成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Gwewyr De Affrica
Gwaith dwy Gymraes yn Ne Affrica

Mae De Affrica yn wlad sydd â hanes nad oes modd ei osgoi, a brwydr am gydraddoldeb sy'n dal yn fyw yng ngof gweddill y byd.

Heddiw, mae'n brwydro i gael ei hadnabod fel Cenedl yr Enfys, chwedl Desmond Tutu, yn wyneb problemau cymdeithasol enbyd.

Ar gyfer rhifyn, teimladwy ar adegau, o Ar Dy Feic bu Hywel Gwynfryn yn siarad â dwy Gymraes sydd wedi ymgartrefu yn y wlad liwgar hon.

Hywel, Thandanani Majozi a ManonO Fethel ger Caernarfon y daw Manon Elis Williams yn wreiddiol ond bellach yn gweithio yn Johannesburg i elusen Charities Aid Foundation sy'n gweithio yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig De Affrica.

Mae Manon yn rhan o gynllun gyda phlant a phobl ifainc sy'n defnyddio dawns a chanu traddodiadol i greu hyder ac addysgu yn y townships tlodaidd yn Soweto.

Ffilmiwyd criw o blant bach yn canu a dawnsio i Hywel a'r criw - profiad iasol o weld y balchder a'r brwdfrydedd ar wynebau'r plant am draddodiad a gafodd ei fygu a'i wasgu gyhyd.



Hywel ac IreneAc wedi cwrdd â Manon ymwelodd Hywel ag un arall sydd wedi ymgartrefu yn y wlad.

O fferm Gelli Fawnen yng Nglanaman y daw Irene Evans, a ddaeth i Dde Affrica 30 mlynedd yn ôl.

Am 25 mlynedd bu'n swyddog adnoddau dynol i'r Sowetan Times sydd yn bapur canolog i gyfryngau'r wlad, yn gwerthu dros 1.6 miliwn yn ddyddiol.

Y papur hwn fu'n cael ei gyfrif yn llwyfan i lais y dyn du dros y blynyddoedd.

Mae'r lluniau o ymweliad niferus Nelson Mandela â'r swyddfeydd yn dyst o bwysigrwydd y papur.

Mae cysylltiad Irene yn mynd yn ddyfnach na'i bywyd hi yno, gan mai yn nhir De Affrica y cafodd ei Hwncwl Dafydd ei gladdu.

Roedd Dafydd Transvaal, fel y gelwid ef, yn ŵr o gryn weledigaeth, gan iddo ddod i Dde Affrica ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf i werthu beics.

Yna y bu farw a bu moment emosiynol iawn pan ymwelodd hi â bedd ei hewyrth gan boeni pwy fydd yn gofalu am y bedd ar ôl ei dyddiau hi.

"Fi 'di darllen shwt gymaint amdano fe, fi'n teimlo bo fi'n ei adnabod e," meddai.

Ymwelwyd a'r Amgueddfa Apartheid a chofgolofn Hector Peterson, y bachgen cyntaf i'w ladd yn y Sowetto Uprising hefyd.





cysylltiadau
Teithiau eraill Ar Dy Feic

ewrop

De Affrica
Cyfoeth Affrica yn creu tlodi a dioddef

Gwewyr De Affrica




About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy