成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Treffynnon
Ffynnon Gwenffrewi Ffynnon Gwenffrewi
Bu pobl yn ymdrochi yn Ffynnon Santes Gwenffrewi am dros 1,000 o flynyddoedd ac mae pererinion yn ymweld 芒'r Gysegrfan gydol y flwyddyn.
  • Oriel luniau o'r ffynnon
  • Yn 么l y chwedl, byrlymodd Ffynnon Gwenfrewi gyntaf yn y man lle torrodd Caradog, a oedd yn ceisio ei threisio, ben Gwenffrewi i ffwrdd gyda'i gleddyf.

    Cafodd ei chodi o'r farw'n fyw trwy wedd茂au ei hewythr Sant Beuno, a bu'n byw fel lleian tan ei hail farwolaeth tua 22 o flynyddoedd yn ddiweddarach.

    A yw hynny'n wir ai peidio, nid chwedl oedd Gwenffrewi, roedd yn berson o gig a gwaed a phersonoliaeth anghyffredin a pharhaus y Gymraes o'r 7fed Ganrif sydd wedi sicrhau ei bod wedi ei mawrygu fel santes byth ers ei marwolaeth.

    Ers yr adeg hynny hefyd, bu'r Ffynnon yn Nhreffynnon yn gyrchfan pererindota ac o iachau - yr unig fan ym Mhrydain gyda hanes di-dor o bererindota cyhoeddus ers tair canrif ar ddeg.

    Ceir cofnodion ers y ddeuddegfed ganrif o iachau ar 么l ymdrochi yn y Ffynnon ac mae'n parhau hyd heddiw.

    Mae casgliad da yn y Gysegrfan o faglau pren wedi'u taflu gan bobl a gafodd eu hiachau yn y gorffennol.

    Mae adeilad y presennol Cysegrfan yn un ysblennydd deulawr Unionsyth Gothig Diweddar a adeiladwyd ym mlynyddoedd cyntaf y 16eg ganrif ac nid oes mo'i debyg yn y byd.

    Mae'n adeilad Rhestredig Gradd I yn ogystal 芒 bod yn Henebyn Rhestredig.

    Ar safle'r Ffynnon mae Arddangosfa Ddehongliadol yn manylu ar hanes y santes a'i chysegrfan a cheir amgueddfa yng nghyn d欧 Fictorianaidd y gofalwr yn dangos hanes pererindota.

    Mae llwybr ar gael hefyd i alluogi ymwelwyr i arwain eu hunain o amgylch y Gysegrfan.

    Mae'r ffynnon sanctaidd yn dal yn brif gyrchfan pererindodau Catholig, ond mae croeso wrth y Ffynnon i'n hymwelwyr o bob ffydd, neu heb ffydd o gwbl, i rannu'i chymysgedd unigryw o hanes, harddwch a thawelwch.

    Mae'r fan sanctaidd hynafol hon yn cael ei chydnabod fel un o Saith Rhyfeddod Cymru.


    Cyfrannwch

    Paul o'r Wyddgrug nawr (dysgwr)
    Ges i fy ngeni yn Nhreffynnon. Mae'r pwll Gwenfrewi yn sefyll ble mae carreg meddal yn gorwedd uwch ben carreg caled. Mae'r glaw yn dod i lawr y bryn fel dwr yn y carreg meddal ag yna mae'n dod allan i rhedeg dros y carreg caled i'r mor. Mae llawer o ddiwydiannau wedi dod i Dreffynon yn 1775. Roedd pedwar melin o chwech llawr a llawer o ddywidiannau ar hyd y nant. Roedd Grosvenor Chater gweithiau papur, yn sefyll gyferbyn y dafarn Packet House, a lawer mwy.
    Thu Jan 7 22:32:25 2010


    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


    Digwyddiadau
    Chwaraeon
    Trefi


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy