成人快手

Bro Dyffryn T芒f

top
Tolldy Efailwen yn Sain Ffagan

Mae Dyffryn T芒f yn gorwedd i'r gorllewin o Gaerfyrddin ac i'r dwyrain o Arberth ac felly mae ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Dyma fro Hywel Dda, Dylan Thomas, William Mathias a Merched Beca ac yn gyfoethog o ran hanes a diwylliant Cymreig.

Protest Efailwen

Cofeb i Ferched Beca yn Efailwen
Cofeb i Ferched Beca yn Efailwen

Mae'r ardal yn cynnwys trefi Hendy Gwyn ar Daf a Sancl锚r yn ogystal ag amryw o bentrefi gwledig. Credir bod Hendy Gwyn ar Daf wedi cael ei enw i gofio'r mynachod yn eu gwisgoedd gwyn fu'n trigo yn yr hen Abaty yn yr ardal yn y 12g.

Yng ngogledd yr ardal mae pentrefi gwledig fel Efailwen a Llanboidy. Saif Efailwen ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Mae'n bentref enwog gan mai yma ym Mai 1839 dinistriwyd y dollborth gan griw o ffermwyr, tua 400 i gyd, oedd yn gwisgo dillad merched ac wedi duo eu hwynebau.

Protest oedd hyn yn erbyn y prisiau afresymol oedd yn cael eu codi i gludo deunyddiau fferm ac anifeiliaid drwy'r tollbyrth. Tollborth Efailwen oedd y cyntaf i Ferched Beca ei dymchwel ac felly mae i'r pentref le pwysig yn hanes Cymru. Mae ysgol y pentref a chaffi wedi eu henwi ar 么l Beca.

Gerllaw mae pentref Llandisilio. Dyma lle magwyd y bardd Waldo Williams a ystyrir yn un o feirdd gorau Cymru yn yr Ugeinfed Ganrif.

Tua'r dwyrain mae pentref Llanboidy. Ers talwm roedd castell yn Llanboidy. Mae'r olion sydd i'w gweld yma heddiw yn awgrymu mai castell tomen a beili oedd hwn. Nid oes sicrwydd ai'r Cymry neu'r Normaniaid a gododd y castell. Efallai mai castell a adeiladwyd fel rhan o ymgyrch y Normaniaid ydoedd neu un a sefydlwyd gan Rhys ap Gruffydd pan adfeddiannodd yr ardal. Mae'n debyg iddo gael ei adeiladu wedi creu arglwyddiaeth Sancl锚r yng nghanol y 12fed ganrif.

Uchelwyr y Fro

Credir mai ffurf syml oedd i'r castell hwn gyda phreswylwyr yn byw yma'n barhaol. Mae'n debyg bod y rheiny wedi gadael y castell erbyn canol y 13eg ganrif gan na chafodd y castell hwn ei ailadeiladu gyda charreg. Nid oes dim i'w weld yma heddiw dim ond twmpath.

Yn ystod y 19eg ganrif roedd teulu Maesgwynne yn byw yn Llanboidy. Dyma deulu pwysig a ddylanwadodd ar ddatblygiad y pentref. Un ohonynt oedd Walter Rice Howell Powell a wnaeth nifer o welliannau i bentref Llanboidy yn ystod ei gyfnod.

Yn 1881 adeiladwyd Neuadd y Farchnad ac ef a dalodd y costau i gyd. Roedd y neuadd yn cynnwys tafarn ac ystafell ddarllen ac roedd yma baneli oedd yn agor i ddarparu stondinau marchnad. Walter Powell sydd hefyd yn gyfrifol am ysgol y pentref a adeiladwyd ym 1863.

Mae Maesgwynne Arms yn perthyn i'r un cyfnod. Roedd y tafarnwyr cynharaf yn gyfrifol hefyd am fferm gyfagos. Dywedir i Walter Powell godi'r adeiladau hyn i gadw ei geffylau hela. Yn ddiweddarach roedd y Llys Ynadon yn cael ei gynnal yn y dafarn ac wedyn defnyddiwyd rhan o'r adeilad gan Fanc y Midland.

Caws Llanboidy

Safle'r Hen Abaty
Safle'r Hen Abaty

Yn ogystal 芒 hyn sefydlodd Walter Powell siop yn y pentref, sicrhau cyflenwad dwr newydd yma ac adfer yr eglwys a'r fynwent. Mae cofeb i'r teulu yn y fynwent.

Heddiw mae Llanboidy yn enwog am y caws arbennig a gynhyrchir yma. Mae'r caws yn cael ei wneud yn ffermdy Cilowen Uchaf. Mae fferm siocled ger Llanboidy hefyd. Dyma fferm siocled Pemberton lle cynhyrchir siocled yn y dull Fictorianaidd. Mae Pemberton yn cynhyrchu dros gant o wahanol fathau o siocledi.

Tua'r de mae tref Hendy Gwyn ar D芒f. Cynyddodd pwysigrwydd y dref hon yn ystod y 19eg ganrif wedi datblygiad y rheilffordd. Roedd tipyn o bobol yn tyrru yma gan ei bod yn dref marchnad.

Hywel Dda

Tudalen o Gyfraith Hywel Dda
Tudalen o Gyfraith Hywel Dda

Yn fwy na dim cysylltir y dref 芒 Hywel Dda gan mai dyma lle roedd ei lys. Roedd Hywel Dda yn teyrnasu dros y rhan fwyaf o Gymru yn y 10fed ganrif. Cafodd y g诺r hwn ddylanwad mawr ar fywyd Cymru yn ystod y cyfnod hwnnw. Llwyddodd i uno ardal oedd yn draddodiadol wedi bod yn rhanedig a lle roedd tywysogion wedi bod yn ymladd 芒'i gilydd dros dir. Gwnaeth hynny drwy gyflwyno nifer o gyfreithiau a rhoi i Gymru ei system gyfreithiol ei hun.

Bu'n rheoli'r rhan fwyaf o Gymru o 910 O.C i 950 O.C ag eithrio siroedd Gwent a Morgannwg. Roedd ei gyfreithiau ymysg y tecaf a'r mwyaf datblygedig yn Ewrop.

I goff谩u'r g诺r arbennig hwn mae canolfan a gerddi wedi eu hadeiladu yn Hendy Gwyn ar D芒f. Maen nhw wedi eu hadeiladu ar hen safle marchnad.

Coed y Celtiaid

Un i rannu, llall i ddewis...

Hywel Dda

Mae adeilad y ganolfan wedi ei gynllunio ar yr un egwyddor 芒'r T欧 Gwyn sy'n cael ei ddisgrifio yn llawysgrifau'r Oesoedd Canol. Yma mae arddangosfa yn adrodd hanes Hywel a'r gyfraith. Mae'r ardd wedi ei rhannu'n chwe gardd fechan sy'n cynrychioli rhannau arbennig o gyfraith Hywel sef cymdeithas a braint, trosedd a cham, gwragedd, contract, y brenin a'r llys ac eiddo.

Ymhob un o'r gerddi bychan mae coeden arbennig sy'n adlewyrchu ystyr symbolaidd coed i'r Celtiaid. Yng ngardd y gwragedd er enghraifft mae symbolau benywaidd fel yr helygen, coeden y mae'r Celtiaid yn ei chysylltu merched.

Ganrifoedd yn 么l roedd abaty yn Hendy Gwyn ar D芒f ac ar un adeg hon oedd y prif d欧 Sisteraidd yng Nghymru. Cafodd ei sefydlu ym 1143 ac yna ym 1151 cafodd ei symud i'w safle bresennol pan ymsefydlodd y mynachod ger yr Afon T芒f. Heddiw mae gweddillion yr abaty i'w gweld wrth deithio tua'r gogledd o'r dref.

William Mathias

William Mathias
William Mathias

Un o enwogion Hendy Gwyn ar Daf yw'r cerddor William Mathias. Cafodd ei eni yn y dref ym 1934 yn fab i James Mathias oedd yn ddirprwy brifathro Ysgol Ramadeg Hendy Gwyn ar Daf a Marian Evans oedd yn Ynad Heddwch.

Dechreuodd William Mathias gyfansoddi yn ifanc iawn a dechreuodd ganu'r piano'n bump oed. Aeth i Ysgol Gynradd Hendy Gwyn ac yn ddiweddarach i'r ysgol ramadeg yno. Aeth wedyn i astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ac wedyn i'r Academi Frenhinol yn Llundain.

Wedi hynny bu'n brysur yn cyfansoddi yn ogystal 芒 dilyn gyrfa fel darlithydd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Wedyn daeth yn uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Caeredin cyn dychwelyd i Fangor i ddod yn bennaeth yr adran gerdd. Bu farw yn 1992.


Cerdded

Neuadd y Brangwyn

Abertawe

Taith Doctor Who a Torchwood yng nghanol y ddinas a'r Chwarter Arforol.

Enwogion

Cerflun o Dewi Sant yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Dewi Sant

'Gwnewch y pethau bychain' oedd geiriau enwog Dewi Sant.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.