'Dyw Rhys Jones ddim yn edrych fel un sydd dair blynedd o'i bedwar ugain. Yn wir, prin edrych yn drigain oed y mae. Ac mae ei osgo yn un sy'n gweddu'n fwy i un hanner ei oed. Ac eleni mae'r g诺r huawdl o Drelawnyd yn dathlu chwarter canrif o ddarlledu ar 成人快手 Radio Cymru, 25 mlynedd o'r llais melfedaidd a chwaeth gerddorol sydd wedi swyno miloedd o wrandawyr dros y blynyddoedd, ac yn parhau i wneud hynny ar Taro Nodyn bob bore Sul. I nodi'r garreg filltir hon, ar Ragfyr 11, cynhelir cyngerdd yn Neuadd Trelawnyd, lle bydd doniau cerddorol lu yn cymryd rhan gan gynnwys ei ferch, Caryl Parry Jones. Yno hefyd y bydd C么r Meibion Trelawnyd, Eden, Steffan Rhys Hughes ac Aled Lloyd Davies.
Mae'r cysylltiad gyda Trelawnyd yn un cynhenid. Dyma lle magwyd Rhys Jones, yn fab i nyrs gymunedol a dyn ffordd. Mae Rhys yn disgrifio ei dad fel 'brenin y pentref' ac yn un oedd ynghanol y berw diwylliannol - fo oedd arweinydd y C么r Cymysg a'r C么r Plant. Ac felly y magwyd Rhys, wedi ei amgylchynu gyda chanu corawl ac emynau. Roedd yn fagwraeth gyfoethog ond cyfyng o ran y repertoire cerddorol oedd ar gael iddo. Ond mae'r stori o sut y newidiodd hyn yn rhyfeddol, a bron fel ymyrraeth ffawd o edrych yn 么l.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe ail leolwyd disgyblion ac athrawon ysgol Babyddol mewn t欧 bonedd yn Nhrelawnyd. Un dydd, 芒'r bys yn orlawn, fe gododd Rhys, oedd yn 14 oed, i roi ei sedd i un o'r offeiriaid. Tua pythefnos wedyn, fe ddaeth yr offeiriad ar y bws ac eistedd wrth ymyl Rhys. "Do you like music?" meddai o. Ac wrth iddo ei holi pa gerddoriaeth yr hoffai, sylweddolodd Rhys mai'r unig gerddoriaeth roedd yn ei adnabod oedd cerddoriaeth y corau roedd yn eu clywed yn rheolaidd.
Ddyddiau yn ddiweddarach, daeth cnoc ar y ddrws cartref Rhys, ac yno roedd llanc gyda beic a basged ar ei blaen. Yn y fasged honno roedd anrheg i Rhys - gramoffon weindio a 6 record 78". Roedd yno hefyd nodyn. "Listen to these as often as you can. I'll exchange then for another six next Sunday. Brother Redmond." Dyma'r dyn oedd wedi cymryd gymaint o ddiddordeb yn ei chwaeth gerddorol ar y bws.
Yn sydyn i fyd y bachgen 14 oed, daeth lleisiau Caruso, Gigli, Harold Williams a cherddoriaeth cerddorfaol, opera, arias a symffon茂au.
Agorodd hyn fyd newydd i Rhys, gan danio ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth ymhellach. Roedd yn barod yn bianydd meistrolgar, ac o hyn ymlaen fe wyddai nawr mai cerddoriaeth oedd ei fyd. Ac felly y bu. Mae Rhys Jones yn awr yn un o'r cerddorion mwyaf adnabyddus yng Nghymru sydd yn gyfrifol am gyfoethogi etifeddiaeth gerddorol Cymru gyda'i gyfansoddiadau swynol.
O'i holi am uchafbwyntiau ei yrfa, mae'n enwi'r sioe Ffantasmagoria fel un o'r pethau mae'n fwyaf balch ohono, sioe anghofiadwy a wnaeth argraff ar bob un a'i gwelodd. Mae'n cyfaddef hefyd bod arwain cymanfa ganu Eisteddfodol yn rhywbeth sy'n rhoi tipyn o wefr hefyd.
"Beth bynnag dwi wedi ei wneud, dwi wedi ei wneud i'r eithaf," meddai.
"Dwi ddim yn si诺r os mai profiad ysbrydol neu ego trip ydi o, ond mae arwain c么r o 400 o leisiau y tu 么l i chi a 5000 o bobl o'ch blaen chi yn drip go anturus."
Yn ogystal 芒'r uchafbwyntiau, oes rhywbeth y mae Rhys yn difaru iddo beidio cael y cyfle i wneud neu fethu ei wneud?
"Dwi ddim yn gwybod os ydi hyn yn gwneud i mi swnio yn ben mawr, ond nag oes, alla i ddim meddwl am ddim," meddai'n onest. Ond mae'n meddwl am funud cyn ychwanegu, "mi faswn i yn licio taswn i wedi cwrdd Gwen fy ngwraig yn gynharach, a mi fydden ni y llynedd wedi dathlu trigain mlynedd o briodas yn lle hanner can mlynedd o briodas!"
Ewch i edrych ar luniau o gyngerdd diwethaf Radio Cymru - yn y Rhyl.