成人快手

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Castell Biwmares

05 Mawrth 2009

Gellid tybio bod Edward I wedi troi ei gefn ar Gymru ddiwedd 1284, wedi iddo gyhoeddi Statud Rhuddlan, yn y gobaith na fyddai angen dychwelyd. Onid oedd ganddo cylch o gestyll o gwmpas ac yng nghanol Gwynedd, fel na fentrai'r Cymry bondigrybwyll fyth wrthryfela eto? Os felly, cafodd siom.

Gymaint oedd rhaib swyddogion y goron, gymaint oedd dicter y bobl, fel y ffrwydrodd gwrthryfel amser G诺yl Mihangel 1294, gan ysgubo ar draws y wlad. Yn y Gogledd, yr arweinydd oedd Madog ap Llywelyn, disgynnydd Owain Gwynedd. Mor lwyddiannus oedd ei ymgyrch fel y bu'n rhaid i Edward droi'n 么l i Gymru unwaith eto. Siom neilltuol iddo oedd i gastell Caernarfon gael ei chipio a'r dref a'i thrigolion Seisnig eu difa.

Rhaid felly fyddai cael castell newydd ar Ynys F么n i warchod pen arall afon Menai. Cludwyd trigolion Cymreig Llan-faes i Niwbwrch er mwyn gwneud lle i gastell a bwrdeistref glan-mor newydd, a chychwynnodd James o St George ar ei dasg fawr olaf yng Nghymru.

Roedd y safle gwastad, isel yn ddelfrydol at y pwrpas, a lluniwyd castell consentrig o burdeb mathemategol. Am ei fod yn wastad ac yn agos at y m么r, roedd modd sicrhau ffos yn llawn d诺r o gwmpas yr adeilad - peth prin yng Nghymru.

Petai'r gwaith wedi cael ei orffen yn 么l bwriad Edward, buasai Biwmares yn un o gestyll mwyaf trawiadol Ewrop, gyda'u tyrau uchel niferus a'r porthdai cymhleth, anferth. Erys y capel yn gampwaith pensaern茂ol, ond ni orffennwyd yr ystafelloedd brenhinol, ac ni chyrhaeddodd y tyrau i'r uchder a fwriadwyd iddynt. Erbyn 1330 rhoddwyd y gorau i'r dasg.

Bu dilynwyr Owain Glynd诺r yn gwarchae Biwmares yn 1403, ac mae'n ymddangos iddynt ei gipio am gyfnod, ond mae'r manylion yn brin ac yn aneglur. Wedi hynny, defnyddiwyd rhan o'r castell fel carchar.

Y carcharor enwocaf yn ddiau oedd yr offeiriad Catholig William Davies. Cafodd ei arestio yng Nghaergybi yn 1590. Fe'i condemniwyd i farwolaeth, ond ataliwyd y gosb yn y gobaith y byddai'n troi ei gefn ar ei ffydd. Yn y cyfamser bu'n gweini'r offeren i'w gydgredinwyr, ac enillodd barch helaeth trwy ei addfwynder. Gwrthododd y cyfle a gynigwyd iddo i ddianc, ac o'r diwedd fe'i crogwyd yn 1593, a'i gyhoeddi'n fendigaid yn gan y Pab yn 1987.

Yn ystod y Rhyfeloedd Cartref roedd tref Biwmares yn rhan bwysig o'r gadwyn o leoedd fu'n sicrhau cyflenwadau o Iwerddon i fyddinoedd Charles I, ac roedd y castell yn fan defnyddiol yn y broses dan weinyddiaeth Richard Bulkeley. O'r diwedd cyrhaeddodd byddin Seneddol a gwarchae'r lle nes iddo ildio yn 1648.


  • G锚m y Gof

    G锚m y Gof

    Chwarae

    Gweithia dy ffordd trwy'r pedair lefel i ddod yn feistr yng ngefail y castell.

    Hanes Cymru

    Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

    Creu'r genedl

    Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

    Cerdded

    漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

    Conwy

    Taith o gwmpas y dref, gan ymweld 芒'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

    成人快手 iD

    Llywio drwy鈥檙 成人快手

    成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.