Pryd? 30 Gorffennaf - 6 Awst 2011
Ble?
Y Maes Tir Fferm Bers Isaf, oddi ar Ffordd Rhuthun, Wrecsam.
Maes B Campws Prifysgol Glynd诺r, Wrecsam yw lleoliad gigs Maes B eleni. Bydd dau lwyfan gyda chymysgedd o gerddoriaeth. Bydd bysiau gwennol rheolaidd yn rhedeg rhwng y maes carafannau / y maes ieuenctid a Phrifysgol Glynd诺r (lleoliad Maes B), gyda'r nos. Am fwy o wybodaeth am Faes B ewch i flog C2 neu i wefan Maes B
Maes C a'r maes carafannau Mae'r maes carafannau wedi ei leoli wrth ymyl Maes yr Eisteddfod ar dir fferm Bers Isaf. Cynhelir digwyddiadau nos Maes C yn Ysgol Clywedog (yr hen Ysgol Bryn Offa), sydd gyfochrog 芒'r maes carafannau. Gellir archebu tocynnau trwy gysylltu 芒'r Eisteddfod Genedlaethol. Bydd bysiau gwennol rheolaidd yn rhedeg rhwng y maes carafannau / y maes ieuenctid a Phrifysgol Glyndwr (lleoliad Maes B), gyda'r nos.
Maes D Lleolir Maes D (pabell y dysgwyr) ar Faes yr Eisteddfod. Bydd nifer o weithgareddau trwy'r wythnos ar gyfer dysgwyr Cymraeg.
Cyngherddau nos Cynhelir cyngherddau yn y Pafiliwn pinc ar Faes yr Eisteddfod bob nos. Am fanylion llawn cyngherddau 2011 ac i archebu tocynnau, ewch i wefan yr Eisteddfod Genedlaethol.
Gigs Cymdeithas yr Iaith Clwb Gorsaf Ganolog yn Stryt yr Allt (tu cefn i Regent St, prif stryd canol dre Wrecsam) yw lleoliad y gigs eleni. Ceir mwy o wybodaeth ar flog C2 a gwefan Cymdeithas yr Iaith.
Bysiau gwennol Bydd bysiau gwennol yn rhedeg yn rheolaidd pob deng munud rhwng y Maes, yr orsaf fysiau a'r orsaf drenau drwy'r dydd a than ddiwedd y cyngherddau nos. Bydd bysiau gwennol rheolaidd yn rhedeg rhwng y maes carafannau a'r maes ieuenctid a Phrifysgol Glynd诺r (lleoliad Maes B), gyda'r nos.
Gallwch gael manylion pellach ar sut i gyrraedd y Maes, lein-yp Maes B a Maes C a gwybodaeth am y cyngherddau nos ar wefan swyddogol yr Eisteddfod Genedlaethol
Cliciwch yma i weld map o'r prif leoliadau a thaith y bws wennol.
Sylwer: Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol
Mwy
Cysylltiadau'r 成人快手
Cysylltiadau Rhyngrwyd
O'r Maes
Yr wythnos a fu
Yr holl straeon, erthyglau am y prif enillwyr a chyfraniadau dyddiol Gwilym Owen.
Holl ganlyniadau, clipiau fideo a blogiau o Brifwyl 2012.
Sain a Fideo
Clipiau archif
Clipiau arbennig o archif 成人快手 Cymru gan gynnwys cadeirio Robat Powell yn 1985.