|  |
 |
 |  |
Gwobrau RAP '07
Yr Enillwyr Pwy enillodd beth...
Enillwyr mawr Gwobrau RAP 2007 oedd Y Ffyrc, Genod Droog, a Radio Luxembourg - llongyfarchiadau mawr i'r 3 band am ennill 2 wobr yr un yn noson Gwobrau RAP (Roc a Phop) Radio Cymru 2007 yn Llandudno, nos Sadwrn 17 Chwefror.
Fe enillodd y Ffyrc y gwobrau am Albym y Flwyddyn (Oes) a y flwyddyn, yn ogystal 芒 pherfformio set fyw i'r gynulleidfa yng Nghanolfan Aberconwy, Llandudno; y Genod Droog - band arall oedd yn perfformio ar y noson - aeth a'r gwobrau am Band Byw y Flwyddyn a Grwp Mwyaf Poblogaidd Gwarandawyr Radio Cymru; a dilynodd Radio Luxembourg eu llwyddiant yng Ngwobrau 2006 gan gipio'r gwobrau am Band y Flwyddyn a Sengl y Flwyddyn (Os Chi'n Lladd Cindy).
Hefyd yn perfformio ar y noson oedd Swci Boscawen, a enillodd Artist Benywaidd y Flwyddyn band byw y flwyddyn, a Cowbois Rhos Botwnnog, enillwyr y Grwp Ddaeth i Amlygrwydd yn ystod 2006.
Bydd Gwobrau RAP yn cael ei ail-ddarlledu ar Radio Cymru nos Wener, Chwefror 23 am 8.00pm.
Cliciwch ar yr adrannau isod am fwy o hanes y noson!
Pwy ennillodd beth?
Lluniau o'r noson!
Lluniau o'r noson!
Alun Rhys Chivers
Safle Lleol i Mi.
|
|
|