成人快手

/cymru/hanes/safle/lleol/tudalen/Cartref%20Dylan%20Thomas%20yn%20Nhalacharn

Mwy o hanes Bro Dyffryn T芒f yn cynnwys tref Sancl锚r a hoff lecyn Dylan Thomas, ei gartref yn Nhalacharn.

Buddugoliaeth Owain

Tref arall yn Nyffryn T芒f yw Sancl锚r. Yma mae olion hen gastell Normanaidd a adeiladwyd tua 1100. Erbyn canol y 12fed ganrif roedd y castell yn ganolbwynt arglwyddiaeth Normanaidd.,

Ond ni fu cadw'r castell yn dasg hawdd i'r Normaniaid. Ar sawl achlysur cafodd ei roi o dan warchae, ei losgi a chafodd ei gipio gan y tywysogion Cymreig ym 1153, 1189 a 1215. Yn 1405 cafodd ei ildio i Owain Glynd诺r.

Castell tomen a beili oedd hwn, un o'r rhai uchaf yng Nghrymu ar un adeg gan ei fod yn codi i 12 m. Yn wreiddiol safai t诺r pren arno ond mae seiliau cerrig wedi eu darganfod ar y domen sy'n awgrymu fod t诺r cerrig wedi ei godi yma'n ddiweddarach. Erbyn hyn mae beili'r castell wedi ei wastadu.

Datblygodd tref Sancl锚r wedyn y tu allan i borth y castell. Er mai tref fechan ydoedd roedd yn dref bwysig am ei bod yn ganolbwynt i'r arglwyddiaeth. O amgylch y dref roedd gwrthglawdd bridd anferth ac felly dim ond trwy byrth y castell yr oedd modd mynd i mewn iddi. Yn ddiweddarach lledaenodd y dref y tu hwnt i'r clawdd.

Dylan Thomas a Thalacharn

Dylan Thomas
Dylan Thomas

Tua'r de mae pentref glan m么r Talacharn. Ar lan y m么r ger aber yr afon Taf saif y castell sydd wedi'i adeiladu ar safle hen gaer Rufeinig. Mae'r adeilad presennol yn dyddio o ddiwedd y 13eg ganrif. Ond mae'n debyg bod castell Normanaidd yma cyn hynny a bod hwnnw wedi ei adeiladu yn nechrau'r 12fed ganrif.

Bu'r cyfeiriad cyntaf at y castell Normanaidd yn 1189 pan feddiannodd yr Arglwydd Rhys y castell wedi marwolaeth Harri'r II. Yn ddiweddarach ym 1215 dinistriwyd y castell gan Llywelyn Fawr ac wedyn ym 1257 fe'i meddiannwyd a'i losgi gan y Cymry.

Ym 1257 teulu de Brian, arglwyddi Talacharn oedd yn berchen ar y castell ac wedi'r ymosodiad penderfynodd y teulu adeiladu castell cadarnach a dyma'r hyn a welwn heddiw.Heddiw mae'r pentref yn enwog gan y bu'r bardd a'r dramodydd Dylan Thomas a'i wraig Caitlin yn byw yma am gyfnod. Saif y t欧 a elwir yn Boathouse ar y graig ar lan y m么r.

Ar y llwybr sy'n arwain at y t欧 mae'r Cwt Ysgrifennu sef hen garej yn perthyn i'r t欧. Dyma lle deuai Dylan Thomas i ysgrifennu a dyma lle y lluniodd lawer o'i weithiau olaf gan gynnwys ei ddrama i isleisiau Dan y Wenallt. Credir bod y ddrama honno wedi ei selio ar Dalacharn.

Y Twrch Trwyth

Er mai trin y tir y tu allan i ffiniau'r dref yr oedd y boblogaeth ers talwm, roedd yma ychydig o ddiwydiant hefyd. Roedd cei yma ac ychydig o fasnach mewnforio ac allforio.

Mewn sawl man yn y dref mae lluniau o'r baedd gwyllt. Yn yr Oes Haearn roedd y baedd yn symbol o rym a nerth i'r Celtiaid. Roedden nhw'n addurno eu harfau, eu tarianau a'u cyrff gyda delweddau o'r baedd. Y syniad oedd y byddai hyn wedyn yn symbyliad iddyn nhw i efelychu dewrder a ffyrnigrwydd yr anifail hwn wrth ymladd.

Yn ystod yr Oesoedd Canol roedd hela baeddod gwylltion yn arferiad cyffredin iawn. Adlewyrchir hyn yn chwedl Culhwch ac Olwen lle sonnir am hela'r Twrch Trwyth.

Mae golygfeydd o'r chwedl honno yn cael eu darlunio ym mhaneli dur pont Sancl锚r. Mae'r bont yn croesi'r afon Cynin ac yma gellir gweld lluniau'r grib, siswrn a'r rhasal, y tri pheth yr oedd yn rhaid i Gulhwch eu dwyn o ben y twrch er mwyn ennill Olwen. Daeth y baedd yn rhan o arwyddlun Sancl锚r yn ystod y 19eg ganrif.


Cerdded

Neuadd y Brangwyn

Abertawe

Taith Doctor Who a Torchwood yng nghanol y ddinas a'r Chwarter Arforol.

Enwogion

Cerflun o Dewi Sant yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Dewi Sant

'Gwnewch y pethau bychain' oedd geiriau enwog Dewi Sant.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.