Er mai tri llyfr sydd wedi cyrraedd rhestr fer swyddogol Llyfr y Flwyddyn 2007 - sef Dygwyl Eneidiau gan Gwen Pritchard Jones, Ffydd Gobaith Cariad gan Llwyd Owen, ac Un Bywyd o Blith Nifer gan T.Robin Chapman - cafodd y gynulleidfa yng Ng?yl y Gelli wybod gan un o'r beirniaid, John Rowlands, i ddau lyfr arall hefyd ddod yn agos at gyrraedd y tri uchaf - dwy nofel, sef llyfr Aled Jones Williams, Ychydig Is Na'r Angylion, ac Esgyrn Bach gan Tony Bianchi .
Felly ar ben y rhestr hir o ddeg, a'r rhestr fer o dri, dyma ni felly 芒 rhestr ganol! Arwydd medd y beirniaid o anhawster y dasg o dorri'r deg yn 么l i dri.
Kate Crockett yn holi un o'r beirniaid, John Rowlands
Fel y nododd un o feirniaid y gystadleuaeth Saesneg, Caroline Hitt, tasg anodd iawn ydi gosod llyfrau rydych chi'n eu hoffi o'r neilltu.
Ac i fi yn bersonol, roedd sioc fwyaf y noson i'w chanfod ar y rhestr fer Saesneg, gan nad oedd lle i gofiant ysbrydoledig Byron Rogers i R.S.Thomas, The Man Who Went into the West, ymhlith y tri uchaf.
Ond fel y dywedodd John Rowlands wrthym wrth recordio sgwrs ar ddiwedd y noson ar gyfer rhaglen gelfyddydau newydd Radio Cymru, Stiwdio, mater o chwaeth yw rhestr fel hon yn y pen draw, gan ychwanegu bod yna ddadlau go frwd wedi bod rhyngddo a'i gyd-feirniaid, Elinor Jones a Gwion Hallam, cyn iddyn nhw benderfynu ar y tri.
Yn ystod y seremoni gyhoeddi cawsom glywed gan y chwe awdur sydd yn awr yn cystadlu am y wobr o 拢10,000. Eleni am y tro cyntaf mae'r ddau awdur "aflwyddiannus" (gair annheg os bu un erioed) yn ennill 拢1000 yr un - ac efallai mai dyna sy'n gyfrifol am y ffaith fod y sgwrs yng Ng?yl y Gelli rhwng yr awduron 芒 chadeirydd y drafodaeth, Jon Gower, wedi bod yn un hwyliog iawn. Fodd bynnag, go brin bod modd gwneud cyfiawnder 芒 chwe awdur mewn sesiwn awr o hyd.
Un o bleserau mawr G?yl y Gelli yw'r teimlad o ddod i adnabod awdur - ac roedd ymateb brwd y gynulleidfa i Gwyn Thomas, wrth iddo gael ei holi gan ei ragflaenydd fel Bardd Cenedlaethol Cymru, Gwyneth Lewis, yn gynharach y prynhawn hwnnw, yn enghraifft dda o hynny.
Byddwn i wedi hoffi clywed mwy gan bob un o'r chwe awdur ar y rhestr fer Cymraeg a Saesneg - a gellid dadlau ymhellach y byddai wedi bod yn braf cael clywed gan yr ugain a gyrhaeddodd y rhestr fer.
Ond y drafodaeth fwyaf difyr i'w chynnal heb os byddai sesiwn o holi'r beirniaid gyda'i gilydd, a chael cyfle i glywed rhai o'r dadleuon brwd hynny y bu'n rhaid eu cynnal cyn cyhoeddi'r rhestr fer.
Marathon o wrando felly - tybed erbyn hyn 芒'r gystadleuaeth wedi tyfu mewn bri ac o ran cyhoeddusrwydd, nad oes angen G?yl Llyfr y Flwyddyn er mwyn cynnal yr holl drafodaethau hynny?
Byddai diwrnod o drafod gyda sesiynau i'r cyhoedd leisio'u barn ar chwaeth y beirniaid yn sicr yn estyn y drafodaeth, ac fel y dywedodd Jon Gower wrth gloi'r noson yng Ng?yl y Gelli eleni, mae angen trafod llyfrau er mwyn anadlu bywyd newydd iddyn nhw.
Pwy felly sydd am fynd 芒'r 拢10,000 eleni? Dydy'r beirniaid hyd yn oed ddim yn gwybod eto, meddai John Rowlands, a'u tasg nhw nawr yw troi unwaith yn rhagor at y tri llyfr ar y rhestr fer am un darlleniad arall, cyn cyhoeddi'r enillydd mewn seremoni yng Nghaerdydd ar Orffennaf 9fed.
Bydd cyfle hefyd i bob un ohonon ni bleidleisio wrth i Radio Cymru gynnal Gwobr y Darllenwyr - ac mae'n werth cofio mai llyfr gwahanol i'r enillydd swyddogol a enillodd bleidlais y gwrandawyr llynedd.
Ie, testun dadl yw gwobrwyo llyfrau yn aml iawn, a chawn glywed rhagor o'r dadleuon hynny yn ystod rhifyn cyntaf Stiwdio wythnos i nos Iau am 6pm ar Radio Cymru.