Mae cwmni Stena Line a Chronfa Datblygu Ewrop wedi buddsoddi'n helaeth i ailddatblygu'r porthladd. Ehangwyd dociau Caergybi a Dulyn gan gynyddu'r gallu i lwytho llongau a chyflymu'r amser mae llongau nwyddau a chario teithwyr yn ei gymryd i angori a gadael y porthladd.Mae dyfodiad y fferi fawr Stena Adventurer gyda'i sinema, lolfa ddosbarth cyntaf a chabanau moethus wedi rhoi hwb i'r porthladd hefyd. Mae llongau Stena Line ac Irish Ferries yn hwylio o Gaergybi i Iwerddon, ac fe allwch chi fynd o ddociau Mostyn hefyd. Dyma'r manylion: Stena Line Mae'r cwmni yn rhedeg gwasanaeth cyflym a superferry dyddiol i borthladdoedd Dun Laoghaire a Dulyn o Gaergybi. Am wybodaeth am yr amser hwylio nesaf ffoniwch: 08705 70 70 70. Gwefan: Irish Ferries Mae'r cwmni'n cynnig gwasanaeth cyflym ar fferi mwy yn ddyddiol i borthladd Dulyn o Gaergybi. Am y wybodaeth hwylio ddiweddaraf ffoniwch: 0870 17 17 17. Gwefan: P&O Mae P&O Irish Sea yn cynnal gwasanaethau o Fostyn neu Lerpwl i Ddulyn. Gwefan:
|