成人快手

Cymry'r Cylch Bocsio: Wedi'r Rhyfel

top
Jack Petersen

03 Gorffennaf 2012

Parh芒d o erthygl Mel Williams -

Ystyrir Jimmy Wilde o Dylorstown hyd heddiw fel un o'r goreuon ac yn pwyso dim mwy na saith st么n, credir iddo ymladd cannoedd o ornestau gan golli dim ond pump. Ffug-enw iddo oedd 'yr ysbryd 芒 morthwyl yn ei law'.

Jimmy Wilde
Jimmy Wilde: 'Yr ysbryd 芒 morthwyl yn ei law'

Rhwng y ddau Ryfel Byd dioddefodd ardaloedd diwydiannol De Cymru dlodi dirfawr oherwydd effeithiau'r streicio, dirwasgiad enbyd a diffyg gwaith. I osgoi llwgu trodd llawer o'r bechgyn i baffio fel modd i ennill ychydig bunnoedd yn ychwanegol a chododd to newydd o baffwyr.

Cipiodd Frank Moody o Bontypridd Bencampwriaeth Pwysau Canol a Phwysau Trwm Ysgafn Prydain rhwng 1927 a 1928 ac yntau, William Daniels, a elwid yn Gipsy Daniels o Lanelli, yn cipio'r Pwysau Trwm Ysgafn yn 1927.

Gwregys Lonsdale

Sefydlwyd y Welsh Boxing Association yn 1928 i oruchwylio diogelwch y paffwyr yng Nghymru. Gwelid llwyddiant paffwyr fel Jack Petersen (prif lun, uchod) o Gaerdydd a ddaeth yn Bencampwr Pwysau Trwm Prydain ddwywaith ac wrth gwrs a enillodd goron Pwysau Trwm y Gymanwlad, heb anghofio am ei ornest aflwyddiannus yn erbyn Joe Louis, Pencampwr Pwysau Trwm y Byd yn 1937.

Wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd, cafwyd llu o baffwyr o fri'n ymddangos yng Nghymru, heb anghofio Ronnie James a enillodd Bencampwriaeth Pwysau Ysgafn Prydain yn 1944, Cliff Curvis o Abertawe a ddaeth yn Bencampwr Lled-ysgafn Prydain yn 1952, a'i frawd Brian Curvis a enillodd Bencampwiaeth Lled-ysgafn Prydain y Gymanwlad. Roedd ef yn un o ddau Gymro i ennill Gwregys Lonsdale i'w cadw, gan fynd ymlaen i wynebu Emile Griffith am Goron Pwysau Welter y Byd gan golli o ddim ond un pwynt.

Pencampwriaeth Byd

Y dihafal Eddie Thomas a enillodd Goron Welter Prydain yn 1949 a dod yn bencampwr Ewrop yn 1951 yna yn hyfforddwr Johnny Owen a Howard Winston maes o law.

Yn yr un modd Colin Jones o Orseinon a ddaeth yn Bencampwr Pwysau Welter Ewrop, Prydain a'r Gymanwlad, a fu o fewn dim i gipio'r Goron Welter Byd pan orffennodd yr ornest yn gyfartal gyda Milton McCrory yn Reno yn 1983.

Daeth Howard Winston o Ferthyr yn Bedwerydd Cymro i ennill Pencampwriaeth Byd drwy gipio Coron Pwysau Plu y Byd 1968 pan drechodd Mitsunori Seki yn 1968.

Colli ei fywyd

Paffiwr nodedig arall o'r un ardal oedd Johnny Owen a gollodd ei fywyd yn ei ymgais i gipio Pencampwriaeth Pwysau Bantam y Byd oddi ar Lupe Pintor yn 1980. Dai Dower o Abercynon a geisiodd gipio Pencampwriaeth Pwysau Pry.

Er mai pwysau ysgafn a chanol yn bennaf oedd yn tra arglwyddiaethu'r s卯n bocsio yn ystod yr ugeinfed ganrif ymddangosodd fodd bynnag rai paffwyr pwysau trwm o bwys megis Dic Richardson o Gasnewydd a ddaeth yn Bencampwr Pwysau Trwm Ewrop yn 1960, Joe Erskine o Gaerdydd a David Pearce o Gasnewydd a enillodd Bencampwriaeth Pwysau Trwm Prydain yn 1983.

Record anhygoel i wlad fach

Joe Calzaghe
Mae Joe Calzaghe heb ei drechu fel pencampwr

Fel y deuai'r ganrif i'w bwcwl, gwelwyd pedwar Pencampwr Byd yn ymddangos: Steve Robinson o Drelai, Caerdydd a ddaeth yn Bencampwr Pwysau Plu y WBO yn 1993, yna Robbie Regan o'r Coed Duon yn Bencampwr Bantam y WBO yn 1996, Barry Jones o Gaerdydd a gipiodd y Bencampwriaeth Pwysau Uwch Blu y WBO a Bencampwriaeth Pwysau Uwch Ganol y WBO yn 1997. Ef yw un o ddau sydd heb gael eu trechu fel pencampwr.

Ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain ymddangosodd llu o Gymry gydag Enzo Maccarinelli o Abertawe yn cipio'r Bencampwriaeth Cruiserweight WBO yn 2006, Gavin Rees Pencampwr Welter Ysgafn y WBA yn 2007 a Nathan Cleverly o Cefn Fforest yn dod yn Bencampwr Pwysau Trwm ysgafn WBO yn 2011.

Mae Cymru bellach wedi cynhyrchu 10 Pencampwr Byd, 7 yn yr ugain mlynedd diwethaf. Record anhygoel i wlad fach dybiwn i.

Gyda diolch i Mel Williams am ei gasgliad personol o luniau hefyd.


Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Cerdded

Beth am daith o gwmpas trefi Conwy neu Fachynlleth, gan ymweld 芒 llefydd hanesyddol?

Gwylio a gwrando

Protest Cymdeithas yr Iaith

Cymru a Phrydain

Clipiau fideo addysgol am Gymru a Phrydain yn yr 20fed Ganrif.

Enwogion Cymru

Dylan Thomas

Dylan Thomas

Dyma ddiwrnod geni Dylan Thomas - bardd Cymreig enwoca'r byd.

Radio Cymru'n cofio digwyddiadau mawr y degawdau ar foreau Sadwrn.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.