Harddwch a hanes yn cael ei guddio gan dristwch

Adlais o'r hen drefn Saesnig yn Iwerddon

Gaeleg ar y teli

Prisiau tai yn dychryn y Gwyddelod




About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy