Ìý |
Myfyrwyr hyn - Arian
Mae pob myfyriwr yn wynebu problemau ariannol, ond gall y pryderon yma fod ganmil gwaeth i fyfyrwyr hyn, yn enwedig pan fo ganddyn nhw deulu, os ydyn nhw’n gorfod rhoi'r gorau i'w swydd am gyfnod, neu os nad oes sicrwydd y bydd y cwrs yn gwireddu eu breuddwydion nac yn arwain at fudd ariannol ar y diwedd. Dyma rai o'r ffeithiau:
- Y benthyciad mwyaf sydd ar gael i bob myfyriwr (hyd at 54 mlwydd oed - ar ôl hynny rhaid ichi fod yn bwriadu cael gwaith ar ôl graddio) ydy £3725 a rhaid ichi naill ai fod yn astudio'n amser llawn neu dros 50% o gwrs yn rhan-amser.
- Os ydy myfyriwr sengl yn ennill llai na £7500 mae’n gallu hawlio’r benthyciad llawn
- Mae myfyrwyr sy'n briod neu'n byw â phartner yn cael eu hasesu gan AALlau ar sail incwm y ddau ohonyn nhw:
a) Os ydy cyfanswm incwm y ddau islaw £15,070, does dim rhaid i'r myfyriwr dalu ffioedd dysgu ac mae ganddo ef neu hi hawl i fenthyciad llawn
b) Os ydy'r incwm rhwng £15,070 a £24,314 rhaid cyfrannu rhywfaint tuag at y ffioedd dysgu ond mae benthyciad llawn yn dal i fod ar gael i’r myfyriwr
c) Os ydy'r priod neu'r partner yn ennill dros £24,314, rhaid talu'r ffioedd dysgu llawn ac mae'r benthyciad sydd ar gael yn llai
- Mewn teulu sy’n cynnal plant, mae'r cyfraniad a ddisgwylir tuag at y ffioedd yn gostwng £77 fesul plentyn
- Mae lwfansau ychwanegol, grantiau ar gyfer cinio ysgol a grantiau gofal plant ar gael i fyfyrwyr sydd â phlant
- Mae rhieni sengl yn gymwys i gael cymhorthdal incwm a budd-dâl tai a rhywfaint o fudd-dâl plant ychwanegol (yn dibynnu ar eu hamgylchiadau personol)
- Mae gan Gymru gynllun sy’n galluogi myfyrwyr rhan amser i osgoi talu ffioedd – yn dibynnu ar eu hamgylchiadau personol
- Mae benthyciad gwerth £500 ar gael i fyfyrwyr rhan-amser
- Fe all myfyrwyr rhan-amser gasglu sawl math o fudd-dâl, gan gynnwys lwfans ceisio gwaith
- Mae cronfeydd caledi ar gael i fyfyrwyr rhan-amser
- Mae’r rhan fwyaf o brifysgolion yn cynnig bwrsariaethau neu arian mynediad i helpu myfyrwyr hyn, neu bobl sydd mewn trafferthion ariannol mawr, yn ôl penderfyniad y brifysgol (a does dim rhaid ei dalu yn ôl)
Unwaith eto, os nad ydy'r arian wrth law gennych neu nad oes gennych chi arian wrth gefn wedi’i gynilo, mae talu am gymhwyster pellach yn golygu aberth. Fodd bynnag, bydd bod yn ofalus gyda’ch arian am flwyddyn neu hyd yn oed am 4 blynedd yn arwain yn y pendraw at fanteision o ran hyfforddiant a chymwysterau. Eto, os ydy arian yn brin, mae cymorth ar gael a bydd y rhan fwyaf o golegau yn trefnu cyrsiau ar sail eich anghenion a'ch gallu ac yn cymryd y sefyllfa ariannol i ystyriaeth.
Mae pob math o gynlluniau benthyg ar gael hefyd ar gyfer talu am gyrsiau addysgol a galwedigaethol. Ffoniwch linell gymorth Learndirect (0800 100 900) i gael rhagor o wybodaeth am bethau fel cyfrifon i raddedigion a benthyciadau ar gyfer datblygu gyrfa.
TIP
TANBAID!
|
Cysylltwch â'ch Awdurdod Addysg Lleol - fe allan nhw asesu pa fenthyciadau a budd-daliadau sydd ar gael.
|
Pryderon eraill:
Gwaith | Arian | Teulu | Oedran | Diffyg Addysg Ffurfiol | Gyrfa | Lincs
Ìý
|
Ìý |