成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

成人快手 VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


成人快手 成人快手page
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Adolygiad

Llestri budron Caffi Basra

7 Awst 2007

Actorion

'Blas mwy' ar actor newydd

Ni fu Gwilym Owen erioed yn un o sioeau tafarn Cwmni Bara Caws. Ac yntau'n awr dros oed yr addewid ble gwell i'w anfon, felly, nag i weld Caffi Basra yn Theatr Clwyd - ac fe gafodd o wledd, o fath.

Dydw i erioed wedi bod yn un o sioeau clybiau Theatr Bara Caws o'r blaen.

A doedd gen i ddim syniad beth i'w ddisgwyl ac o holi hwn a'r llall y cyfan oeddwn i'n ei gael yn ymateb oedd gw锚n fach amheus fel pe bydden nhw'n awgrymu mod i'n mynd i gael dipyn o sioc.

Am wyth o'r gloch, felly, roeddwn i a chynulleidfa eithaf niferus yn Theatr Clwyd yn barod i wledda yng Nghaffi Basra - a chefais i ddim gwledd debyg erioed.

Llond sosbenni o regfeydd

Doedd yna ddim byd ar y fwydlen yn y bwyty unigryw hwn ond llond sosbenni o regfeydd ac anlladrwydd ac ni chollwyd ar yr un cyfle i raffu ensyniadau rhywiol fel sosejus dirifedi.

Ac roedd pob brawddeg bron gan bob un o'r amrywiol gymeriadau yn sicrhau bod y defnydd mwyaf posibl o bob gair a fyddai yn d芒n ar groen y saint yn cael ei ddefnyddio.

Buasai unrhyw feirniad drama yn cael cebyst o drafferthi dod o hyd i unrhyw fath o blot yn y lobsgows o sgript a baratowyd gan y prif actor, Eilir Jones.

Ond efallai nad oedd hynny yn bwysig i'r criw yma gan ei bod yn ymddangos i mi mai prif bwrpas Theatr Bara Caws ydi llwyfannu awr a hanner o adloniant pur (gair anffodus)ar gyfer trwch y boblogaeth.

A does dim o gwbl o'i le ar hynny.

Ond tybed er mor aruchel yw'r uchelgais nad oes angen rhywfaint mwy o ddisgyblaeth.

Gormod o bwdin sy'n tagu'r ci ac roedd yr hyn a welais i yn brawf fod rhemp ym mhob camp!

Yr actorion

Ond beth am yr unigolion?
Dim ond pump oedd yn y cast a bobol bach fe weithion nhw yn arbennig o galed.

Am awr a hanner doedd dim pall ar y clebar a'r symud a hynny ar lwyfan hynod o gyfyng.

Roedd cameos Dyfed Thomas fel croeswisgwr yn gampwaith. Awen Wyn Williams fel y slapar rywiol yn feistres mewn mwy nag un ffordd ar ei chrefft.

Gwenno Elis Hodgkins yn broffesiynol goman ac Eilir Jones yn gwneud ei orau, heb lwyddo, i'n perswadio fod Ffarmwr Ffowc yn cadw caffi.

Seren y noson

Ond seren y noson i mi oedd Iwan Charles - actor ifanc nas gwelais yn unman o'r blaen ac yn un sy'n mynd i fod yn gaffaeliad yn y dyfodol - ac yn absenoldeb Maldwyn John yr unigolyn a hoeliodd fy sylw i.

Ddim cweit yn barod

Yn y noson gyntaf y bum i acr wy'n si诺r y bydd y cwmni yn cael croeso mawr mewn clybiau rygbi a chlybiau chwaraeon ar hyd a lled Cymru ond rywsut doedd y gynulleidfa yn Theatr Clwyd ddim cweit yn barod am y fwydlen o anlladrwydd a roddwyd ger ei bron.

A beth amdanaf i fy hun?
Wel, mi alla i ddweud fy mod i wedi gweld un sioe glybiau o eiddo'r cwmni.

A falle bod hynny'n ddigon ar 么l pasio oed yr addewid gan fod yn rhaid i rywun fod yn ofalus rhag cael ei gyffroi'n ormodol - yn enwedig pan fo popeth wedi ei gyfyngu i'r meddwl bellach!



About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy