成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Treffynnon
Olion diwydiant ym Maesglas Dyffryn Maesglas
Mae Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas yn filltir a hanner o goetir, cronfeydd d诺r, henebion a hanes diwydiannol.

  • Dyffryn Maesglas mewn lluniau
  • Yn ystod y 18fed ganrif yr oedd y dyffryn yn fwrlwm o weithgarwch diwydiannol gyda'i ffatrioedd yn cynhyrchu deunyddiau copr ar gyfer gwledydd yr ymerodraeth ac yn nyddu cotwm a gludwyd gan yr Americanwyr.

    Er yn grud i'r Chwyldro Diwydiannol yng Ngogledd Cymru ar un adeg, y mae erbyn hyn yn lle tawel ar gyfer y teulu cyfan.

    1. Rheilffordd Treffynnon. Yr oedd y prif lwybr troed sy'n ymestyn ar hyd y dyffryn y lein rheilffordd (lled safonol) ar un adeg. Fe'i hadeiladwyd ym 1869 i adfywio economi'r dyffryn ac fe'i defnyddid i gario mwynau o chwareli lleol. Dechreuodd gynnig gwasanaeth ar gyfer teithwyr ym 1912 gyda'r Tr锚n Bach st锚m yn teithio i fyny graddiant o 1:27, y rheilffordd fwyaf serth ar gyfer teithwyr ym Mhrydain. Cafodd ei chau ym 1954.

    Map o Ddyffryn Maesglas

    2. Melinau Maesglas. Wedi'u sefydlu ym 1776, cyflogai'r Gweithfeydd Batri bobl leol i wneud llestri a sosbenni o lenni pres a gai eu dal o dan forthwylion gogwydd trwm. Cai'r cynnyrch ei allforio i Affrica trwy borthladd Lerpwl a'i gyfnewid am gaethweision o Orllewin Affrica. Erbyn hyn mae'r gweithfeydd wedi dadfeilio ond gellir gweld hyd heddiw y ffosydd a gariai'r d诺r i droi'r rhodau d诺r, a pyllau lle y troent a'r marciau a wnaethant yn y brics.

    3. Melin y Maes. Yr un adeg cynhyrchai'r gweithfeydd sy'n adfeilion ar y safle hwn lenni copr ar gyfer cwmn茂au Thomas Williams. Mewn adrannau eraill o'r gweithfeydd gwneud rholeri ar gyfer argraffu patrymau ar ddefnydd. Yn ddiweddarach, defnyddid yr adeiladau ar gyfer diwydiannau llai, yn eunplith gweithfeydd tunplat am gyfnod byr.

    4. Melin Gwifrau yr Abaty. Ar y safle hwn gwnaethpwyd gwifrau copr a phres gan beiriannau a yrrwyd gan dd诺r. Er ei bod yn adfeilion erbyn hyn, gellir gweld o hyd bwll y rhod yn yr ardd ffurfiol ddeniadol.

    5. Canolfan Ymwelwyr. Mae'r Ganolfan Ymwelwyr yn darparu gwybodaeth, arddangosfeydd a llawlyfrau i'r dyffryn a'i hanes. Mae hefyd yn fynedfa i Amgueddfa. (Ar agor fel Amgueddfa. Dim T芒l Mynediad).

    6. Amgueddfa Dyffryn Maesglas. Fferm yr Abaty, a oedd yn parhau i weithio fel fferm hyd at 1979, yw canolbwynt y Parc Treftadaeth. Mae adeiladau'r fferm a gafodd eu hadfer (gan achub nifer rhag cael eu dymchwel) yn creu naws addas ar gyfer yr arddangosfeydd amaethyddol. Gellir crwydro llwybr y goedwig sy'n darparu adnoddau ar gyfer dyn a lloches i fyd natur.
    T芒l Mynediad. Ar agor pob dydd 10am - 4.30pm (1 Ebrill - 31 Hydref).

    7. Ffynnon Gwenffrewi
    Mae'r ffynnon sanctaidd a roddodd ei henw i'r dref gerllaw wedi'i lleoli y tu mewn i eglwys o'r 16eg ganrif ond y mae chwedl y ffynnon yn tarddu o'r flwyddyn 660 O.C. pan wrthododd merch ifanc o'r enw Gwenffrewi gymryd sylw o ddiddordeb pennaeth lleol ynddi. Collodd yntau ei dymer a thorri ei phen i ffwrdd. Ffrydiodd ffynnon lle y syrthiodd ei phen a dyma'i hewythr, Sant Beuno, yn adfer ei bywyd.

    Daeth y ffynnon yn enwog am ei gallu i iachau ac mae pererinion yn parhau i dod im ymdrochi yn y gysegrfa y daethpwyd i'w galw yn Lourdes Cymru.
    T芒l Mynediad. Ar agor bob dydd 10am - 5pm.

    8. Y Felin Gorwin Isaf. Cyn mabwysiadu p诺er st锚m mewn diwydiant, roedd yn rhaid defnyddio d诺r i yrru peiriannau byddu newydd y 18fed Ganrif. Y ffaith fod digonedd o dd诺r yn Nant Treffynnon yn ogystal a'i safon, oedd yn gyfrifol am ddenu'r diwydiant cotwm i Faesglas. Gellir gweld adfeilion y felin chwe llawr; a 'gododd fel T诺r Babel' o fewn deg wythnos yn 么l yr hanesydd lleol, Thomas Pennant ym 1785.

    O edrych yn fanwl, gallwch weld y pyllau lle yr arferai'r rhodau d诺r droi, yn ogystal 芒'r cylfat sy'n llifo o dan adeilad y warws, sydd bellach wedi ei adfer ac sy'n Amgueddfa Ddiwydiannol.

    9. Safle Cwmni Mwynglawdd Parys. Nawr yn neuadd arddangos, maes parcio a safle picnic, roedd yr ardal unwaith yn weithfeydd copr prysur. Fei'i codwyd gan Thomas Williams ym 1787 ac yma y cai'r copr ei rolio i wneud llenni ar gyfer gwarchod cragen llongau rhag yr anifeiliaid parasitig a drigai ym m么r y trofannau. Yn anffodus, byddai'r byllt haearn a ddaliai'r llenni yn eu lle yn cyrydu yn erbyn y copr. Ar y safle hwn hefyd y datblygwyd bollt copr a oedd mor gryf ag un haearn.

    Rhoddodd hwn fonopoli'r farchnad i Thomas Williams, bron, ac yr oedd mor llwyddiannus fel y cafodd yr enw 'Y Brenin Copr.' Erbyn heddiw llyn y felin, a yrrai'r rhodau d诺r, yw'r unig dystiolaeth sydd ar 么l.

    10. Abaty Dinas Basing. Bu Abaty Dinas Basing, sydd bellach yn adfail, yn gartref i fynachod o Urdd y Sistersiaid am 400 mlynedd. Cafodd ei sefydlu ym 1132 a'r mynachod oedd y rhai cyntaf i harneisio p诺er Nant Treffynnon a'i ddefnyddio i yrru melinau 欧d ac i drin gwl芒n.

    Yn ystod y Canol Oesoedd, datblygodd cymuned economaidd ac artistig ffyniannus o gwmpas yr Abaty a daeth yn gartref i nifer o feirdd Cymru. Gyrrwyd y mynachod o'r Abaty gan Ddeddf Dadwaddoli Mynachlogydd Harri VIII ym 1536. Cafodd y to a llawer o gerrig eu cario i ffwrdd a'u defnyddio i godi adeiladau eraill.
    Ni chyfyngir ar fynediad. Llawlyfr ar gael o'r Ganolfan Ymwelwyr.



    Digwyddiadau
    Chwaraeon
    Trefi


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy