Calan Gaeaf
Mae Noson Calan Gaeaf yn hen ddathliad i nodi diwrnod olaf y flwyddyn Geltaidd sef Hydref 31. Dyma'r noson, yn 么l traddodiad, pan mae'r ffin rhwng y byw a'r marw yn diflannu a phan fo ysbrydion yn crwydro'r ddaear.
G诺yl Baganaidd yw hi'n wreiddiol a chredai'r hen Gymry fod eneidiau'r meirw yn troedio ymhlith y byw ar yr adeg hon o'r flwyddyn.
Byddent yn gwisgo masgiau er mwyn cadw ysbrydion drwg i ffwrdd. Dyna wraidd y grefft o gerfio wynebau ar feipen a'i harddangos yn y ffenestr.
Fel nifer fawr o wyliau Celtaidd cafodd yr 诺yl hon ei mabwysiadu gan yr Eglwys gyda dyfodiad Cristnogaeth a'i hail gyflwyno fel G诺yl yr Holl Saint ar Dachwedd 1 a G诺yl yr Holl Eneidiau ar Dachwedd 2, gan barhau'r traddodiad o gofio eneidiau'r meirw.
Datblygodd nifer o draddodiadau Cymreig o gwmpas yr 诺yl yn ymwneud 芒 gemau, rhigymau a pharatoi bwyd.
Ond erbyn heddiw mae traddodiadau Halloween yr Unol Daleithiau wedi disodli'r 诺yl Baganaidd Gymreig a hwyl trick or treat wedi disodli elfennau mwy difrifol yr hen grefydd. Pwmpen sy'n cael ei defnyddio gan amlaf heddiw yn hytrach na meipen neu swejen.
Arferion gwerin
Cysylltiadau'r 成人快手
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Chwedlau Myrddin
Straeon a gemau
Ewch ar anturiaethau gyda'r cymeriadau yn ein gemau a straeon cyfoes.