Astudio mewn coleg
Oed:
20
Coleg
neu Brifysgol:
Fe wnes i fy arholiadau TGAU yng Ngholeg Ystrad
Mynach ac yna cymryd blwyddyn allan i wneud
gwaith clerigol. Dwi nawr yn astudio Lefel A
mewn Saesneg, Hanes a'r Gyfraith ac yn gweithio'n
rhan-amser. Fy nod yw bod yn newyddiadurwraig,
felly dwi'n gobeithio mynd i Brifysgol Caerdydd
i astudio newyddiaduraeth a'r cyfryngau.
Pam
dewis coleg:
Roedd yr ysgol yn cyfyngu arna'i ac roedd tuedd
i roi pawb mewn categori. Mae'r coleg yn wahanol
- fe allwch chi astudio yn eich amser eich hun.
Mae 'na fwy o ryddid ac rydych chi'n cael eich
trin fel oedolyn. Mae'n braf cael gwisgo'ch
dillad eich hun hefyd ac fe allwch chi alw'r
athrawon wrth eu henwau cyntaf. Mae hefyd yn
haws cael trafodaeth gan fod mwy o ryddid i
chi fynegi barn.
Pam
cymryd blwyddyn allan:
Doeddwn i ddim yn barod i fynd yn 么l i addysg
lawn amser ar 么l fy arholiadau TGAU. Pe bawn
i wedi mynd i'r coleg yn syth, fyddwn i ddim
wedi gwneud cystal. Mae seibiant yn rhoi amser
i chi ystyried beth rydych chi am ei wneud.
Wrth gymryd seibiant, mae'n gwneud i chi werthfawrogi
addysg wrth fynd yn 么l. Hefyd, ar 么l gweithio
mewn swyddfa, fel y gwnes i yn ystod fy mlwyddyn
allan, roeddwn i'n gwybod nad oeddwn i byth
eisiau gweithio mewn swyddfa eto!
Pam
Lefel A:
Dwi'n credu mai Lefel A yw'r ffordd orau i fynd
ymlaen i wneud gradd. Mae'n opsiwn gwell ac
yn rhoi mwy o hygrededd i chi os ydych chi eisiau
cael lle mewn prifysgol. Fe wnes i ddewis y
cyrsiau Lefel A am mod i wastad wedi hoffi Saesneg
ac roeddwn i'n meddwl y byddai'r ddau gwrs arall
yn gweithio'n dda gyda'i gilydd. Bydd unrhyw
bwnc y byddwch chi'n ei astudio yn ddefnyddiol.
Gwaith
rhan-amser:
Dwi'n gweithio fel cynrychiolydd busnes, rhwng
6pm a 10pm o ddydd Llun i dydd Gwener. Dwi'n
gofalu am gwsmeriaid busnes ac yn gwerthu cynnyrch
dros y ff么n. Mae'n rhoi arian i mi fynd allan,
er ei bod yn anodd cyfuno gwaith coleg a gwaith.
Cyngor:
Mae angen i chi fedru cymell eich hun, ond rydych
chi'n dysgu o'ch camgymeriadau. Os nad yw'r
grym ewyllys gennych chi, efallai y dylech chi
aros yn yr ysgol. Mae'n dibynnu ar eich personoliaeth,
ac a ydych chi angen rheolau ysgol i'ch harwain.
|