³ÉÈË¿ìÊÖ

Explore the ³ÉÈË¿ìÊÖ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Nôl i'r dudalen gartref
swyddi sgiliau hyfforddiant addysg uwch addysg bellach

³ÉÈË¿ìÊÖ ³ÉÈË¿ìÊÖpage
Addysg
» Jyst y Job
Swyddi
Sgiliau
Hyfforddiant
Addysg Uwch
Addysg Bellach
Siarad o brofiad

Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Addysg Bellach
Ìý


Ble i Astudio

Felly – rwyt ti wedi penderfynu parhau mewn addysg amser llawn ar ôl Blwyddyn 11 ac rwyt ti’n gwybod pa gwrs rwyt ti am ei gymryd. Ond wyt ti wedi meddwl ble rwyt ti’n mynd i astudio?

Hwyrach fod yna resymau da a drwg dros ddewis gwahanol lefydd, ond does dim atebion cywir nac anghywir. Y beth pwysig yw beth sy’n iawn i ti!

I Ble Nawr?

Chweched dosbarth

Saff a chyfarwydd?
Bod gyda dy ffrindiau?
Bach ond hyfryd?
Yn agos at lle rwyt ti’n byw?
Dim newid – dim straen?

Coleg

Newydd a chyffrous?
Cwrdd â phobl newydd?
Mae lle mawr yn cynnig mwy o ddewis?
Fe fyddi di’n dod yn gyfarwydd â theithio?
Rhaid i ti adael yr ysgol ryw dro?

Siarad o brofiad...

Roedd yr ysgol yn cyfyngu arna'i ac roedd tuedd i roi pawb mewn categori. Mae'r coleg yn wahanol... mwy>>

Lydia Vitolo

Llefydd gwahanol – cyrsiau gwahanol

Nid yw pob chweched dosbarth a choleg yn cynnig yr un ystod o bynciau neu gyfuniadau o bynciau.

Lefel TAG Uwch/AS

Fel arfer, mae dosbarthiadau chwech, colegau trydyddol a cholegau chweched dosbarth mawr yn cynnig amrediad eang o lefel TAG Uwch/AS. Gall dosbarthiadau chwech a cholegau AB llai fod yn fwy cyfyng eu darpariaeth.

GNVQs ac AVCEs

Fel arfer mae colegau yn cynnig ystod gweddol eang, gan ddibynnu ar eu maint. Mae’r ddarpariaeth GNVQ yn y chweched yn amrywio’n fawr o ysgol i ysgol. Gall GNVQ canolig fod yn opsiwm yn hytrach nag ail-eistedd. Mae AVCE yn ddewis arall i AS/GCE uwchraddol.

Cyrsiau AB penodol-i-swydd

Er bod rhai dosbarthiadau chwech yn cynnig y cyrsiau hyn weithiau, mewn colegau y ceir y rhan fwyaf ohonynt.

Sut mae cael gwybod mwy

Cyrsiau chweched dosbarth

Os wyt ti mewn ysgol 11-18, gall yr ysgol ddweud pa gyrsiau sydd ar gael yn y chweched dosbarth. I gael gwybod mwy am gyrsiau chweched dosbarth mewn ysgolion eraill, cysyllta’n uniongyrchol â nhw a gofyn am gael siarad â Phennaeth y Chweched neu am gael prosbectws chweched dosbarth.

Cyrsiau coleg

Fel arfer bydd gan dy gynghorydd gyrfaoedd neu Ganolfan Gyrfaoedd leol brosbectws colegau yn eu hardal neu gelli gysylltu â’r colegau’n uniongyrchol. Mae gan lawer o golegau safleoedd gwe gyda gwybodaeth am gyrsiau. Beth am ymweld â Lincs i gael gwybod mwy.

TIP TANBAID!

Os wyt ti’n ystyried mynd i goleg, beth am fynd i Ddiwrnod Agored dy goleg lleol? Gelli weld sut le sydd yno a siarad â’r myfyrwyr a’r tiwtoriaid.

Ìý

Ìý

Lincs

Hefyd...
Lefel A/AS
Cyrsiau AB eraill

Cam nesa...
Addysg Uwch
Hyfforddiant mewn gwaith


randomly included tips

randomly included tips



top

swyddi

sgiliau

hyfforddiant

add. uwch

add. bellach

sgwrs


About the ³ÉÈË¿ìÊÖ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý