Castell Dinas Bran
10 Chwefror 2009
Saif olion rhamantus castell Dinas Bran yn uchel uwchben Llangollen, yn weladwy o bell. Codwyd y castell gan Gruffudd ap Madog II, tywysog Powys Fadog, cyn ei farwolaeth yn 1269. Dewisodd safle oedd eisoes wedi ei goroni gan gaer o'r Oes Haearn.
Roedd Gruffydd ap Madog II yn un o gynghreiriaid Llywelyn ap Gruffudd, a gydnabuwyd gan Harri III fel Tywysog Cymru yn 1268, ac roedd tiroedd Gruffydd ym Mhowys yn gweithredu fel gwladwriaeth glustog rhwng Gwynedd - cadarnle Llywelyn - a Lloegr.
Bu farw Gruffydd ap Madog II yn 1269, ac etifeddwyd y castell gan ei bedwar mab. Bu heddwch ansicr rhwng Llywelyn ap Gruffudd a Harri III wedi Cytundeb Trefaldwyn, ond wedi i Edward I ddychwelyd o groesgad yn 1274, gwaethygodd pethau, a chychwynnodd Edward ei ryfel cyntaf yn erbyn Llywelyn.
Gwnaeth dau o feibion Gruffudd ap Madog II heddwch 芒 Lloegr, ond nid nhw oedd yn perchen y castell bryd hynny, felly arhosodd yn nwylo'r Cymry. Yn y cyfamser, ym Mai 1277, cyrhaeddodd Henry de Lacy, Iarll Lincoln, yng Nghroesoswallt gyda lluoedd i gipio Castell Dinas Bran.
Yn ystod y cyfnod yma, mae'r ffynonellau'n gwrth-ddweud ei gilydd. Mae un stori yn honni i amddiffynwyr y castell - y ddau frawd oedd dal yn gynghreiriaid i Llywelyn yn 么l pob tebyg - ei roi ar d芒n a'i adael cyn i Henry de Lacy gyrraedd. Nid yw'n amlwg pam y gwnaethant hyn, ond mae'n bosib iddynt sylweddoli na fyddent yn medru amddiffyn y castell yn llwyddiannus yn erbyn ymosodiad gan luoedd Lloegr, ac nad oeddynt am iddo syrthio i ddwylo Edward.
Mae ffynhonnell arall yn dweud i'r castell fod dan warchae gan Henry de Lacy, ac i'r arglwyddi Cymreig gael eu gorfodi i ildio i'r fyddin Seisnig, ac mai'r ymosodwyr a losgodd y castell ac nid y Cymry.
Pa bynnag fersiwn o'r digwyddiadau sydd yn gywir, does dim amheuaeth i'r castell gael ei losgi, ac i Henry de Lacy argymell y dylai Edward atgyweirio'r castell, fel y gallai gael ei ddefnyddio gan y Saeson oedd yn wynebu brwydro pellach gyda'r Cymry. Mae'n debyg fodd bynnag, na dderbyniodd Edward yr argymhelliad yma, neu mai prin iawn oedd unrhyw waith adnewyddu a wnaed ar y castell.
Er bod rhai ffynonellau yn honni nad oes unrhyw gofnodion o hanes y castell yn ystod ail ymgyrch Edward yng Nghymru, a gychwynnodd yn 1282, mae cofnodion eraill o fywyd Dafydd ap Gruffydd, brawd gwrthryfelgar Llywelyn, yn credu i Dafydd dreulio peth cyfnod yn y castell yn ystod y rhyfel.
Er i Dafydd herio arweinyddiaeth ei frawd Llywelyn fwy nag unwaith yn ystod ei fywyd, yn dilyn llofruddiaeth Llywelyn yng Nghilmeri yn 1282, cymerodd Dafydd y steil o 'Dywysog Cymru' ar ei 么l. Ychydig fisoedd yn unig a gafodd i fwynhau'r statws bregus hwnnw, a phan ddalwyd ef gan luoedd Edward yn 1283, fe'i condemniwyd i farwolaeth am deyrnfradwriaeth a'i ddienyddio yn greulon yn Amwythig. Diflannodd castell Dinas Br芒n o dudalennau hanes, ond mae darlun godidog ohono gan Richard Wilson wedi sicrhau anfarwoldeb iddo.
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Mwy
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.