In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Y Pwyliaid
Yn y clip uchod, ceir hanes y Pwyliaid a ymsefydlodd yn ardal Llanybydder, Sir Gaerfyrddin. Yr hanesydd Dr. Mike Benbough-Jackson sy'n mynd ar drywydd y Pwyliaid eraill a ffodd rhag Comiwnyddiaeth wedi'r Ail Ryfel Byd ac ymsefydlu yng Nghymru.
Yn 么l cyfrifiad 1931, roedd 574 o bobl a aned yng Ngwlad P诺yl yn byw yng Nghymru. Dangosodd y cyfrifiad nesaf yn 1951 bod dros 6,000 o breswylwyr Cymru o Wlad P诺yl yn wreiddiol. Roedd y mewnfudwyr yma yng Nghymru am iddynt gael eu diwreiddio yn ystod yr Ail Ryfel Byd; hyd yn oed wedi buddugoliaeth y Cynghreiriaid, roedd nifer fawr o Bwyliaid yn gyndyn o ddychwelyd i'w mamwlad dan reolaeth y Comiwnyddion.
Er i fwyafrif y mewnfudwyr o B诺yl gyrraedd yn ystod canol a diwedd y 1940au, nid un gr诺p unffurf oedden nhw. Roedd rhai yn filwyr oedd wedi parhau eu brwydr yn erbyn yr Almaen Naz茂aidd o wahanol wledydd y Cynghreiriaid, roedd eraill yn sifiliaid tlawd wedi eu symud o'i gwlad.
Yng Nghymru, gafaelodd y Pwyliaid mewn cyfleoedd a wynebu anawsterau; er mai pitw oedd rhain i'w cymharu 芒'r treialon roedden nhw wedi eu hwynebu cyn hynny. Roedd ymateb y Cymry yn gymysg: croeso cynnes gan rai, ymateb oeraidd gan eraill.
Gw欧r y Fyddin a'r llywodraeth oedd y cyntaf i gyrraedd. Ond wnaethon nhw ddim cyrraedd i gyd yr un pryd, fe droediodd nifer ohonynt lwybr mwy cwmpasog. Daeth rhai yn syth o Wlad P诺yl wedi iddi syrthio, daeth eraill drwy Ffrainc, Rwsia a rhannau o'r Ymerodraeth Brydeinig lle roedden nhw wedi gwasanaethu. Cyrhaeddodd Rudolf Olewicz yn Llanbed drwy Rwsia, Irac a'r Eidal. Daeth Stanislaw Berger, a ymsefydlodd yng Nghwmbran, ar hyd llwybr tebyg.
Gwrthwynebiad
Pan basiwyd Deddf Ailgartrefu Pwyliaid yn 1947, cafodd cymwysterau meddygon a phobl broffesiynol eraill o Wlad Pwyl eu cydnabod a sicrhawyd darpariaeth les i'r Pwyliaid hynny oedd wedi ffoi i Brydain yn ystod y rhyfel. Ond oherwydd y sefyllfa economaidd anodd wedi'r rhyfel, roedd rhai trethdalwyr yn gwrthwynebu'r syniad o roi cymorth i 'ddieithriaid'.
Hefyd, roedd nifer o'r milwyr hyn yn sefydlu perthynas gyda menywod Cymru. Fe wnaeth hyn beri gofid i Sidney J. May o Landudoch a ddywedodd mewn cyfarfod yn 1949 fod 'mercheta'r dynion hyn wedi andwyo bywydau teuluoedd'. Ar y llaw arall, roedd pobl yn canmol y Pwyliaid a oedd yn aros yn Aberporth a aeth ati i glirio'r ffyrdd gyda rhawiau pren yn ystod gaeaf caled 1946-47. Mae llai yn gwybod am ymdrechion tua 100 o filwyr Pwylaidd a helpodd i gael gwared 芒 sieliau a bomiau o uwchdiroedd Cymru yn 1950 - cyfraniad sylweddol i Gymru yn y cyfnod wedi'r rhyfel.
Cyrhaeddodd Pwyliaid eraill ar 么l y rhyfel o ganlyniad i gynllun y Gweithiwr Ewropeaidd Gwirfoddol (EVW - European Voluntary Worker), a sefydlwyd gan Weinyddiaeth Lafur Llywodraeth Prydain yn 1946. Roedd y rhaglen EVW yn fesur newydd sbon i ddod 芒 llafur i Brydain o wersylloedd i bobl wedi eu dadleoli yn Awstria a'r Almaen. Roedd cyflogwyr Prydain yn cael trafferth dod o hyd i weithwyr, yn rhannol o ganlyniad i godi'r oedran gadael ysgol o 14 i 15 yn Neddf Addysg 1944, ac fe fu'r EVW yn gysylltiedig ag amryw o ddiwydiannau a gwasanaethau; o byllau glo i waith domestig mewn ysbytai.
Doedd ymateb y gweithwyr Prydeinig i'r newydd-ddyfodiaid hyn ddim bob amser yn gadarnhaol. Roedd gl枚wyr yn poeni y byddai'r llafurlu o dramor yn disodli statws y gweithiwr cyffredin ym Mhrydain. Roedd y pryder hwn yn ganlyniad i ymdeimlad o ansicrwydd economaidd a oedd yn rhan annatod o feddylfryd y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel byd.
Ym mhentref Oakdale, Gwent, roedd gweithwyr o B诺yl ac Iwgoslafia yn byw mewn hostel wedi ei adeiladu'n arbennig ar eu cyfer. Roedd cyfrinfa lleol Undeb Cenedlaethol y Gl枚wyr yn gwrthwynebu'r gweithwyr yma o dramor ac ni chawsant fynd i lawr y pwll nes cenedlaetholi'r diwydiant. Ond yn amlach na pheidio, diflannu wn芒i'r amheuon cychwynnol unwaith roedd y Cymru a'r gweithwyr o Ddwyrain Ewrop yn gweithio ochr yn ochr a thir cyffredin wedi ei sefydlu rhwng cydweithwyr. Drwy sefydlu Undeb y Crefftwyr Pwylaidd, oedd 芒 changhennau yn ne-ddwyrain Cymru, yn 1948, dangosodd y Pwyliaid nad gweision bach eu cyflogwyr oedd y mewnfudwyr hyn. Yn 么l Granville Thomas a fagwyd yn Oakdale, nid oedd unrhyw wrthdaro rhynddynt yn y pyllau a rhannai'r Pwyliaid a'r Cymry ddiddordeb mewn p锚l-droed. Er hynny, cafwyd m芒n ffrygydau yng Ngwesty'r Oakdale yn y cyfnod.
Catholigion
Roedd ffydd Gatholig y mewnfudwyr o B诺yl yn eu gosod ar wah芒n, yn enwedig mewn gwlad fel Cymru a oedd yn Brotestanaidd yn bennaf. Er i'w ffydd achosi ychydig o densiwn yn yr Alban lle roedd gwrthdaro enwadol yn parhau i chwarae rhan mewn gwleidyddiaeth a bywyd bob dydd ymhell i'r ugeinfed ganrif, nid yw'n ymddangos bod cymaint o wrthdaro yngl欧n 芒 hyn wedi digwydd yng Nghymru.
Mae T.J. Stephens o Gaerfyrddin yn cofio Pwyliaid yn dod i eglwys y Santes Fair i glywed yr offeren mewn Pwyleg yn niwedd y 1950au. Yn Llandysul, lle nad oedd Eglwys Gatholig, cytunwyd mewn cyfarfod preswylwyr yn 1958 i roi Neuadd Tyssul i Gatholigion, llawer ohonynt yn Bwyliaid, ei defnyddio fel man addoli dros dro.
Fodd bynnag, roedd rhai Protestaniaid, yn Llandysul a llefydd eraill, yn dal i weld y cynnydd yn y boblogaeth Gatholig, er mor fychan, yn ddychweliad at 'Babyddiaeth'. Yn 1949, yn Nghyfarfod Cyffredinol yr Eglwys Bresbyteraidd yng Nghymru yng Nghaerdydd, roedd Prifathro Coleg Diwynyddol Aberystwyth yn annog ei gyd fynychwyr i beidio ag eistedd yn 么l 'a gadael i'n gwlad gael ei gymryd gan y ffydd Gatholig heb rywfaint o brotest'.
Pwyliaid Wrecsam
Mae Cwnstabl Keith Sinclair o Heddlu Gogledd Cymru wedi dysgu Pwyleg er mwyn cyfathrebu gyda mewnfudwyr o Wlad P诺yl sydd wedi symud i Wrecsam a Sir y Fflint.
"Penderfynais ddysgu'r iaith gan fod llawer iawn o Bwyliaid wedi symud i Sir Wrecsam a Sir y Fflint ers i Wlad P诺yl ymuno 芒'r Undeb Ewropeaidd yn 2004. Roedd yr ardal yma yn atyniad cryf gan fod digon o alw am waith diwydiannol," meddai.
"Er eu bod yn ymwybodol fod yna iaith Gymraeg, i fod yn onest nid yw rhai yn dysgu Saesneg! Gan fod cymuned Bwylaidd mor fawr yma, mae ganddyn nhw fywyd cymdeithasol da eu hunain. Mae siop a deli Pwylaidd i'w gael yn Wrecsam hefyd."
Yn 1946, daeth mewnlifiad cynharach i ardal Wrecsam pan sefydlwyd ysbyty ym mhentref Penley ger Wrecsam.
"Mae'r Pwyliaid diweddaraf yn bennaf wedi dod i'r ardal oherwydd y cyfleoedd gwaith ac nid oherwydd bod perthynas iddynt yn byw yma." meddai Keith Sinclair. Gefeillwyd Sir Wrecsam gyda Racib贸rz yng Ngwlad P诺yl yn 2004.
Yn fuan wedi iddynt gyrraedd, ffurfiodd y Pwyliaid sefydliadau a helpodd iddynt gadw eu hunaniaeth a chreu cysylltiadau gyda'r gymuned Gymreig oedd yn eu derbyn. Mae'r corau meibion Pwylaidd ac ymweliadau ag ysgolion gan blant Pwylaidd yn cludo anrhegion wedi eu gwneud 芒 llaw adeg y Nadolig yn enghreifftiau o'r pontio oedd yn digwydd o ddiwedd y 1940au ymlaen. I'r mewnfudwyr llai ffodus, yr anabl a'r henoed, oedd heb unrhyw deulu i'w helpu, sefydlodd Cymdeithas Dai'r Pwyliaid gartref yn hen safle'r awyrlu ym
Roedd arweinwyr y gymuned Bwylaidd yn pwysleisio'r cwlwm a deimlent gyda'u gwlad fabwysiedig. Mewn cyfweliad i'r rhaglen Eagles in Exile, a ddarlledwyd gan y 成人快手 yn 1974, dywedodd Colonel Szul o fferm Pen-y-castell ger Llanrhystud nad oedd yn teimlo fel Prydeiniwr, ond ei fod yn teimlo fel Cymro, cyn cymharu'r mynyddoedd, y cyfeillgarwch a chroeso'r Cymry gyda rhai Glwad P诺yl. Dewisodd Pwyliaid fel Colonel Szul, a oedd yn aml yn sefyll i gael tynnu ei lun yng ngwisg genedlaethol Gwald P诺yl, ffermio yng ngorllewin Cymru gan ei fod yn caniat谩u iddynt ryw elfen o annibyniaeth. Cynyddodd y boblogaeth Bwylaidd yn Sir Gaerfyrddin o 3 yn 1931 i 169 ugain mlynedd yn ddiweddarach.
Dri deg mlynedd ar 么l darlledu Eagles in Exile, agorodd y farchnad lafur Brydeinig i weithwyr o Wlad P诺yl. Yn wahanol i Bwyliaid y 1940au, roedd y rhai a gyrhaeddodd ar 么l 2004 yn gallu cadw mewn cysylltiad gyda Gwlad P诺yl drwy gyfrwng ff么n symudol a'r rhyngrwyd, a dychwelyd i'w mamwlad bryd bynnag y dymunent heb ofni cael eu herlid. Ymddangosodd bwyd Pwylaidd mewn siopau cornel ac ail fedyddiwyd Wrecsam yn 'Warsaw fechan'. Er hynny, yn 么l safonau'r unfed ganrif ar hugain, profwyd caledi gan lawer wrth gymryd swyddi caled am d芒l bach.
Boed yn chwilio am gyfleoedd gwell neu'n dianc rhag rhyfel, mae mewnfudwyr o B诺yl i Gymru wedi wynebu'r her o addasu i genedl newydd a byw yn bell o'u cynefin.
Dr Mike Benbough-Jackson
Mwy
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.