成人快手

Gwrthryfel Owain Glynd诺r

top
Baner Glyndwr

23 Mawrth 2009

Cwrs y Gwrthryfel

Credir bod gwreiddiau'r gwrthryfel i'w canfod yn y ffrae rhwng Owain 芒'i gymydog, Reginald Grey, Arglwydd Rhuthun, ac amharodrwydd y brenin i fod yn ganolwr teg. Ar 16 Medi 1400, aeth carfan o gefnogwyr Owain ati yng Nghlyndyfrdwy i'w gyhoeddi yn Dywysog Cymru. Ymosodasant ar drefi Seisnig gogledd-ddwyrain Cymru, ac yna diflanasant i'r mynyddoedd. Bu seibiant hyd Basg 1401, pan gipiwyd Castell Conwy gan gefndryd Owain, aelodau o deulu Tudur o Ynys M么n. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, enillodd Owain frwydr ar lechweddau Pumlumon, a buan y gwelwyd bod cefnogaeth iddo mewn rhannau helaeth o Gymru. Arweiniodd Harri IV nifer o gyrchoedd yn ei erbyn, ond roedd ei dactegau milwrol yn aneffeithiol yn erbyn dulliau guerilla Owain. Ag ymgyrchoedd y brenin yn cael eu rhwystr gan dywydd enbyd, datblygodd y dybiaeth bod grymoedd natur yn cydweithio ag ymgyrch Glynd诺r. Yn eu rhwystredigaeth, pasiodd aelodau Senedd Lloegr y C么d Penyd, a waharddai'r Cymry gwrthryfelgar rhag ymgasglu, bod 芒 swyddi cyhoeddus, cario arfau a byw mewn trefi caerog, a gosodwyd yr un gwaharddiadau ar bob Sais a chanddo wraig Gymreig.

Llwyddiant

Yn 1402 cipiodd Glynd诺r ei hen elyn, yr Arglwydd Grey o Ruthun. Cipiodd hefyd Edmund Mortimer, ewythr i'r Edmund Mortimer a oedd yn wir aer coron Lloegr; ymgyngheiriodd Mortimer 芒'r gwrthryfelwyr Cymreig a phriododd Catrin, merch Owain. Yn 1404, cafodd Owain feddiant ar gestyll Aberystwyth a Harlech, seliodd gytundeb 芒'r Ffrancwyr, a chynhaliodd senedd ym Machynlleth, lle mae'n bosibl y coronwyd ef yn Dywysog Cymru yng ng诺ydd cynrychiolwyr Ffrainc, yr Alban a Chast卯l. Daeth cymorth o Ffrainc yn 1405, ac erbyn hynny, roedd y rhan fwyaf o Gymru, ac eithrio'r cestyll brenhinol, yn cydnabod awdurdod Owain Glynd诺r.

Aflwyddiant

Cyrhaeddodd grym Owain ei uchafbwynt yn 1405, ond roedd y flwyddyn honno hefyd yn flwyddyn o fethiannau. Bu cyfraniad y Ffrancwyr yn siomedig. Collwyd brwydrau yng nghastell y Grysmwnt ac ym Mhwllmelyn ger Brynbuga, ac o ganlyniad tanseiliwyd awdurdod Glynd诺r yn y de ddwyrain. Erbyn 1406, cymorth pellach o Ffrainc oedd ei obaith pennaf. Ym mis Mawrth, ysgrifennwyd ym Mhennal ger Machynlleth lythyr at Frenin Ffrainc yn addo teyrngarwch y Cymry i'r Pab yn Avignon, a gydnabuwyd gan Ffrainc, yn hytrach nag i'r Pab yn Rhufain, a gydnabuwyd gan Loegr. Yn Llythyr Pennal, gwnaed cais i ddyrchafu Tyddewi'n archesgobaeth gydag awdurdod dros esgobion eraill Cymru ac amryw yn Lloegr, i sefydlu dwy brifysgol yng Nghymru, ac i roi pen ar yr arfer o drosglwyddo incwm sefydliadau crefyddol yng Nghymru i fynachlogydd yn Lloegr. Galwyd am esgymuno Harri IV ac am bardwn llwyr am unrhyw bechodau a gyflawnid gan y gwrthryfelwyr Cymreig. Ni chafwyd ateb gan Frenin Ffrainc. Profodd mab Harri IV - Harri V yn ddiweddarach - i fod yn arweinydd milwrol effeithiol. Yn 1408, adenillwyd Castell Aberystwyth gan luoedd coron Lloegr, a digwyddodd yr un peth i Gastell Harlech yn 1409. O hynny ymlaen, roedd Owain Glynd诺r yn ffoadur yn y mynyddoedd. Yn 么l pob tebyg, bu farw tua 1416 yn Llan-gain (Kentchurch) ar y ffin 芒 Swydd Henffordd, cartref ei ferch Alys. Bu cryn ddyfalu yngl欧n 芒 lleoliad ei fedd.

Canlyniadiau'r gwrthryfel

Roedd canlyniadau gwrthryfel Glynd诺r yn drychinebus i Gymru. Adroddodd y croniclwyr bod y cwbl wedi bod yn ofer, a dywedwyd bod Brenin Lloegr wedi cyhoeddi 'galanastra' ar Gymru benbaladr. Gwnaed y math o ddifrod a briodolir i derfysg gwerinol; yn wir, dyna ydoedd y gwrthryfel ar lawer golwg. Gellir hefyd ei ystyried fel rhyfel cartref, oherwydd nid pob Cymro oedd yn barod i herio grym Brenin Lloegr. Aeth o leiaf cenhedlaeth heibio cyn y ceid arwyddion pendant bod yr economi'n adfywio. Dwysawyd y tyndra a arweiniodd at y gwrthryfel o ganlyniad i'w fethiant. Ond, yn y pendraw, daeth disgynyddion yr uchelwyr hynny a oedd wedi cefnogi Glynd诺r i'r casgliad mai mwy buddiol oedd cydweithredu 芒'r awdurdodau Seisnig. Aeth tair canrif a hanner heibio cyn y llawn sylweddolwyd arwyddoc芒d y gwrthryfel, cyn y cydnabuwyd Owain Glynd诺r yn brif arwr hanes Cymru, a chyn y gwerthfawrogwyd bod ei safiad wedi bod yn ganolog i barhad yr ymwybyddiaeth o genedligrwydd Cymreig.


Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glynd诺r yn Dywysog Cymru.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.