Nid ysbrydion ac UFOs yw'r unig bethau rhyfedd yn y byd - mae'r ieti, Triongl Bermuda, neu Anghenfil y Loch Ness yn rai enghreifftiau amlwg o bethau anesboniadwy enwog, ond beth am y pethau rhyfedd eraill yma sydd i'w cael yng Nghymru hefyd?
Er nad oes cymaint o s么n wedi bod amdano yn y blynyddoedd diweddar, mae rhai pobl dal yn grediniol fod 'Bwystfil y Bont' yn dal i grwydro caeau Sir Ceredigion, gyda nifer o lygaid-dystion yn honni iddyn nhw weld y gath ddu, fawr fin nos.
Mae'r heddlu yn y sir wedi bod yn derbyn galwadau am anifail o'r fath ers dechrau'r 1980au, gyda'r llygaid-dystion yn ei disgrifio i fod yn anifail tebyg i biwma, panther neu lewpard - ac mae nifer o anifeiliaid fferm yr ardal wedi cael eu llad yn y cyfnod yna, gyda olion grafangau neu ewinedd miniog i'w gweld ar eu cyrff.
Hanes Cathod Gwyllt ar safle Natur 成人快手 Lleol
Yn y gogledd, mae s么n am anghenfil sy'n byw yn nyfnderoedd Llyn Tegid, ger y Bala - anghenfil tebyg i'r un a geir yn llyn Loch Ness yn yr Alban, a elwid yn Tegi. Er fod rhai pobl yn eithaf amheus o'r chwedl yma, ac yn ei weld fel dim mwy na ymgais i ddenu twristiaid; mae rhai drigolion ardal y Bala yn grediniol fod rhywbeth go ryfedd yn byw yn y llyn naturiol mwyaf yng Nghymru.
Dywed un person iddo weld creadur oedd oleiaf wyth troedfedd o hyd, un arall iddi weld rhywbeth tebyg i ddolffin yn neidio. Roedd rhai gwyddonwyr o Siapan yn gweld yr honiadau yma yn gwbwl gredadwy, ac aethant mor bell a phlymio i mewn i ddyfnderoedd y llyn mewn llong-danfor i geisio cael hyd i'r 'anghenfil' yma - ond ddaethpwyd o hyd i ddim.
Hanes 'Bwystfil Bala' ar safle 成人快手 Lleol
Yn yr adran yma, cewch weld a chlywed clipiau o'r archif o nifer o wahanol fathau o bethau rhyfedd eraill yng Nghymru a thu hwnt.