成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Celfyddydau
FG Fisher
FG Fisher

Ganwyd: 1909

Magwyd: Bargoed, Morgannwg

Addysg: Ysgol Lewis, Pengam a Phrifysgol Cymru, Caerdydd


Dramodydd, cynhyrchydd a'r ysbrydoliaeth tu 么l i Gymdeithas Drama Llangefni.

Andrew Fisher, mab FG Fisher, sy'n s么n am gyfraniad ei dad i fyd y ddrama a Theatr Fach Llangefni:

"Yn ogystal 芒 sefydlu cymdeithas ddrama yn Llangefni yn 1949, F G Fisher oedd sylfaenydd a chyfarwyddwr Theatr Fach Llangefni.

"Brodor o Fargoed, Morgannwg, oedd Francis George Fisher - roedd yn well ganddo ei enw canol, George - a chafodd ei addysgu yn Ysgol Lewis, Pengam, a Phrifysgol Cymru, Caerdydd, lle graddiodd mewn mathemateg a chapteinio t卯m nofio'r brifysgol.

"Am gyfnod byr, roedd yn athro mewn coleg cenhadol yng ngorllewin Affrica. Yn 1932, cafodd swydd fel athro mathemateg yn Ysgol Ramadeg Llangefni a bu'n ddirprwy brifathro yno hyd at ei farwolaeth ddisymwth.

"Dechreuodd ysgrifennu yn Saesneg, gan gyhoeddi ei nofel gyntaf, One Has Been Honest, pan oedd yn 21, cyn iddo radio yn 1930. Ysgrifennodd hefyd nifer o gerddi a straeon a gyhoeddwyd yn The Adelphi a The Twentieth Century yn y 1930au, cyn troi at fyd y ddrama. Perfformiwyd ei ddrama, The Disinherited, yn Theatr Fach Abertawe ym mis Gorffennaf 1939.

"Tra roedd yng Ngwlad yr I芒 fel is-gapten yn y llynges yn ystod yr Ail Ryfel Byd, dysgodd Gymraeg o lyfryn Caradar, Welsh Made Easy. O'r cyfnod hwnnw ymlaen, roedd yn benderfynol o ysgrifennu dram芒u yn y Gymraeg a meistroli'r gynghanedd. Ysgrifennodd o leiaf bum drama fer rhwng 1945 a 1952 a thair drama hir: Catrin (a enillodd y wobr gyntaf yn Eisteddfod Dolgellau, 1949), Y Ferch a'r Dewin (cydradd gyntaf yn Eisteddfod Rhyl, 1953) a Merch yw Medusa (1951). Hefyd, cyfieithodd ddrama Andre Obey, Noa, yn 1951. Cynhyrchodd 30 o ddram芒u, ugain ohonyn nhw yn y Gymraeg, gan gynnwys ei holl weithiau ei hun a chyflwyniadau cofiadwy o weithiau mawr Saunders Lewis. Daeth yn aelod o Bwyllgor Drama Cyngor y Celfyddydau a chafodd MBE am ei wasanaeth i'r theatr yng Nghymru yn 1958.

"Ei gyfraniad pwysicaf yn ddiamau oedd sicrhau bod gan Gymdeithas Drama Llangefni gartref parhaol gydag agor y Theatr Fach ym Mhencraig, Llangefni, yn 1953.

'The rapid advance of Theatr Fach Llangefni to a leading role came through purposefully aiming at a higher level than just satisfying a creative urge latent in most communities' Western Mail 20/9/1960.

"Cafodd ei wneud yn gyfarwyddwr y theatr a gwireddu ei freuddwyd o sefydlu theatr amatur a gyflwynai ddram芒u cwbl broffesiynol yn rheolaidd yn y Gymraeg a'r Saesneg. Dathlodd Theatr Fach ei 50fed pen-blwydd ym mis Mai 2005 ac mae'n gofadail addas iddo.

"Mae cyfraniad F G Fisher i'r theatr yng Nghymru wedi ei ddisgrifio fel un hanfodol. Mae'r rhan fwyaf o'i weithiau a'i bapurau yn cael eu cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, yn adran archifau Prifysgol Bangor ac yn archifdy Llangefni. Ond fe hoffen ni gael hyd i unrhyw bapurau neu weithiau eraill i'w casglu a'u cadw er mwyn iddynt fod ar gael i ymchwilwyr. Fedrwch chi helpu?"

Llyfryddiaeth:

"Francis George Fisher - Bardd a Dramodwr". Llewelyn Jones Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys M么n 1983

"Llwyfannau Lleol" Yr Athro. Hazel Walford Davies, Gwasg Gomer 2000

  • Adolygiad Gwilym Owen o Hanes y Ddrama Gymraeg ym M么n 1930 - 1975

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy