"
Viva democratiaeth!" meddai T Robin Chapman wrth dderbyn
Gwobr y Darllenwyr am ei gofiant i Saunders Lewis,
Un Bywyd o Blith Nifer, yn seremoni Llyfr y Flwyddyn 2007 yng Ngwesty'r Hilton yng Nghaerdydd.
Unwaith eto eleni doedd pleidlais y bobl ddim yn cyd-fynd 芒'r beirniaid swyddogol: Llwyd Owen aeth 芒'r siec o 拢10,000 am ennill teitl swyddogol Llyfr y Flwyddyn am
Ffydd, Gobaith Cariad ond cael a chael oedd hi iddo ennill gyda phob un o'r beirniaid: Elinor Jones, Gwion Hallam a John Rowlands, yn ffafrio llyfr gwahanol oddi ar y rhestr fer.
Ond ar 么l hir drafod eu dewis consensws oedd mai'r nofelydd ifanc disglair o Gaerdydd, Llwyd Owen, fyddai'n mynd 芒 hi eleni.
A chan fod Gwen Pritchard Jones eisoes wedi ennill Gwobr Goffa Daniel Owen y llynedd am
Dygwyl Eneidiau, mae pob un oedd ar y rhestr fer eleni wedi cael camu i'r llwyfan ar ryw achlysur i ennill cydnabyddiaeth gyhoeddus i'w gwaith.
Er bod rhoi'r wobr i Llwyd Owen wedi cadarnhau'r sibrydion ar y noson, doedd yntau ddim wedi disgwyl ennill.
Mae ennill yn gamp ryfeddol iddo o ystyried ei yrfa fer fel awdur: o'r
enfant terrible a gododd fraw ar feirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen gyda 'bratiaith' ei nofel gyntaf
Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau yn 2005, i enillydd Llyfr y Flwyddyn, mewn llai na dwy flynedd.
Eisoes mae trydedd nofel ar y ffordd ganddo, yn ogystal 芒 sgript ffilm - heb s么n am y babi newydd.
Mae'n anodd dychmygu y bydd ganddo amser i deithio'n bell iawn yn y campyr fan y mae am brynu gyda'i enillion.
Cymro Cymraeg ddaeth i'r brig yn y gystadleuaeth ar gyfer llyfrau Saesneg eleni: enillodd
Mr Cassini gan y gogleddwr diymhongar Lloyd Jones
Wobr y Darllenwyr yn ogystal 芒 theitl swyddogol Llyfr y Flwyddyn.
Disgrifiwyd ei nofel fel "taith seicolegol trwy Gymru", a gwaith sy'n dangos tipyn o ddylanwad y Mabinogi.
Llyfr heriol, gwreiddiol; a bellach mae am droi ei law at ysgrifennu yn Gymraeg. Tybed a fydd yn llwyddo i ennill y dwbl a chipio'r wobr Gymraeg hefyd yn y dyfodol?
No pressure...
Roedd gwobrwyo Llwyd Owen yn golygu hatric fodd bynnag - nid i Llwyd ond i'w gyhoeddwyr, gwasg y Lolfa, sy'n dathlu llwyddiant arall yn dilyn buddugoliaeth Rhys Evans y llynedd gyda'i gofiant i Gwynfor Evans a Caryl Lewis yn 2005 gyda
Martha, Jac a Sianco. Tipyn o orchest, yn enwedig gan fod y tri llyfr mor wahanol i'w gilydd.
Daeth y seremoni swyddogol i ben tua deg o'r gloch ond roedd y dadlau am y cyfrolau ar y rhestr fer - a'r rhestr hir - i'w glywed ymhell wedi hynny.
Mae'r wobr wedi tyfu'n aruthrol o ran sylw dros y blynyddoedd diwethaf a chyda hynny'r trafod sydd ar y llyfrau.
Viva trafodaeth!Bydd rhagor o drafod ar Llyfr y Flwyddyn yn Stiwdio am chwech o'r gloch nos Iau Gorffennaf 12, 2007, ar 成人快手 Radio Cymru.
Kate ar Y Rhestr Fer