成人快手

Cymry'r Cylch Bocsio

top
Freddie Welsh yn bocsio

Gan Mel Williams

Anodd ydyw gwybod yn iawn pa bryd y cychwynnodd paffio fel yr ydym ni'n ei adnabod ond ceir hieroglyffau ym mhyramidiau'r Aifft sy'n dyddio i 400 CC yn awgrymu fod milwyr yn ymladd efo'u penelinoedd a'r dwylo wedi'u gorchuddio 芒 rhwymynnau.

Cyfeiria 成人快手r a Virgil at ymladd 芒 dyrnau yn rhan o'r Gemau Olympaidd hynafol gannoedd o flynyddoedd cyn geni Crist.

Y cyfeiriad cyntaf yng Nghymru at fath o baffio oedd yr ymaflyd codwm a ddigwyddai fel rhan o rialtwch a gynhaliwyd ar ddyddiau g诺yl.

Fodd bynnag, cwffio 芒 dyrnau noeth oedd y dull o ymladd dros y canrifoedd a datblygodd paffio modern o'r arfer o baffio am wobr (prize fighting) a ddaeth yn gynyddol boblogaidd ym Mhrydain yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg.

Cyfrifir 1727 fel trobwynt yn y rhialtwch pan drechodd James Figg Ned Sutton i ddod yn bencampwr cyntaf y grefft drwy Loegr.

30,000 yn gwylio

Engrafiad lliw o Humphreys a Mendoza yn paffio yn yr awyr agored - engrafiad gan T Grozer ac R Einsle yn y llyfr British Boxing, Collins
Cynhaliwyd gornest rhwng Humphreys a Medoza
ar Ionawr 9 1788 yn Odiham, Hampshire

Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif ceir cyfeiriad at yr ymryson rhwng y Cymro Richard Humphries a Daniel Mendoza. Bu'r ddau yn wynebu ei gilydd sawl gwaith a hyrwyddwr Humphries oedd y bonheddwr o Gymro o'r enw Syr Thomas ap Rhys o Upminster, Essex.

Yn ystod 1797 daeth Mendoza i Gymru am bedwar mis gan ymweld 芒 Chaerdydd, Castell-nedd a sawl tref arall i ddangos ei ddawn.

Cymro arall nodedig oedd Ned Turner a anwyd yn Southwark, Llundain i rieni o Sir Drefaldwyn ac yn ei ornest yn erbyn Jack Scroggins yn Hayes, Middlesex yn 1817 roedd 30,000 yn gwylio.

Y 'paffwyr mynydd'

Gyda dyfodiad y chwyldro diwydiannol a thwf gweithfeydd haearn a glo De Cymru, cyrchodd degau o filoedd o bobl i'r cymoedd i chwilio am waith.

Cynyddodd poblogaeth ardaloedd diwydiannol fel Cwm Cynon o fod yn wledig iawn 芒 phoblogaeth o 1200 ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg i dros 50,000 o bobl mewn llai na deugain mlynedd wrth i ymfudwyr o bob rhan o Brydain heidio i'r canolfannau gweithfeydd trwm i edrych am waith.

Daeth paffio dyrnau yn ffordd o fyw i'r trigolion. Dyma'r paffwyr mynydd fel y'u gelwid, gan y byddai'n rhaid mynd i lefydd digon anial fel ochr mynydd ar doriad gwawr, ymhell o gyrraedd y gyfraith, i arddangos eu dawn gan fod y grefft yn anghyfreithlon yr adeg honno.

Mynyddoedd uwchben Aberd芒r
Byddai paffwyr y cymoedd yn cwrdd ar ochr
mynydd er mwyn cadw draw o'r awdurdodau

Roedd yn anochel i bencampwyr hunan-benodedig godi, yn barod i wynebu unrhyw her a'r mwyaf nodedig oedd Shoni Ysgubor Fawr, Dai Dychrynllyd ac eraill, gan ddenu cynulleidfa ple bynnag yr aent.

Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, symudodd y paffwyr mynydd traddodiadol i lawr i'r dyffrynnoedd gan symud i mewn i neuaddau a chanolfannau myglyd, cynnes a chymharol barchus y glowyr ac roedd gornestau yn boblogaidd iawn yn y ffeiriau teithiol a'r bythau paffio a ymwelai 芒'r cymoedd yn gyson, pan fyddai paffwyr proffesiynol yn cynnal arddangosfeydd neu yn derbyn her gan wron lleol.

Rheolau Queensbury

Pwysau plu a phryf oedd y rhan fwyaf o'r bechgyn ifainc a gymerai ran yn y gornestau, a'u bychander mewn corffolaeth yn adlewyrchu'r tlodi cyffredinol ac ymborth gwael y rhanbarth yn y dyddiau hynny.

Fodd bynnag, yn 1867 daeth trefn ar y gornestau, gan i John Graham Chambers o Lanelli ddyfeisio a llunio'r Rheolau Queensbury sy'n bodoli hyd heddiw ac ef hefyd a sefydlodd y rheol fod pob paffiwr i wisgo menig.

Tom Thomas, Jim Driscoll a Freddie Welsh gyda'u gwregysau
Enillodd Tom Thomas, Jim Driscoll a Freddie Welsh
wregys Lonsdale yn eu dosbarth pwysau

Yn 1909 cyhoeddodd y National Sporting Club eu bod am gynnig Gwregys Pencampwriaeth ar gyfer yr wyth dosbarth o bwysau. Yn ddiweddarach fe ddaeth i'w adnabod fel y Gwregys Lonsdale.

o Bontypridd oedd y cyntaf i ddal y gwregys yn adran Pwysau Ysgafn, Tom Thomas o Ben-y-graig, Y Rhondda yn Adran Pwysau Canol a Jim Driscoll o Gaerdydd yn yr adran Pwysau Plu. Llwyddodd y tri, ac eithrio, Tom Thomas i gadw'r Gwregys ar 么l ennill dair gwaith yn olynol.

Daeth Basham, maes o law, yn Bencampwr Lledysgafn Prydain, y Gymanwlad ac Ewrop a Phencampwr Pwysau Canol Prydain ac Ewrop a chadwodd yntau'r Gwregys Lonsdale.

Roedd Cymru yn fagwrfa i baffwyr yn y cyfnod cyn i'r Rhyfel Byd Cyntaf dorri allan. Gwelwyd cnwd o baffwyr fel Bill Beynon a gipiodd goron Pwysau Bantam Prydain, ac fe ddaeth tri yn Bencampwyr Pwysau Pryf y Byd. Ef, Jimmy Wilde o Dylorstown a Percy Jones o Dreherbert, y Rhondda a Freddie Welsh Pwysau Ysgafn. Curodd Jim Driscoll Bencampwr y Byd, Abe Attell, mewn gornest gyfeillgar, a daeth yn ysbrydoliaeth i Gymry ifainc yn enwedig yng Nghwm Rhondda.

Ymlaen i ail ran yr erthygl -


Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Cerdded

Beth am daith o gwmpas trefi Conwy neu Fachynlleth, gan ymweld 芒 llefydd hanesyddol?

Gwylio a gwrando

Protest Cymdeithas yr Iaith

Cymru a Phrydain

Clipiau fideo addysgol am Gymru a Phrydain yn yr 20fed Ganrif.

Enwogion Cymru

Dylan Thomas

Dylan Thomas

Dyma ddiwrnod geni Dylan Thomas - bardd Cymreig enwoca'r byd.

Radio Cymru'n cofio digwyddiadau mawr y degawdau ar foreau Sadwrn.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.