Ysbyty'r Chwarel Dinorwig
topRoedd ysbyty modern o flaen ei amser yn Llanberis yn oes aur y chwareli. Ken Latham, rheolwr gyda Pharc Padarn, sy'n ein cyflwyno i fyd y meddyg a'i glaf ar droad y ganrif ddiwethaf.
"Hwn yw'r hen ysbyty ar gyfer y chwarelwyr a oedd yn gweithio yn Chwarel Dinorwig, [ger Llanberis yng ngogledd Cymru]. Y syniad oedd cael ysbyty a oedd yn agos i'r chwarel, i'r chwarelwyr fod yn ddigon agos i fynd yn 么l i'r gwaith ar 么l cael triniaeth. Roedd yr ysbyty ym Mangor dros ddeg milltir i ffwrdd o Lanberis - pell iawn cyn cyfnod ceir a ffyrdd fel heddiw.
"Roedd dros 3,000 o bobl yn gweithio yn y chwarel ac roedd 'na lot o ddamweiniau - a rheiny ddim yn rhai neis o gwbwl: lot o golli bysedd, anafiadau o gael eu gwasgu, torri esgyrn ac yn y blaen.
Pelydr X
"Roedd yr ysbyty yn un o'r rhai cyntaf yn y wlad i ddefnyddio pelydr X. Mae'r hen beiriant yn dal yma - mae'n eithaf erchyll i edrych arno, er nad ydy'r dechneg o gymeryd pelydr X heb newid gymaint 芒 hynny mewn canrif.
"Fe wnaethon nhw ddarganfod pelydr X yn yr Almaen yn 1896, ac erbyn 1898 roedd ganddynt beiriant yma yn y chwarel a'r ysbyty oedd un o'r adeiladau cyntaf i gael trydan yn y cwm. Hefyd, hwn oedd y lle cyntaf i gael un tap d诺r poeth ac un oer a oedd yn eithaf da yn yr oes honno.
"Mae yna hen fferyllfa yma hefyd, o'r cyfnod pan fyddent yn defnyddio meddyginiaeth allan o focsys a photeli yn lle jest rhoi tabledi allan fel heddiw.
"Mae theatr llawdriniaeth yma, gyda hen offer fel skill saw i dorri bysedd i ffwrdd, pob math o bethau.
Roeddent yn defnyddio peiriant y Lister spray. Byddent yn berwi asid carbolig yn y lister a byddai'r chwistrelliad yn dod allan fel niwl dros y bwrdd triniaeth er mwyn stopio gwenwyn rhag mynd i'r gwaed. 'Doedd prin ddim achosion o septisemia yn yr ysbyty, i feddwl nad oedd triniaeth antibiotig ar gael yr adeg honno. Y peth pwysig oedd cadw popeth yn l芒n - roeddent yn deall o'r cychwyn fod germau yn gallu cael eu pasio o un peth i'r llall.
"Mae 'na hefyd enghraifft o fainc archwilio yma, sydd ddim fel soffa o gwbwl ond ychydig fel potel dd诺r poeth enfawr. Mi fydden nhw'n rhoi d诺r poeth ym mhledren y bwrdd er mwyn codi gwres y claf - does 'na ddim lle llawer oerach na diwrnod o aeaf yn y chwarel.
"Roedd y llawfeddygon yn gwneud pob dim yma. Os oedd na ddamwain difrifol, roedd yn gyfle iddyn nhw roi tro ar driniaeth nad oeddent wedi ei gwneud o'r blaen. Doedd y chwarelwyr eu hunain ddim gwerth gymaint a hynny.
Dr Mills Roberts
"Un doctor arbennig iawn i weithio yma oedd Dr Mills Roberts, a oedd yma ar droad y ganrif ddiwethaf. Roedd hefyd yn chwarae p锚l-droed i Preston North End, un o'r timau a sefydlodd y Gynghrair P锚l-droed. Roedd yn aelod o'r t卯m cyntaf i guro'r gynghrair ac ennill cwpan yr FA tua 1890. Gweithiodd yma tan iddo fynd i gwffio yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
"Parhaodd yr ysbyty yma nes i'r NHS gychwyn yn y 1950au. Roedd yn orsaf cymorth cyntaf tan i'r chwarel gau yn y 1960au.
"Pan gaewyd yr ysbyty cafwyd wared 芒 phopeth ac roedd yr adeilad ar gau tan i sefydliad y Parc Cenedlaethol ei berchenogi flynyddoedd wedyn. Ond yn ffodus, roedd gan rhywun y weledigaeth i gadw lot o'r peiriannau a'r offer yn ddiogel yn yr archifdy ac felly roedd yn bosib ei agor er mwyn i ymwelwyr weld sut oedd yr ysbyty unigryw yma yn gweithio - un o'r unig ysbytai o'i math ym Mhrydain."
Ysbytai chwareli eraill yr ardal
Mae Dr Edward Davies o Gapel Curig wedi gwneud astudiaeth fanwl ar fyd y meddyg a'i glaf yn ysbytai chwareli'r ardal yn y 19eg Ganrif. O'r anaesthetig cyntaf i lawdriniaeth anodd ar yr ymennydd, roeddent ar flaen y gad.
"Roedd tri ysbyty chwarel yn y gogledd orllewin - yn y Penrhyn, Dinorwig a Chwarel Oakley, Ffestiniog.
"Roedd diwydiant llechi wedi bodoli ar raddfa fechan yn yr ardal ers y Canol Oesoedd ond erbyn y 19eg ganrif, cafodd ei ddatblygu ar raddfa fasnachol. Sylweddolodd y perchnogion yn eithaf cynnar bod llawer o ddamweiniau yn digwydd yn y chwareli ac felly y byddai'n syniad darparu ysbyty ar eu cyfer.
"Agorwyd yr ysbyty gyntaf ym Mount Street, Bangor. Ond roedd yn golygu bod chwarelwyr o'r Penrhyn yn gorfod teithio chwe milltir efo ceffyl a throl neu, yn hwyrach, ar dram, cyn cael triniaeth. Felly agorwyd ysbyty ym Mhenrhyn yn 1840.
"Yna, yn 1830 agorwyd ysbyty yn hen chwarel Dinorwig cyn iddyn nhw ddechrau gweithio'n is lawr ger Allt Ddu yn 1856. Adeiladwyd yr ysbyty y gallwch ymweld ag o heddiw, yn 1860.
"Penderfynodd gweddw perchennog Chwarel Ffestiniog, Mrs Oakley, agor ysbyty yno yn 1848.
"Yn swyddogol, ar gyfer chwarelwyr yn unig oedden nhw. I ddechrau, fe fyddent yn talu chwe cheiniog y mis tuag at yr ysbyty, gan gynyddu i swllt wedyn.
"Yn ysbyty chwarel y Penrhyn y rhoddwyd yr anaesthetig llwyddiannus cyntaf yng ngogledd orllewin Cymru, ar chwarelwr oedd yn cael llawdriniaeth i dorri ei goes i ffwrdd. Roeddent wedi tr茂o rhoi anaesthetig i ddyn yn yr hen Infirmary ym Mangor yn 1847 ond bu farw.
"I ddechrau, fe fydden nhw'n defnyddio ether, ac yn ddiweddarach cymysgedd o ether, alcohol a chlorofform.
"Fe gychwynon nhw ddefnyddio pelydr X yn Ninorwig ddwy flynedd ar 么l iddo gael ei ddyfeisio yn yr Almaen yn 1898. Roedd y dyn cyntaf i gael pelydr X i mewn yn yr ysbyty am ddau ddiwrnod - roeddent yn amau fod ganddo ddic谩u yng nghymal y ben glin.
"Dr Mills Roberts a ddefnyddiodd y peiriant gyntaf. Roedd yn ddyn o flaen ei amser. Pan ddaeth un chwarelwr ato gydag anaf difrifol i'w ben, fe ddefnyddiodd Mills Roberts y dechneg o ddraenio casgliad (abscess) ar yr ymennydd. Fe wellodd y dyn yn llwyr.
"Roedd y tri ysbyty yn gwneud lot o lawdriniaethau ar y penglog ar 么l damwain - tynnu darn o esgyrn oedd wedi torri ac yn pwyso ar yr ymennydd.
"Rhagflaenwr arall oedd Dr Thomas Hughes, oedd yn Ninorwig o 1875 tan 1890 cyn iddo farw'n ifanc o niwmonia, gwaetha'r modd. Fo ddefnyddiodd ddyfais Lord Lister o chwistrellu asid carbolig o amgylch y clwyf i arbed haint. Roedd nifer yn anghytuno efo'r dull yma ond roedd Dr Hughes yn ei ddefnyddio'n llwyddiannus i arbed y chwarelwyr rhag gwenwyn gwaed.
"Roeddent yn cael eu cadw'n brysur yn y chwareli ac felly yn arloesi mewn trin anafiadau a rhoi cymorth brys.
Anafiadau'r chwarelwyr
"Roedd yna wahaniaeth rhwng yr anafiadau a gafwyd yn y Penrhyn, Dinorwig a Ffestiniog. Roedd chwareli sir Gaernarfon yn chwareli agored tra bod y Blaenau yn fwy fel mwynfeydd oherwydd bod gwely'r llechen yn gorwedd ar ongl o ryw 30 i 70 gradd i'r gwastad. Felly doedden nhw ddim yn cael cymaint o bobl yn cael damweiniau wrth gwympo o'r graig fel yng Nghaernarfon, ond yn cael nifer sylweddol mwy o ddamweiniau oherwydd ffrwydriadau dan ddaear, yn enwedig wrth iddynt weithio yng ngolau cannwyll.
"Roedd 40 o anafiadau bob mis yn Ninorwig yn y 1890au, gyda 5% yn rhai difrifol.
"Roedd hefyd nifer yn dod i'r ysbyty oherwydd afiechydon yn ymwneud 芒'r chwarel - problemau gyda'r ysgyfaint neu'r coluddion.
"Nid oedd chwarel y Blaenau yn cymryd cleifion gydag afiechyd fel y rheiny ond roedd Assherton-Smith yn Ninorwig yn fwy hyblyg. Byddai'n gadael i rai gwragedd gael eu trin yno hefyd a chafodd rhai driniaeth ar gyfer cancr y fron a chael tynnu cataract.
"Mae gen i ddiddordeb mawr mewn hanes meddygaeth a gan imi gael fy magu ymysg chwarelwyr Blaenau, mi welais i effaith y chwareli arnynt, yn enwedig clefyd y llwch. Bu farw dau o frodyr fy nhaid mewn damweiniau yn chwarel Dinorwig ac roeddwn yn meddwl ei bod yn bwysig bod yr anafiadau a'r clwyfau roeddent yn dioddef yn cael eu cofnodi. Felly mi es ati i ysgrifennu The North Wales Quarry Hospitals and the health and welfare of the quarrymen, sydd erbyn hyn ar gael yn archifdy Gwynedd ac efallai mewn llyfrgelloedd lleol."
Ken Latham
Ysgrifennwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar gyfer gwefan 成人快手 Lleol i Mi.
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.