成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cerddoriaeth

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Gwobrau RAP
Aeth Angharad Dubheasa o Benrhyndeudraeth 芒'i chamera a'i radar roc a r么l i un o uchafbwyntiau'r calendr cerddorol yng Nghymru - Gwobrau RAP 2007.
Y Ffyrc yn casglu gwibr
Enillodd Y Ffyrc wobr am sesiwn C2 ac albym orau. next page
1234567

"Venue Cymru, Llandudno oedd y lleoliad, Gwobrau Roc a Phop Radio Cymru oedd y digwyddiad ac roeddwn wedi ymbincio yn barod ar gyfer un o nosweithiau mwyaf y flwyddyn yn y s卯n roc Gymraeg.

Dyma'r tro cyntaf i mi fynd i'r noson wobrwyo yma a chyrhaeddais gyda meddwl agored gan fy mod wedi bod i hen ddigon o nosweithiau tebyg - rhai hir a diflas!

Roedd rhai o enwau mwyaf y s卯n yn barod am noson fawr yn eu gwisgoedd gorau a chafodd llif o ddynion smart a merched tlws eu cyfarch gan y bownsars croesawus ar ddrws Venue Cymru.

Roedd y camer芒u yn barod i gymeryd lluniau o'r wynebau cyfarwydd cyn iddynt setlo yn eu seddau yn y neuadd fawr ble'r oedd y seremoni ar fin cychwyn.

Cyn i'r seremoni ddechrau roedd poteli gwin ar eu hanner ac roedd yr awyrgylch yn un hwylus dros ben. Yn wir, doedd dim math o ymddygiad roc a r么l i'w weld drwy gydol y nos.

Cyflwynwyr y noson oedd Lisa Gwilym a Dafydd Du a nhw wnaeth gyflwyno set gyntaf y noson sef Cowbois Rhos Botwnnog. Roedd caneuon bywiog ac egn茂ol y band o Ben Ll欧n yn agoriad arbennig i'r noson ac roedd y gynulleidfa yn mwynhau eu cerddoriaeth 'hilbili'.

Un ar 么l y llall, cafodd enillwyr dlysau am eu gwaith caled dros y flwyddyn ddiwethaf. Ond noson i'r Gogs oedd hi gyda'r rhan fwyaf o'r artistiaid, bandiau a digwyddiad byw y flwyddyn yn dod o ogledd Cymru.

Roedd enillwyr y noson yn sicr yn haeddu'r clod a'r unig artist absennol oedd Mim Twm Llai, cyfansoddwr y flwyddyn - sydd ar hyn o bryd yr ochr draw i'r byd.

Roedd yna lu o berfformiadau byw gan rai fel artist benywaidd y flwyddyn, Swci Boscawen, a chafwyd perfformiad gan y Ffyrc a enillodd ddwy wobr yn ystod y noson.

Genod Droog, enillwyr dwy wobr gan gynnwys band byw'r flwyddyn a orffennodd y noson gyda cherddorfa yn gwmni iddynt ar y llwyfan. Roeddent yn glo hwyliog i'r noson gyda chriw yn dawnsio o flaen y llwyfan o'r dechrau.

Ond cyn i bawb ffoi am y parti roedd cyri ar gael i bawb a siawns i drafod y buddugol a'r anfuddugol cyn mynd ymlaen i ddathlu tan yr oriau man.

Gadewais gydag atgofion da o noson wobrwyo gyfeillgar - noson gall, noson barchus i bawb.

Ond mae'r parti'n stori wahanol...."

Angharad Dubheasa, Penrhyndeudraeth

  • Mwy o'r Gwobrau RAP ar C2
  • Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 成人快手 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


    Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


    Radio Cymru
    Digwyddiadau
    Adolygiadau


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy