成人快手

family tree - www.istockphoto.com

Dechrau Hel Achau

05 Ionawr 2009

Ar yr olwg gyntaf gall fod yn anodd gweld lle i ddechrau olrhain hanes eich teulu, ond wrth gynllunio clir, trefnus a gofalus, gallwch weld ffrwyth eich llafur ar eich coeden deuluol.

Siarad gyda pherthnasau
Pan yn cychwyn eich ymchwil, mi allwch chi gasglu llawer o wybodaeth wrth sgwrsio efo'r teulu. Siaradwch gyda chymaint a phosib o berthnasau i gael enwau, ffeithiau, a manylion - yn arbennig gan berthnasau hyn (neiniau a teidiau). Yn aml byddant yn medru cynnig manylion pellach fel dyddiadau a lleoliadau, ac efallai y byddai ganddynt ddogfennau teunuol fydd o gymorth i chi.

Tystysgrifau geni, marwolaeth a phriodi
Beth am ddechrau efo'ch tystysgrif geni? Mae'n cofnodi enwau eich rhieni yn ogystal ag enw morwynol eich mam.

Bydd tystysgrifau geni eich rhieni yn nodi enwau eich neiniau a'ch teidiau hefyd ac enw morwynol eich dwy nain. Bydd tystysgrif priodas yn nodi enwau eich dau daid a'u gwaith a bydd tystysgrifau priodas y neiniau a'r teidiau yn rhoi'r un wybodaeth. A dyna chi wedi mynd yn 么l dair cenhedlaeth yn barod!

Cofnodion llai ffurfiol
Mae cofnodion llai ffurfiol hefyd yn bwysig iawn wrth hel achau. Peidiwch ag anghofio am ddyddiaduron, llythyrau, llyfrau lloffion, llyfrau cyfeiriadau, adroddiadau ysgol, tystysgrifau addysgol a chardiau pensiwn.

Mae lluniau yn arbennig o ddefnyddiol ac yn medru bod yn hwb i gof ambell un. Weithiau mae gwybodaeth yn cael ei chofnodi ar gefn lluniau felly cofiwch edrych ac ychwanegu manylion os nad ydynt ar gael. Mae'n hawdd anghofio!

Cynllunio'n fanwl
Cyn i chi gychwyn eich ymchwil mwy manwl, mae'n werth dylunio cynllun bras i'r hyn ydych yn ei wybod. Y lle gorau i gychwyn yw gyda chi eich hun a'ch plant / wyrion neu wyresau, yna symud am yn 么l gyda'ch brodyr a chwiorydd, rhieni, neiniau a teidiau ac yn y blaen.

Un peth i fod yn ofalus ohono yw fod pob teulu'n chwarel o straeon bach a mawr ond dydyn nhw ddim i gyd yn wir! Ceisiwch brofi eich ffordd yn 么l o un genhedlaeth i'r llall, neu holi gwahanol aelodau o'r teulu yn hytrach na dibynnu ar dybiaethau neu honiadau un person.


Radio Cymru'n cofio digwyddiadau mawr y degawdau ar foreau Sadwrn.

Mudo

Capel Glan Alaw, Patagonia

Capeli, tai te a gauchos

Hanes y Cymry a ymfudodd i'r Ariannin yn 1865.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.